Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
20/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul diwrnod dwl lled oer. Y Mam ac E Griffith yn mynd i Erwsuran i’r Bregeth. Will yn mynd i’r Ty ucha. Mam, Griffith Elin a Betty yn mynd i’r Dre Madoc i’r Bregeth are eu traed. yn dyfod yn ddryghin. Yfi yn gyrru tri cheffyl yno iddynt ddyfod adref
|
21/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod lled oer ac yn bwrw peth eira yn y boreu yn gyru’r helm Haidd i mewn Owen wedi mynd a Jack[ceffyl?] i’r Efail. E Griffith yn mynd adref Elin a Betty yn mynd i Dyddynadi. Will a Huwcyn y Prydnhawn yn y Morfa yn gwastadau tyllau Sion yn Dyrnu
|
22/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg braf wedi rhewi’n bur galed. Y Meibion yn mynd a llwyth o’r hen wair o’r Morfa i’r Beudyucha. Will yn mynd i’r Morfa i ddechreu Aredig
|
23/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod lled ddwl ac yn bwrw peth. Will yn y Morfa yn Aredig Huwcyn yno yn gwasdadau Minau yn mynd i Dremadoc i ddanfon fy Esgidiau i’w trwsio ac i chwilio am rai newyddion. yn dyfod adref erbyn hanner awr wedi 9
|
24/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod oer dryghinllyd ac yn bwrw eirlaw. Cyfarfod Dissenters yn Carreg y Felin ar dir yr Eisteddfa plwy Ynyscynhaearn. Y Mam wedi mynd yno, Will yn y Morfa yn Aredig. Huwcyn a Sion yno yn gwastadau tyllau Owain wedi mynd a’r Ebolas i’r Efail
|
25/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod oerllyd ac yn lled fwrw eira ac wedi bwrw peth neithiwr. Y Meibion yn y morfa yn gwastadau Yfi yn trwsio dor y Beudyucha yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
26/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod oer wedi rhewi’n bur galed. Yfi yn mynd i Gaernarfon efo Morris Jones a Rob.t Jones Tremadoc mewn Chaise i ymofyn Drain gwynion i’w planu oddiwrth John Norton Caemawr ac yn ymdroi peth yn Tyddyn Elen ac yn dyfod adref erbyn hanner nos.
|
27/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg braf wedi rhewi’n bur galed.
|
28/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg wedi rhewi’n bur galed. Y Meibion yn carrio’r calch oeddwn wedi ei gael i Rundre’r Ty i Hendratyfi i Bytatws. Griffith Williams Overseer yma yn nol Treth y Tlodion. Owain wedi bod a Denbigh [ceffyl?] yn yr Efail. minau wedi bod yn goddeithio Cors Cae’rhafodty a pheth o’r ochr, ac yn gweithio peth ar y Clawdd yn y drws.
|
29/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl tebig i fwrw eirlaw. Y Meibion wedi mynd i Reiniog i nol y llwyth mawr. Y ddau oen bach cyntaf yma yn dwad. Yn bwrw gwlaw yn y Prydnhawn
|
1/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod lled Ddryghinllid ac yn bwrw cafodydd. Y Meibion yn nol gwair o Gaegoronw. Sion yn darfod dyrnu un helm Haidd. Minau yn mynd i Dremadoc i’r Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Eifionydd ar Cospi Lladron. Unarbymthegarhugain o’r aelodau yn Ciniawa Will yn dyfod a’r ceffyl i fy nol ac yn dyfod adref cyn deg
|
2/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod lled oerllyd. Y Meibion yn mynd i’r Morfa i Aredig ac i wastadau. Yn dwad yn lluwch mawr y Meibion yn dwad i fyny o’r Morfa ac yn mynd i nithio’r Haidd
|
3/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod teg wedi rhewi’n bur galed. Will yn mynd i Aredig i Gae’r hendra a’r lleill yn gorphen nithio’r haidd. ac yn mynd i buro. Minau yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Yn gwerthu’r Gwartheg allan (Bustuch) i Tom Davies gwas M.r Williams Coedaeres. ac yn dyfod adref erbyn naw o’r nos
|
4/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Yn bwrw eira’n lled drwm yn y boreu Will yn mynd i Aredig i Gae’r hendra Sion yn Cau Clawdd yr Ardd. Owain yn mynd a Captan [ceffyl?]a Farmer [ceffyl?] i Efail Sion Evan Pentra’r Felin. o ran nad oedd werth mynd a hwy at ‘ofaint Tremadoc. Yn mynd efo’r Meibion i chwilio am ddau gi oedd dieithr oedd o gwmpas Hendra howel oeddis yn eu drwg dybio yn cerdded llawer hyd ôl eu traed yn yr eira ac yn dyfod hyd i’r ddau yn gorwedd ar ben cae Hendra howel yn Saethu at un ohonynt a’r ddau yn mynd i lawr heibio i Bortreuddyn i’r Ffordd fawr Will ac eraill yn mynd are eu hol ac yn lladd un sef gâst Sion Hugh Cerrigyrhwydwr yno
|
5/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg yr eira yn parhau ac wedi rhewi’n bur galed. Yfi’n mynd i Benmorfa i’r Llan. Huwcyn yn cael Mam oen bach wedi dwad tros y graig wrth Trwyn y garreg. Y finau yn cael oen bach yn yr allt wedi i Fam ei adael y ddau yn dwad at y Ty . Yn cael hyd i Fam arall.
|
6/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg-distaw wedi rhewi’n galed. Ffair yn Pwllheli Yn gyru’r helm haidd ddiwetha i mewn. Y meibion yn nol llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd ac ar ol darfod yn teilo oddiyno i Hendra tyfi y ddau oen bach wedi marw. Yn mynd a llwyth o’r hen wair y Morfa i’r Beudyucha. Yn talu chwech swllt o’i gyflog i Owen Jones mab Sion Jones Pant llwyd Sion y Dyrnwrai wraig yn mynd a Thelaid o Haidd adref
|
7/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth wedi bwrw eira yn o drwm. Yfi yn gwneud caead i’r Drol. Ffair yn Penmorfa Y meibion yn teilo oddiwrth y Beudy Newydd i’r Gelli wastad . Fi yn mynd i’r ffair Robt Lloyd yma yn Pwyso’r Caws chwech chant a deuddeg pwys a deugain
|
8/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mercher Diwrnod teg Y meibion yn mynd i’r Morfa i Aredig. Fi yn mynd i Ffair Ffestiniog Yn gwerthu’r menun [sic.] ac yn prynu ceirch hâd o Gwernhowel Sir Dymbych [sic.]
|
9/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl lled niwlog claiar. Will yn aredig yn Cae’rhendra y lleill yn gwastadau yn y Morfa.
|
10/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod hindda lled wyntog. Y Meibion yn y Morfa yn aredig Fi’n mynd i Dremadoc i’r Farchnad . ac yn cael arian y Moch gan Harry Owen
|
11/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg ffeind wedi rhewi ‘chydig. Y Meibion yn y Morfa yn Aredig. Yn disgwyl Owen Humphreys yma hyd unarddeg o’r gloch i fynd i osod y Ffordd fawr i’w thrwsio tan allt y llys yn gorfod mynd fy hûn ac yn ei gosod am 1/3 [s/d] y rhwd, a 6 swllt am wneuthur dwy gwtar. Yn mesur clawd sydd yn yr allt gyd efo Humphrey Lloyd wrth ddyfod adref 15 Rhwd a hanner
|
12/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg lled wyntog ...
|
13/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod Claiar distaw. Y Meibion yn y Morfa yn Aredig. Evan James a Robert Griffith (ei fab ynghyfraith) yn dyfod yma i Lifio. Y Meibion yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd.
|
14/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod gwlawog a niwlog yn y boreu. Y meibion yn nol gwair o Gaegoronw Lexiwn yn Harlech Harry Edward Hendrasela yma yn nôl Hobad o Haidd am Gini
|
15/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod niwlog claiar hynod. Will a Huwcyn yn y Morfa yn Aredig Fi yn mynd i Gynhebrwng Edward David Braich y Dinas. Betty yn mynd i Gynhebrwng Gwraig Evan Ellis y Gôf i’r Ynyscynhaiarn. Y fi yn ymdroi yn y Clenney. Ac yn mhenmorfa ac yn dyfod adref erbyn unarddeg o’r gloch y nos
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|