Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
25/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Diwrnod sych distaw clir Dydd Nadolig Newydd. Dic yn dwad a chlo^s newydd oddiwrth G. Jones y Tailiwr  Brawd Wm. Owen yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod distaw tyner iawn. Thomas William y Cigydd yma'n lladd y Fuwch. Grace Jones Cae Eithintew yn dwad yma. Elin yn mynd efo hi i'r Towyn.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl a gwynt trwm iawn yn y Prydnhawn. Y Meibion yn mynd a llwyth o wellt i'r Beudy ucha ac yn rhiglo o gwmpas Tomen y Beudy newydd. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad yn gwerthu'r Moch i Harry Owen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod dwl distaw ac yn dwad yn wlaw trwm at yr hwyr Wil Sion a Dic yn nol Siwrna o Wair o Gaegoronw i'r Beudy ucha gynta eleni. Fi a Wil Owen yn mynd a'r moch iw pwyso i Dremadoc un yn pwyso 321lb y llall 314 lb.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl distaw. Fi wedi bod yn y llan Gwen Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn. Elin yn    efo hi i Gapel y Dref i Bregeth.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/12/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod teg distaw. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol y llwyth diwaethaf[sic] o Fawn. Wil y Gorllwyn yn dwad yma i wneud Cewill. Mam wedi mynd i Benmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Dydd Calan newydd. Diwrnod gwlawog yn y boreu gwell at y Prydnhawn. Fi yn mynd i Benmorfa i gyfarfod Mr Holland ac eraill i barattoi'r papurau'r papurau rhifedi'r bobl y plwy i fynd i ffwrdd. Sion Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma i dalu ei Ardreth ac yn cysgu yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod distaw ac yn bwrw ambell gawod o wlaw a chenllysg. Will Owen wedi bod yn danfon llwyth o Geirch i'r Odyn. Fy Ewythr Owen Edward Tyddyn y gwynt yn dwad yma i dalu ei Ardreth ac yn cysgu yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod tyner distaw. Wil Owen a Dic yn mynd at y Trainsia [sic. traeniau] i’r Tymawr. Wil Sion yn Dyrnu.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog lled oer, ac Eira hyd bennau'r Mynyddau. Will Owen a Dic efo' Trainsia yn y Tymawr. W. Sion yn Dyrnu. William Owen y Gwyndy yn dwad yma. Fi yn mynd i'r Farchnad i Dremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog lled oer, ac Eira hyd bennau'r Mynyddau. Y Meibion efo'r Trainsia yn y Tymawr Fi yn Saethu Cidill coch wrth y Beudy newydd ac yn saethu ysgyfarnog yn Llainderiadd Sion Hugh a Sion Morris yma'n Talu eu hardrethi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod sych. Fi yn mynd i Dremadoc yn disgwil Mr. Williams ddwad i Benmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod sych distaw wedi rhewi 'chydig Wl Owen yn mynd a chlwydad o Geirch i'r Odyn. Fi yn mynd i Benmorfa, diwrnod talu yr Ardreth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod sych yn y boreu ac wedi rhewi ychydig. Fi yn mynd i Benmorfa yn dwad adref heb dalu fy rhent fy Ewythr Tyddynygwynt yn fy nghyfarfod wrth Ffactry [sic. Ffatri] Tanrallt o achos Talu ardreth y Brenhin [sic. Brenin]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod sych, distaw ac wedi rhewi peth  Y Meibion wedi mynd i’r Felin i silio. Fi wedi bod yn Maentwrog yn siarad efo Derbynwyr Ardreth y Brenhin [sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod sych distaw. Y Meibion yn dechreu [sic.] Teilo oddiwrth Feudy Ty’n y bwlch  Fi wedi bod yn y Glynn yn talu fy Ardreth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl budr. Y Meibion yn teilo oddiwrth Feudy ty’n y bwlch. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl budr. Y meibion yn teilo oddiwrth y Beudy uch [sic.] Dic wedi bod a Thelaid o Wenith yn Melin [??] benllig yn ei falu. Robert y Gorllwyn yn dwad Gaseg [sic.] yma iw gwaedy [sic. gwaedu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl lled oer. Fi yn mynd i Aberglaslyn a Mr.Owen heb fod gartref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl gwyntog lled oer. Wil Owen wedi bod yn nol hanner Tunell o Glo. Richd Ellis Reiniog yma 'nol treth Tylodion [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod oer  Wil Sion a Dic yn dwad a dwy Siwrna o Wair o Gaegoronw i'r Beudy ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/1/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ma^n. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha. Fi yn mynd i Pwllheli yn prynu dau Fochyn gan Morris Jones y Parkia. wrth fynd yn mynd heibio i Langybi ac yn ymdroi peth yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl. Y Meibion yn gorphen teilo oddiwrth y Beudy ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl lled fudr , gorphen teilo oddiwrth y Beudy ucha. Dic wedi bod y nghyfarfod [sic.] y ddau Fochyn. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad  Mody Owen y Cefn Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/1/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl lled fudr. Wil Owen wedi mynd a heyrns [sic.] y Gwydd Aradr i’r Efail. Robt.Lloyd yma’n pwyso’r Caws. Mody Owen yn mynd adref. Elizabeth Owen Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax