Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
20/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl claiar. Owen Roberts yn dwad yma
|
21/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl claiar. Yn dechreu Aredig yn y Caelleppa ucha...
|
22/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl claiar iawn. Wil Owen a Dic yn Aredig yn y Caelleppa ucha, y lleill yn nithio Ceirch
|
23/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl claiar iawn. Wil Owen a Dic yn Aredig yn y Caelleppa uch [sic.]. Y lleill yn Nithio Ceirch
|
24/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl budr claiar Wil Owen a Dic yn Aredid [sic. aredig] yn y Caelleppa ucha. Wil Sion yn chwalu Tail yn y Weirglawdd [sic.] ucha. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri.
|
25/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod dwl claiar budr. Wil Owen a Dic yn Aredig yn y Caelleppa ucha, yn torri’r swch. Fi ac Elin wedi bod yn Tre Madog [sic.] yn y Farchnad. Yn rhoi’r Helm Haidd yn y Sgubor
|
26/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl claiar budr. Wil Owen a Dic yn chwalu tail yn y Weirglawdd [sic.] ucha. Wil Sion yn dyrnu Haidd Mam ac Elin wedi mynd i Hendragwenllian i edrych am y Wraig ar Enedigaeth dyn bach
|
27/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl claiar iawn
|
28/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl claiar iawn. Wil Sion a Dic yn nol Gwair o Gaegoronw. Wil Owen yn gorphen chwalu Tail yn y Weirglawdd [sic.] ucha. Fi yn mynd i Dremadog ar Ciniaw. Yn dwad a Ffisig efo mi iw roi i’r Ebolas ddu oedd yn sâl. Yn dwad a Gwerthyd at y Dwrn Wil Sion yn dwad i’r Dref ar fy ôl i ddweyd [sic.] fod Eidion yn sal yn y Beudy ucha
|
29/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl claiar iawn. Wil Owen a Dic yn Aredig yn y Caelleppa ucha. Wil Sion yn Dyrnu
|
30/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod teg distaw claiar. Wil a Dic yn gorphen Aredig y Caelleppa ucha, ac yn dwad i ddechreu Aredig i Gae’r hendra Wil Sion yn dyrnu. Y Fuwch Cainsan wedi dwad a llo bâch Beggy Owen wedi mynd i Briodas merch y Reiniog
|
31/1/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod teg distaw claiar. Wil Owen a Dic yn mynd a llwyth o Wellt ir Beudy ucha, ac yn mynd i Aredig i Gae’r hendra Wil Sion yn dyrnu. Bachgen oddiwrth Owen Thomas Cefn coch ucha yma yn nol Arian oedd yn dwad i’r Plwyf o Dreth y Ffordd fawr YN DARLLAW.
|
1/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog dryghinllyd. Wil Owen a Dic yn Aredig yn Cae’r hendra yn torri’r Aradr. ac yn mynd i deilo lludw. Wil Sion yn dyrnu. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
2/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog a gwlawog dryghinllyd iawn Y Meibion yn nithio Haidd. Gwynt trwm iawn ar hyd y dydd a llawer o’r nos. Gwyl fair Newydd
|
3/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg distaw claiar
|
4/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod distaw claiar ac yn tebygu i wlaw at y Prydnhawn. Y Meibion yn gorphen teilo’r lludw Wil Sion yn Dyrnu Mam wedi mynd i Gae Eithintew. Mr.Williams Towyn yn galw yma fina yn mynd efo fo i Forfa Aberdeunant i edrych y Terfyn rhwng y ddau Blwy [sic.Blwyf]. Fi yn trwsio’r Gwydd Aradr.
|
5/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dryghinllyd, gwlawog a gwyntog iawn
|
6/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych , lled wyntog. Wil Owen a Dic yn teilo i’r Bryncoch. Wil Sion yn Dyrnu. Wmphra Parry y Big yma’n prynu Crwyn Defaid. Fi yn tai [sic.] uwch pen drws llofft yr Hoywal [sic.] efo cherrig mawr Lowry gwraig Robt.Pritchard Tremadoc yma.
|
7/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod gwyntog a gwlawog Dryghinllyd iawn yn y boreu, tecach at hanner dydd. Yn Gwaedy’r [sic. gwaedu] lloia ac yn ei gyrru i fynu [sic.] i’r Tymawr. Wil Owen a Dic yn Gorphen Teilo i’r Bryncoch – Wil Sion yn Dyrnu
|
8/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod claiar distaw, Wil Sion a Dic yn carrio Gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha W.Owen efo’r Trainia [sic. traeniau] yn y Tymawr.
|
9/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog gwlawog a Dryghinllyd iawn. Wil Owen a Dic wedi bod yn Aredig peth y Nghae’r Hendra Wil Sion yn dyrnu. Fi wedi bod yn Hendrahowel yn edrych am Robert
|
10/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl budr claiar
|
11/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl a gwlawog yn y boreu, yn rhoi eira hyd bennau’r Mynyddau [sic.]. teg yn y prydnhawn. Dic wedi bod a’r tri cheffyl gweithio yn yr Efail. Wil Owen efo’r Trainsia [sic. traeniau] yn y Tymawr Wil Sion yn diwedd dyrnu’r Helm Haidd gyntaf eleni
|
12/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg clir distaw. wedi rhewi peth neithiwr. Wil Owen a Dic yn mynd a llwyth o Wellt i’r beudy newydd ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’e Beudy newydd Wil Sion yn Nithio Haidd.
|
13/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych lled wyntog ac yn tebygu i wlaw ar ol wybr goch iawn yn y boreu. Yn gyru’r Ail helm Haidd i mewn. Wil Owen a Dic yn mynd i aredig ar ol darfod, a Wil Sion yn mynd i ddyrnu. Harry Owen Tyddynadi yma yn ymdroi peth wedi bod yn y Gymdogaeth yma yn prynu Mamoga
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|