Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych teg claiar distaw. Wil Owen a Dic yn Aredig yn Cae’r Hendra. Wil Sion yn dyrnu Haidd
|
15/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych teg distaw claiar Wil Owen a Dic yn gorphen Aredig yn Cae’r Hendra, Wil Sion yn dyrnu Haidd Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
16/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg yn y boreu, ac yn tebygu i ddryghin at y Prydnhawn. Yn carrio gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha Wil Owen efo’r Trainsia [sic.] yn y Tymawr. Gwlaw trwm iawn yn y Prydnhawn, Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma gyd ar twyllnos [sic.]
|
17/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod dwl claiar
|
18/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl claiar tebig [sic.] i fwrw gwlaw. Wil Owen yn Aredig yr hen ardd isa. Dic yn agor ffôs yn y Morfa W.Sion yn dyrnu, Elizabeth Griffith yn mynd adref, Elin yn mynd yno efo hi. Twm Jones yn dwad a chaseg Elin adref. Morris Jones yma
|
19/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg iawn a distaw. Y Meibion yn dechreu Aredig yn y Weirglawdd [sic.] ucha, Fi wedi bod yn gosod clawdd mynudd [sic.] Tymawr peth iw ail wneud, a pheth iw drwsio, ameu ail wneud 3/? s d am drwsio 1/6 s d y rhwd
|
20/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl gwlawog a dryghinllyd yn y boreu, teg at y Prydnhawn. Y Meibion yn trwsio’r Gwtar [sic. gwter] rhwng Hendratyfi a Buarth tair derwen. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
21/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg distaw. Y Meibion yn aredig yn y Weirglawdd ucha Wil Sion yn dyrnu. Fi yn mynd i Langybi ac yn mynd trwy Benmorfa at Mr.Williams y Steward oedd yno.
|
22/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn Aredig yn y Weirglawdd ucha Wil Sion yn Dyrnu. Fi yn Llangybi Priodas Elizabeth Owen
|
23/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn Aredig yn y Weirglawdd ucha Fi yn Llangybi
|
24/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod dwl claiar. Fi yn Llangybi
|
25/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn darfod Aredig yn y Weirglawdd ucha. Wil Sion yn darfod dyrnu’r ail helm Haidd. Elin a Minau yn dwad adref o Langybi

26/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl tebig [sic.] i ddryghin. Y Meibion yn Nithio Haidd. Dic wedi mynd a chaseg Llangybi adref. oedd wedi dwad i ddanfon Elin
|
27/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod claiar distaw teg. Yn gyru’r helm Geirch i mewn. Risiart Owen yma oddiwrth Mr.Williams Towyn yn nol Arian calch, Wil Owen a Dic yn grafaelio’r Gwtar rhwng Hendratyfi a buarth tair derwen. Elin wedi bod yn Bronygadair. Finau wedi bod yn Tremadoc
|
28/2/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod clir teg lled wyntog. Wil Owen a Dic yn teilo i’r Caelleppa ucha Wil Sion yn dyrnu. Mam wedi mynd i GefnyMaesydd isa.
|
1/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod clir teg. Wil Owen efo Trainsia [sic.] yn y Tymawr, y lleill yn dwad a siwrna o wair o Gaegoronw i’r Beudyucha, a siwrna i’r Beudy newydd. Fi yn mynd i Dremadoc Cyfarfod blynyddol Cymdeithas Eifionydd er Cospi Lladron y Nhremadoc Pedwar deg tri o’r Aelodau yn Ciniawa.
|
2/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw. Y Meibion yn teilo i’r Caelleppa ucha. Yn planu Clorenod yn yr Ardd
|
3/3/1822 | |||||||||||||||||
Penteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
Mawrth 1822 3. Dydd Sul Diwrnod dwl sych. Will Owen wedi mynd adref
|
4/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl, gwlaw a dryghin trwm at ganol dydd Y Meibion yn teilo i’r Caelleppa ucha, a dryghin yn eu curo. T.P.J. Parry a Mr.Williams Towyn yma’n edrych y Tir.
|
5/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych gwyntog. Fi yn mynd y boreu i’r Towyn at T.P.J. Parry gartref cyn deg. Y Meibion yn teilo i’r Caelleppa ucha. Ffair yn Pwllheli
|
6/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod lled ddryghinllyd. Ffair y mhenmorfa [sic.] Yn mynd a’r Gwartheg allan yno ac yn eu gwerthu i Silvanus Jones am bris is nac ydwyf yn ei gofio erioed. Owen Roberts a Robert Thomas yn dwad yma o’r Ffair
|
7/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod lled ddryghinllyd. Y Meibion yn Teilo i’r Caelleppa ucha. Fi yn mynd i Ffair Ffestiniog yn prynu Ceirch hâd bum pegaid am 19.6s d y peg. ac yn gwerthu’r Ymenun [sic.]. Wil Sion yn dwedd [sic.] dyrnu’r helm Geirch
|
8/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw Cawodydd trymion oerllyd, y Meibion yn nithio Ceirch Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
9/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod budr gwlawog. Wil Owen wedi cychwyn bedwar o’r gloch y boreu i Dy newydd y Mynudd [sic.] i nol Ceirch hâd. Dic wedi bod yn Caellygaidhir Tanrallt yn chwilio am hesbwrn ac heb gael yr un. yn diwedd nithio’r Ceirch ac yn dechreu puro’r Haidd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|