Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
10/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod lled wyntog ac yn bwrw ambell gawod oer Yn mynd i Dremadoc i wrando ar Edward Davies yn Pregethu Morris Jones Siopwr yn dwad efo mi adref Elin yn aros yno
|
11/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych oer lled wyntog. Dic wedi bod yn y Ffarm Yard yn nol hespwrn. Yn mynd a llwyth o Wellt i’r Beudy ucha, ac yn mynd i Deilo i’r Caelleppa ucha
|
12/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod teg distaw claiar. Wil Sion wedi mynd a’r Ebol i’r Efail. Mary wedi mynd a phwn o Haidd i’r Felin isa y lleill yn teilo yn y Bryncoch i Fytatws [sic.], Richd. Ellis yma’n seinio’r Assessment i hel treth tylodion [sic.]
|
13/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg distaw. yn rhoi’r Helm Haidd ddiwaetha [sic.] i mewn. Yn teilo i’r Caelleppa ucha. Wil Owen wedi bod ac Aradr y Morfa yn yr Efail. Wil y Gorllwyn yma yn gwneud Cewill [sic. cewyll]. Fi yn tori rhai Clorenod.
|
14/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod teg distaw claiar. Yn dwad a Llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Yn mynd i hel mamoga [sic. mamogiaid] iw gwerthu, Harry Owen yma yn prynu ugiain [sic.] Wil Sion a Dic yn ei danfon i’r Dref. Wil y Gorllwyn yn dechreu dal tyrchod daiar [sic.]. Wil Owen wedi mynd i’r Efail i nol Aradr y Morfa [darlun o jwg ar ochr y dudalen]
|
15/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod teg distaw. Yn dwad a dwy siwrna o Wair o Gaegoronw i’r Beudy ucha. ac yn dechreu aredig yn Gwern clowna. Sion Hugh Drwsyrymlid yma eisia cau y rhaniadauy mynudd Llanfair. Fi yn efo fo i’r Farchnad. Yn cael basged o Pwllheli Gaernarfon a plans [sic. planhigion?] Cabbage a phys ynddi heb wybod oddiwrth bwy. Yr oen bach cyntaf eleni yma
|
16/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dryghinllyd iawn. Yn gorphen aredig Gwernclowna. Fi yn planu [sic.] tri dwsin o Fresych cynar yn yr ardd [darlun o botel ar ochr y dudalen]
|
17/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod budr yn bwrw gwlaw dwys claiar ar hyd y dydd. [darlun o lythyren P addurnedig ar ochr y dudalen]
|
18/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl mwll, Yn dechreu Aredig yn yr hen Forfa Gwair
|
19/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw gwlaw dwys weithia. Mwinig yn dwad a Llo rhwng un a dau o’r gloch y boreu heddyw [sic.], ac yn bwrw ei Llestr Llo. yn ei roi yn ei ol, hithau yn sâl iawn trwy’r dydd. Fi wedi bod yn Tremadog. W.Williams yr hên Wâs yn dwad a Brithylliad [sic.] yma. Wil Sion Japheth yn dwad a Llythur [sic.] yma o Langybi, yn dechreu Aredig yn y Cae main,
|
20/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl mwll, ac yn bwrw gwlaw mân dwys claiar, Sionun wedi bod a’r Cwlltwr yn yr Efail- yn Aredig yn y Cae main
|
21/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Iau. Diwrnod dwll [sic.] mwll, ac yn bwrw gwlaw mân dwys Yn Aredig yn y Caemain, yn dal yr Ebol gwina (Farmer) gynta Eleni Mari wedi mynd a Thelaid o Wenith i Felin rhyd Benllig iw Falu Sion Jones Glanygors yma'n trwsio’r Beudy ucha. Yn rhoi Wya dan yr Wydd. Fi yn mynd i’r Festri yr oedd yr ofersirs [sic. overseers] yn rhoi eu cyfri i fynu [sic.] William Robert Baili yma’n danfon rhybudd imi fynd i’r Sesiwn
|
22/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl distaw claiar Yn Aredig yn y Caemain. Yn planu Ffa a Phys gyntaf eleni Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Elin yn mynd i Langybi
|
23/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych lled oer. Yn gorphen Aredig y Caemain. Fi yn mynd i Langybi, yn ymdroi peth y Nghriccieth
|
24/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych lled oer
|
25/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych lled oer. Fi ac Elin yn dwad adref o Langybi. Fi yn ymdroi peth yn y Cyfarfod Ustusiad y Nghriccieth Dafad yn misio dwad ac oen Fi yn ei dynnu yn ddarnau wedi Madru [pydru]. Y Meibion yn Aredig yn y Morfa
|
26/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth, Diwrnod niwlog claiar. Y Meibion yn Aredig yn y Morfa. Fi wedi bod yn y Traeth yn Genweirio. Yn dal y ddau Lwdwn oedd wedi bod yn y Farm Yard, a Llwdwn y Farm Yard efo hwy. Robt.Sion Hendrahowel yma
|
27/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl lled fudr. Y Meibion yn nol Gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha, ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy ucha Richd.Ellis yma’n nol Trethi Tylodion [sic. tlodion]. Yn lladd y ddau lwdwn [sic.lwdn]
|
28/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl budr claiar. Yn Aredig yn y Morfa Fi wedi bod y Mhenmorfa yn y Festri
|
29/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod teg distaw. yn Aredig yn y Morfa Wil Sion yn diwedd dyrnu’r Haidd. Fi yn mynd i’r Farchnad i Dre Madog [sic.]. Mr.Williams y Benar yno
|
30/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwlawog iawn yn y boreu a gwynt trwm iawn yn y Prydnhawn. Yn Aredig yn y Morfa. Fi yn mynd i Langybi i osod Ty Tynlôn iw wneud. Elizabeth Griffith Llangybi yn galw yma wrth ddyfod Adref o Ffair Wrexham. ac yn fy nghyfarfod i wrth Llanystymdwy [sic.] wrth fynd adref
|
31/3/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych oer wedi rhewi peth neithiwr. Fi wedi bod yn y Llan
|
1/4/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwlawog yn y boreu, ac yn rhoi eira hyd bennau’r mynyddau. teg a sych yn y Prydnhawn. Yn dwad a dwy siwrna o wair o Gaegoronw i’r Beudy newydd. Yn dechreu teilo o’r Domen yn y Caemain i’r Caelleppa ucha. Fi wedi bod yn Tremadoc yn prynu deunydd hosanau botymog Pedwar o bobol yn dechreu trwsio clawdd mynudd [sic.] Tymawr
|
2/4/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych teg. Yn gorphen teilo’r Caelleppa ucha. Prentis Risiart Robert y Crydd yn danfon Par o Esgidia newyddion, a Phar o Esgidia wedi ei gwadnu i mi Griffith Jones y Tailiwr [Sic. teiliwr] yma yn gwned [sic.] gwasgod a hosanau botymog newyddion i mi
|
3/4/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl sych. Yn dwad a dwy siwrna o Wair o Gaegoronw i’r Beudy newydd. Yn Hau Winiwns [sic.] a Llysiau cochion [moron??] cynnar. Yn dechreu Llyfnu Ceirch du, yn Wernclowna ddaliad y Prydnhawn. Humphrey Parry (alias Hwmphra’r Bîg ) yma’n prynu crwyn defaid.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|