Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
4/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod dwl tebig i wlaw. Yn Llyfnu’r Weirglawdd [sic.] ucha ac yn dechreu llyfnu’r Caelleppa ucha. Robt. Griffith y saer yn dwad yma, ac yn mynd ai Arfa i ffwrdd. Fi yn mynd at Gaernarvon at y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych oer. yn diwedd llyfnu’r Cae lleppa ac yn dechreu llyfnu y Caemain. Yn mynd ar Ymenyn i’r Dref y Dyn heb ddwad yno iw bwyso. Fi y ‘Nghaernarfon [sic.] yn y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych oer, Yn diwedd llyfnu y Caemain. Y Fuwch a fwriodd ei Llestr Llo yn marw. Fi yn dwad adref o Gaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul Diwrnod sych oer Sul y Pasg Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun y Pasg. Diwrnod sych oer. Fi yn mynd i Gaernarvon Eira tew hyd bennau’r mynyddau. Hugh Griffith Druggist yn dwad i fy anfon i’r Bettws. Fi yn cysgu yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych oer ac yn bwrw ambell gawod o Eira. Yn aredig yn y Morfa. Y lleill yn curo biswail. Fi yn dwad adref wedi cysgu neithiwr yn y Bettws


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych oer ac Eira hyd benna’r mynydda [sic.] Yn dwad a siwrna o Wair o Gaegoronw i’r Beudy ucha a siwrna i’r Beudy newydd, y lleill yn curo biswail. Yn aredig yn y Morfa ddaliad y Prydnhawn. Ann Sion yn dwad a lleda [sic. lledod?] yma. Dynion yn marcio rhan Madocks o’r Morfa. Wil Owen yn danfon Croen y Fuwch i’r Barcdy yn pwyso pump deg wyth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod sych oer Dic wedi mynd a’r tri cheffyl gweithio i’r Efail. Y ddau arall wedi bod yn cau clawdd Mynudd [sic.] y Tymawr. Yn diwedd chwalu biswail. Sion Glanygors yma yn nol tâl am godi bwlch y nghlawdd y mynudd wrth adwy Tyddynllewelyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod gwyntog oerllyd ac yn bwrw’n drwm ganol dydd. Yn Aredig yn y Morfa. Evan James yn dwad yma i drwsio hen lestri. Fi heb fod yn y Farchnad. Pwnn [sic.] o Haidd wedi bod yn y Felin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych gwyntog. Yn dwad a dwy siwrna o Wair o Gaegorornw i’r Beudy newydd ac yn mynd ddaliad y Prydnhawn i Aredig i’r Morfa. Wil Sion yn palu’r Ardd  Ffair yn Tremadog. Fi yn mynd yno. Elin yn dwad yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod distaw claiar Elin a minau  wedi bod yn Cae Eithin tew yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod teg distaw claiar. Fi yn mynd y boreu i fesur clawdd mynudd [sic.] Tymawr oedd wedi cael eu drwsio ac yn talu pedair punt a hanner Coron am ei drwsio. Wil Sion yn trwsio clawdd y mynudd y lleill yn Aredig yn y Morfa, Owen Humphreys Clenenney yma yn plannu Ffa a phys yn yr Ardd, yn gosod y Caeglâs i Wm,Edward am ddegswllt a deugiain [sic. deugain]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych teg. Yn Aredig yn y Morfa Wil Sion yn cau Trainsia [sic.] yn y Tymawr. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr.Williams Dolgelley ac yn mynd iw ddanfon i’r Towyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych teg  Yn darfod aredig yn y Morfa, ac yn Aredig y Tir Clorenod yn y Buarthgwyn Robt.Sion Hendrahowel yma’n chwilio am goed at y Llidiart Terfyn Tymawr, Owen Roberts Tyddynwisgin yma’n yfed Tê y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg distaw. Yn dechreu llyfnu yn y Morfa. Fi wedi yn y mynudd [sic.?] mewn cyfarfod oedd genum [sic. gennym] i settlio am droi Defaid pawb i ffordd ar nad oedd yn perthynu iddo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener.Diwrnod dwl claiar. Yn troi’r Defaid hespion i’r mynudd, ac yn mynd ddaliad y Prydnhawn i’r Morfa i lyfnu. Mr.Owen Aberglâslyn yn galw yma y tro cyntaf wedi dyfod adref. Fi wedi bod yn y Farchnad yn cael llythyr oddiwrth John Williams Plâsybrain. Mam wedi mynd i’r Bettws fawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl claiar, yn y boreu, dryghin at y Prydnhawn. Yn diwedd llyfnu ceirch yn y Morfa. Grace Jones Cae’r Eithintew yn dwad yma at Elin sydd a Dolur o ei gwddf Gwlaw trwm am ‘chydig yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl lled oer. Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod sych gwyntog ar ol cawodydd trymion yn y boreu Sion Morris yn dwad yma. yn troi Defaid i’r Mynudd yn puro Haidd hâd, yn dechreu plannu Clorenod yn y bryncoch Fi wedi bod yn Tremadoc yn pwyso’r Ymenun, gartref erbyn Ciniaw. Grace Jones Cae’r Eithintew yma. Yn rhoi’r Dyrcan i eisde [sic.] Fi wedi bod yn Tremadoc yn edrych oedd Mr.Williams Benar wedi mynd trwadd i Benmorfa . Tremadoc yn cael ei goleuo am eni etifeddes arni


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl claiar. Yn llyfnu Haidd yn y Morfa a Mary Tomas Cwmystrallyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl claiar. Yn gorphen llyfnu Haidd yn y Morfa ac yn llyfnu ‘chydig o geirch yn Cae’r hendra. W.Sion Japheth yma. Fi yn gwneud Genwair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod teg claiar ar ol gwlaw lled drwm yn y boreu Yn Aredig lle i Glorenod yn Cae’r Hendra. Sion Morris yn colli hanner diwrnod. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri i roi cyfri yr Wardeiniaeth i fynu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau [sic. Gwener]. Diwrnod dwl gwyntog. Yn troi’r Defaid a’r Wyn i’r mynudd, yn marcio saithdeg pedwar o Wyn. Yn darfod aredig Tir i’r Clorenod. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod claiar teg. Yn dwad a siwrna o Wair o Gaegoronw i’r Beudynewydd. Yn gorphen planu Clorenod yn y bryncoch. Yn clywed y GOG gyntaf eleni. Yn llyfnu Haidd yn y Buarth gwyn. Diwedd y Llyfnu. Yn dechreu Teilo i Glorenod Fi yn hau Cucymerau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod teg claiar...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax