Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
29/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod teg claiar sych. Fi wedi bod mewn llong yn y Towyn yn prynu wyth hobad o Glorenod am bump swllt yr hobad. Yn teilo i Glorenod yn y boreu ac yn mynd yn y Prydnhawn i’r Towyn i nol y Clorenod. Sion Morris a Wil Sion yn cau rhwng Caea gwair a’r Caea porfa. Richd.Ellis Reiniog yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg gwresog  Yn teilo i Gae’r hendra i Glorenod. Sion Morris a Wil Sion yn cloi clawdd y Mynudd.rhwng hen lidiart Tyddynllewelyn a chorlan pen y Garn. Hela Llwynog ynghraig Tanrallt heb ddal yr un. Eigin [sic] Cucymerau yn yr Ardd.

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau [sic. Mercher ] Diwrnod teg gwresog. Yn teilo i gae’r hendra i Glorenod. Sion Morris a Wil Sion yn cloi Clawdd y Mynudd. Yn troi’r Gwartheg Hespion i Hafod budredd i borfa.gan brinder gwair. Fi yn saethu Llygoden ffreinig [sic.] wrth y Sgubor


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg gwresog. Yn gorphen teilo i Glorenod ac yn gorphen trwsio clawdd y Mynudd. Yn dechreu planu Clorenod  Yn darllaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl mwll. Yn Plannu Clorennod Edward Prichard. Sebonig yn dwad yma ac yn dwad efo mi i’r Farchnad. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr.Williams y Steward ac Edward yn dwad yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl lled wyntog ac yn bwrw ambell gawod ffrwythlon. Fi yn mynd efo Edward Prichard i ben ucha Tir Reiniog i gyfarfod Richard Ellis i gymeryd Porfa. Edward yn mynd adref Fi yn mynd i Benmorfa at Mr.Williams ac yn mynd iw ddanfon i Dygwyn y gamlas. Yn planu Clorenod yn Cae’rhendra ac yn dechreu planu Clorenod Moch yn yr hen ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych teg 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod teg gwresog. Yn darfod plannu Clorenod erbyn hanner dydd. Sion Morris a Wil Sion yn cau rhwng Morfa Trwyn y garreg a’r Morfa glofer  Wil Owen a Mari yn gorphen puro’r Haidd Sionun wedi bod a’r Eboles ddu yn yr Efail. Taranau a pheth gwlaw yn y Prydnhawn. Yn cael Act y Morfydd [sic. morfeydd?] oddiwrth Mr.Owen Aberglâslyn.yn rhoi fy llawddryll i fynd i Mr.Owen iw ddangos i riw [sic.] un ar a oedd am brynu un gan yr un gwneuthurwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg mwll. Yn cau ac yn hel cerrig  Yn rhoi’r hwyaden i eistedd. Y Buchod yn mynd allan y nos gyntaf eleni. Elin wedi mynd i Benmorfa i edrych am wraig Richard Thomas. William Humphrey Hendragwenllian yma wrth ddyfod o Drefmadoc [sic.]. Siani y forwyn fach yn dwad yma. Fi wedi bod yn y Traeth yn Pysgotta [sic.] ac yn dal 2 bysgodyn bychain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod sych gwyntog lled oer Y Meibion yn gwneud clawdd wrth Lidiart y Tymawr. Wil Sion yn cau clawdd terfyn Portreuddyn. Fi wedi bod efo Mr.Owen Aberglaslyn yn Pysgotta yn llyn Dinas. fo yn dal tri fi heb ddal yr un


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod lled fudr yn bwrw peth gwlaw oer ac eira hyd benna’r mynyddau. Y Meibion yn gweyd [sic.] clawdd wrth Lidiart Tymawr. y lleill yn hel Cerrig yn hendratyfi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod oer dryghinllyd iawn ac yn bwrw eirlaw y rhan amla ar hyd y dydd ac eira hyd bennau’r mynyddau. Y Meibion wedi bod y boreu efo’r clawdd wrth Lidiart y Tymawr. Sion Morris yn mynd adref y lleill yn dwad i’r Ysgubor y roi gwynt i’r Yd. Yn planu ffa a phys yn yr Ardd. Fi heb fynd i’r Farchnad!! Dryghin trwm iawn yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn Diwrnod sych teg Y Meibion efo’r clawdd wrth Lidiard y Tymawr. Mari wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin. Mr.Powel yr Ecsisemon [sic. exciseman]yma’n neges oddiwrth Elizabeth Griffith Llangybi. Fi yn mynd i’r Dremadoc i holi ar ol y Coed oedd mynd at Tynlone [sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych gwyntog lled oer. Morris Jones Tremadoc yn galw yma yn yr hwyr ac yn ymdroi peth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod gwresog sych. Y Meibion efo’r clawdd wrth lidiart y Tymawr. Ffair yn Pwllheli


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych teg. Ffair y Mhenmorfa. Fi yn cyflogi Gweinidogion. Ffair lled ddiofyn arnynt, ond etto’r cyfloga yn lled uchel Gwen Caeddafydd yn dwad yma o’r ffair



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod sych teg Wil Owen wedi mynd efo’r Drol i Deilo i Robt.Jones, y lleill yn hel Cerrig. Mr.Owen Aberglâslyn yma’n ymdroi peth. Yn cael dau hanner Baril o Borter oddiwrth Mr.Jones


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl niwlog mwll. Dydd iau Dyrchafael. Fi wedi bod efo’r Meibion yn yspydu’r hen cafn yn y Morfa ac yn dal wyth o bysgod a llysowod.[sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod distaw gwresog. Yn cladd [sic.] mawn yn y Reiniog. Y lleill yn hel Cerrig. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad yn prynu trap Llygod Ffreinig newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod distaw gwresog iawn. Yn lladd mawn yn Caegoronw y lleill yn hel Cerrig.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod distaw dwl mwll


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod gwresog mwll. Fi yn mynd i Bwllheli i’r Correcsiwn [sic.], ac yn dwad trwy Llangybi adref. Yn lladd mawn yn Caegoronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwresog mwll. Wil Owen wedi bod ag Yd yn yr Odyn, y ddau arall yn lladd mawn yn Caegoronw. Mr.Owen Aberglaslyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll iawn. Yn lladd mawn yn Caegoronw gorphen. Wil Owen yn trwsio bwlch wrth Lidiart y Tymawr Richard Ellis Reiniog yma. Sionun  wedi bod yn Aberglaslyn yn nol fy Ngwn llawddryll i adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/5/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod gwresog mwll iawn. Ffair y Nghriccieth. Fi wedi bod yno Y Meibion yn Cau o gwmpas Corlan y Garn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax