Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
24/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
25 [sic.24] Dydd Gwener Diwrnod gwresog mwll iawn. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Y Meibion yn cau o gwmpas Castell y Garn
|
25/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
26 [sic. 25] Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog mwll. Y Meibion yn cau o gwmpas Castell y Garn. Elin yn mynd i Dyddyn Wisgin. Fi yn mynd i Aberglâslyn at Mr.Owen.
|
26/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
27 [sic. 26] Dydd Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw llesol
|
27/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
28 [sic. 27] Dydd llun. y Sulgwyn. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd ac yn peth weithia [sic.], Yn symud y gwartheg i gyd. Y Buchod i flaen y Coed. Pedwar Eidion a phedair Dyniewad at eu gwerthu yn mynd i Forfa Trwyn y Garreg. Tair Heffer at eu gwerthu, a thri Eidion at y Gwanwyn yn mynd i’r Henerw. Unarddeg o Ddyniewid a dwy Heffer at eu gadael yn mynd i’r Caeglâs
|
28/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
29 [sic.28] Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll. Wil Owen a Dic wedi mynd i’r Felin i silio. Wil Sion a Mary yn palu rhwng Clorenod yn y Bryncoch
|
29/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
30 [sic. 29] Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll. Dic wedi bod a’r ddau geffyl yn yr Efail, ac yn mynd i ddechreu carrio mawn o Gaegoronw John Hugh Drwsyrymlid yma’n talu rhan o ei Ardreth fi y [sic.] wedi bod o gwmpas Penmorfa yn ymofun [sic.] am olddyledion y Dreth. Elin yn dwad adref o Dyddynwisgin, Griffith Jones y Tailiwr [sic. teiliwr] yma’n gwneud dillad i Sionun. Yn palu rhwng Clorenod ar ben y bryncoch.
|
30/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
31 [sic.30] Dydd iau. Diwrnod gwresog mwll yn y boreu, yn dylu ac yn tebygu i wlaw at yr hwyr. Wil Sion a Dic yn Carrio mawn o Gaegoronw y lleill yn palu rhwng Clorenod yn y bryncoch Fi yn saethu Llygoden Ffreinig yn y ‘Sgubor
|
31/5/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
31 [sic. Mai 1822] Dydd Gwener. Diwrnod dwl distaw tebyg i Wlaw. Wil Sion a Dic yn carrio mawn o Gaegoronw. Y lleill yn palu rhwng y Clorenod yn y bryncoch. Fi wedi bod yn y Farchnad yn Tremadoc
|
1/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl, ac yn bwrw peth gwlaw claiar Y Meibion yn carrio mawn o Gaegoronw
|
2/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod gwresog mwll. Fi wedi bod yn Llan. Morris Jones Tremadoc Mr.Evans Trafaeliwr o Gaer a Dyn arall yn galw yma yn y Prydnhawn
|
3/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwresog iawn. Yn gorphen carrio mawn o Gaegoronw, y lleill yn dechreu palu rhwng y Clorenod yn yr hen Ardd
|
4/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod gwresog iawn. Y Meibion wedi mynd i Reiniog i godi mawn. hanner awr wedi tri o’r gloch y prydnhawn yn dylu, ac yn codi i chwthu [sic. chwythu] yn lled drwm, am ‘chydig amser, ac yn bwrw chydig o wlaw. Dic wedi bod a Thelaid o Wenith yn Melin Llanystumdwy yn ei falu
|
5/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
5 Dydd Mercher. Diwrnod gwresog iawn. wedi Taranu yn lled drwm neithiwr. Y Meibion yn gorphen codi mawn Caegoronw, ac yn mynd i balu rhwng Clorenod i Gae’rhendra Humphrey Jones, gwas Morris Jones Tremadoc yma’n nol arian am goed oedd wedi mynd at y Tynlon Morris Jones yma yn ymdroi peth
|
6/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Y Meibion yn palu rhwng Clorenod yn Cae’r hendra. Fi wedi bod yn Ffair Harlech
|
7/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Fi a Wil Owen wedi bod yn rhoi Cliccied ar lidiart y Tymawr yn palu rhwng Clorenod yn Cae’r Hendra. Fi wedi bod yn y Farchnad
|
8/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Yn hel y Defaid ac yn cneifio torra [boliau], yn Nodi saithdeg o Wyn ac yn marcio deg
|
9/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod gwresog iawn a mwll. Mr.Owen Aberglaslyn yma
|
10/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Yn hel y Defaid ac yn eu golchi. Soseiat Fisol yn y penrhyn. Harri Owen yma -
|
11/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll iawn. Yn hel y Defaid ac yn eu cneifio. Yn gwerthu tri ar hugiain [sic.] o fyllt i Harry Owen Wil Sion a Dic yn eu danfon i Dyddynadi. Y Degwm blith yn mynd i ffwrdd Yn yspaddu unarbymthegarhugain o Wyn, wyth oen degwm yn mynd i ffwrdd, a ddau a phedwarugain, Yn nodi pump o wyn at 71 oedd wedi eu nodi o’r blaen. Yr Wyn oll yn bresenol yw 74.
|
12/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll iawn. Yn codi at y Clorenod yn Cae’r hendra. Fi wedi bod yn Maentwrog yn siarad am lechi Toi at y Tynlon. Gwas y Meddyg Williams Plâshên yma
|
13/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwresog mwll iawn. Y Meibion wedi mynd i Reiniog i wneud mawn.
|
14/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwresog mwll iawn. Y Meibion yn Caegoronw yn gwneud mawn. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
15/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog mwll iawn. Y Taranu ymhell ac yn bwrw ‘chydig yn y Prydnhawn. Y Meibion yn gorphen gwneud mawn yn Caegoronw. Yr heffer wedi dwad a llo neithiwr
|
16/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych iawn mwll a dwl
|
17/6/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl lled fwll. Yn dechreu lladd Glofer yn y Morfa. Evan James yn dwad yma
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|