Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
18/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwresog mwll iawn. Yn lladd gwair yn y Morfa. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddyn y gwynt yma Evan James yn mynd i’r Dref i nol Cylcha haiarn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll iawn. Yn tyrru peth o’r Glofer yn y Morfa, ac yn lladd gwair yn y Morfa bâch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl sych. Yn carrio Gwair y Morfa ucha Betty Owen yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod gwresog iawn a mwll, yn gorphen lladd gwair dâs y Morfa, ac yn carrio peth gwair. Fi yn mynd i Drefmadog [sic.] i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Wil Owen wedi bod yn danfon llwyth o lechi Toi o Fronyfoel i’r Cwrtucha y lleill yn chwynu’r Yd, ac yn gorphen carrio Gwair y Morfa  Cennad yn dwad yma oddiwrth Morris Jones Tremadoc eisia imi fynd yno i’w gynorthwyo mewn trwbwl oedd arno oddiwrth Robt.Morris Fi yn mynd yno, yn cael Pysgodyn bychan i ddwad adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod gwresog iawn a mwll, ar ol bwrw peth gwlaw yn y boreu. Evan Williams a’i Wraig  yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl niwlog yn y boreu ac yn bwrw peth gwlaw. Fi yn mynd efo Morris Jones i Bwllheli ac yn dwad trwy Langybi adref. Y Meibion yn gwneud lle i’r gwartheg gael dwfr, ac yn trwsio Dâs gwair yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl yn y boreu a gwres mawr at ganol dydd. Y Meibion yn gwneud pen Dâs gwair yn y Morfa Ellis Owen Cefnymaesydd yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn bwrw gwlaw trwm  gwres mawr at ganol dydd. Y ddau Wil yn yn [sic.] trwsio’r gwttar fawr yn y Morfa Dic a Sionun yn torri rhedyn. Wil Owen yma’n nol benthig Yslêd [sic.]  


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod sych mwll. Y Meibion yn torri rhedyn Fi wedi bod yn Crafnant ac yn Tyddynygwynt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod gwresog mwll Fi wedi bod yn Tremadoc Y Meibion yn trwsio Dâs gwair y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog mwll. Y Meibion yn lladd rhedyn Ffair yn Criccieth Fi yn mynd yno  Owen Roberts ai Wraig yn dwad efo mi adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/6/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul Diwrnod sych dwl –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl. Sion Hugh a Sion Morris yn dwad yma. Yn dechreu ar y gwair yn Caegoronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwlawog iawn yn y boreu teg at y Prydnhawn. Yn lladd gwair yn Caegoronw...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl mwll. Yn diwedd lladd gwair Caegoronw ucha ac yn dechreu lladd gwair Caegoronw isa Ellis y Pladurwr yn dwad yma. Mr.Owen Aberglâslyn yma’n ymdroi Yn tynu Clorenod newyddion gyntaf eleni


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod niwlog mwll ar ol gwlaw trwm yn y boreu. Yn lladd gwair yn Caegoronw isa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl mwll. Yn lladd gwair yn Caegoronw isa. Will Owen a Dic yn trwsio Dâs gwair y Morfa ac yn dechreu ei doi. Fi yn gollwng pedair hanner rhaff rawn, ac yn mynd i Dref Madoc [sic.] i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl sych. Yn carrio Gwair Caegronw [sic.]ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl sych  Fi wedi bod yn y llan. Elin a minau yn mynd i Aberglâslyn yn Prydnhawn yn cael llythyr yno oddiwrth Mr.Williams Benar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl sych, ac yn bwrw dafna gwlaw yn y Prydnhawn Yn carrio y rhan fwyaf o Wair Caegronw [sic.]isaf. Elin wedi bod efo mi yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwlawog iawn. Yn diwedd lladd gwair yn Caegoronw, ac yn dechreu peth yn Tymawr yn y Prydnhawn. Fi wedi bod yn y Dinas ddu yn siarad ynghylch y Pysgotta, ac yn cael fy ngwlychu’n drwm wrth ddyfod adref. yn mynd ar ol Ciniaw i Drefmadog [sic.]. Trol Wm.Jones ‘Sgubor hen yn nol llwyth o frwyn yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl claiar. Yn anialwch hyd yr Henerw ac yn ei garrio i ffwrdd ac yn torri rhedyn y nghaerfoty ar Caeglas, ac yn torri’r anialwch wrth Lidiart bryn magl  Evan James yn dwad yma. Mr.Owen Aberglaslyn yma’n ymdroi yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl claiar gwlawog. Tri o’r Meibion yn torri rhedyn yn caea’r Tymawr ac yn mynd i flaen y Coed i dorri rhedyn ar ol Ciniaw. Y lleill yn mynd a thô at Ddâs gwair Caegoronw, ac yn gorphen torri’r anialwch wrth Lidiart Bryn magl. Fi wedi bod yn Reiniog yn siarad efo Richd.Ellis ynghylch Pysgotta Llyncwmystrallyn [sic.]. Y Merched wedi bod yn Caegoronw yn gorphen casglu’r Gwanafa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn mynd i Gaegoronw i dynu cerrig at y Clawdd rhwng y ddau Gaegoronw. Fi yn mynd i Drefmadog i’r Farchnad, ac oddiyno i Benmorfa at Mr.Williams Benar. Evan Evans Pwllheli yn dwad efo mi adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax