Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
13/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
D. Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn dechreu tynnu cerrig yn y Tymawr y Boreu, ac yn mynd i Gaegoronw at y gwair, ac yn gorphen ei garrio i gyd cyn y nos. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr.Williams Benar efo Evan Evans, yn mynd iw ddanfon at y Tygwyn gartref erbyn y nos
|
14/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych teg. Fi wedi bod yn y Llan
|
15/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod gwyntog mwll sych. Y Meibion yn lladd gwair yn y Tymawr.
|
16/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych gwresog . Yn diwedd lladd gwair yn y Tymawr ac yn mynd i ddechreu lladd gwair i’r hen forfa. Yn dylu ac yn dwad i fwrw gwlaw cyn nos. Y Meibion wedi yn [sic.] Tymawr yn mydylu. Fi wedi bod yn Tremadoc –
|
17/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl mwll iawn, ac yn bwrw gwlaw mân. Yn lladd gwair yn yr hen Forfa. W.William Dafydd yma’n nol arian y Degwm blith
|
18/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl mwll, yn taranu ac yn bwrw peth Yn lladd gwair yn Morfa’r Goedau [sic.] , ac yn trwsio hen Dâs Caegronw [sic.] Fi wedi bod efo Griffith Owen Clenenney yn Pennant yn hel arian iw danfon i’r Gwyddelod. Yn ymdroi yn Braichydinas
|
19/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwlawog yn y boreu. hindda at y Prydnhawn. Yn cau clawdd terfyn rhwng Caegronw [sic.] ar Gorllwyn ucha a’r lleill yn trwsio’r clawdd oddiwrth Feudy’r Tymawr at Adwy’r Mynudd Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
20/7/1822 | |||||||||||||||||
Traeth Mawr | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, prenteg | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod mwll iawn ac yn bwrw Cawodydd trymion iawn. Y Meibion yn gorphen trwsio’r clawdd wrth Feudy’r Tymawr. Fi wedi bod efo Richd.Ellis Reiniog yn casglu arian i’w Gyru i’r Gwyddelod. [In the summer of 1822 a bad potato crop and limited employment opportunities created famine conditions in the west and south-west of Ireland. The partial failure of the potato crop in 1821 precipitated a food crisis, with extreme distress occurring in 9 counties from late April until mid-August 1822.]
|
21/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl mwll iawn. Fi wedi bod yn y Llan
|
22/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod mwll gwlawog. Y Meibion yn dechreu trwsio’r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Robt.Griffith y Saer yma’n edrych defnydd Llidiart i fynd i Sir Feirionydd Gwen Owen Ty’n y berllan yn dwad ac afalau yma. Elin Cigyddes o Roslan yn cysgu yma. Fi wedi bod yn y Traeth yn pysgotta, yn dal un Brithill [sic.] brithyll] dros drichwarter pwys
|
23/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod mwll ac yn bwrw’n drwm agos trwy’r dydd. Y Meibion. Y Meibion yn trwsio’r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Ellis a Wil Sion yn codi cerrig yn y Cae porfa y Tymawr. Fi wedi bod yn y Traeth yn pysgotta. heb ddal dim, yn cael fy ngwlychu’n drwm
|
24/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod mwll ac yn bwrw’n drwm agos trwy’r dydd. Wil Owen a Sionun wedi bod yn trwsio Dâs Gwair y Morfa. Y lleill yn trwsio’r clawddio [sic.] yn y Tymawr. R.Ellis yn nol Treth
|
25/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw peth. Y Meibion efo’r cerrig yn y Tymawr.yn dechreu gwneud clawdd yn y caea porfa. Yn gwneud pen Dâs gwair Caegoronw, ac yn dechreu ei doi. Fi yn rhoi gwadna dan y slêd.
|
26/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych cymylog yn y boreu, gwlaw yn y Prydnhawn. Y Meibion yn coccio gwair y Weirglodd ucha y Tymawr ganol dydd efo'r clawddia y boreu a'r Prydnhawn. tra fuont efo'r gwair rhywun yn lladrata'r morthwyl cerrig oddiar y clawdd rhwngn[sic] y ddwy allt. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
27/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych cymylog yn y boreu a gwlaw yn y Prydnhawn. Y Meibion yn coccio gwair yr hen Forfa a Morfa'r Goedau. Fi yn mynd i Langybi Betsan ac Owen Roberts yno. Twm Jones yn dwad a'r Gaseg yma'n ddweyd i Elin eu bod hwy [aneglur: yno y Fora]
|
27/7/1822 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod mwll gwlawog. Y Meibion yn dechreu trwsio’r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Robt.Griffith y Saer yma’n edrych defnydd Llidiart i fynd i Sir Feirionydd
|
28/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg yn y boreu gwlaw trwm yn y Prydnhawn Fi yn Llangybi Elin yn dwad yno.
|
29/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg yn y boreu gwlaw yn y Prydnhawn Y Meibion efo'r clawdd yn caea porfa'r Tymawr y boreu, yn tanu coccia gwair i weirglawdd ucha ac yn ei chario cyn iddi fwrw ond 'chydig o wlaw. Fi yn dwad adref o Langybi erbyn chwech o'r gloch y boreu
|
30/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod cymylog ac yn bwgwth bwrw cyn haner dydd, ond yn sychu'n dda. Yn carrio gwair y Weirglawdd isa'r Tymawr ac yn mynd i'r Morfa i orphen coccio'r gwair yno Elin yn dwad adref o Langybi. Elizabeth Griffith yn ei danfon Yn dechreu sychu ar ol Pythefnos o dywydd gwlyb iawn
|
31/7/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod cymylog ac yn sychu'n dda yn y boreu Yn diwedd lladd gwair yn morfa'r goedau ac yn torri anialwch iw tan y Das y Morfa, Yn tanu coccia Morfa'r goedau, yn ei sychu'n dda iawn, Yn dechreu ei garrio ar ol ciniaw, yn dwad yn gawod drom iawn ac yn ei wlychu'n soppan a'r rhan fwyaf ohono ar led. Yn dechreu lladd gwair yn Morfa'r Garreg
|
1/8/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd yn y boreu, sychu'n dda yn y Prydnhawn. yn lladd gwair yn morfa'r goedau y boreu yn troi gwair yn Morfa'r Goedau ac yn ei wneud yn Fwdyla mawr
|
2/8/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl tebig i wlaw yn y boreu, yn sychu'n dda yn y Prydnhawn, yn lladd gwair yn Morfa'r garreg yn y boreu ac yn trin gwair yr hen forfa ac yn ei garrio, a pheth o forfa'r coedau Fi yn mynd i'r Farchnad, yn y Prydnhawn.
|
3/8/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod clir ac yn sychu'n dda iawn. Yn diwedd lladd gwair Morfa'r Goedau, ac yn carrio gwmpas hanner ei wair. Yn dwad hyd i hogan trwyn y Graig yn yr hen Erw ac yn curo peth arni. Yn coccio gwair hanner Morfa Goedau
|
4/8/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl ac yn gwlitho peth. Yn hel y Coccia yn Morfa'r Goedau yn dyrra ac yn eu carrio. Diwedd cael da^s y Morfa. Yn dechreu lladd gwair yn Hendratyfi. Owen Roberts Tyddynwisgi [rhwng Caeathro a Waunfawr? Tyddynwisgin mae'n dweud fel arfer] yn dwad yma, yn prynu pedair Dyniewed a thair heffer am ddau ddeg punt yn cysgu yma
|
6/8/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl sych. Yn diwedd lladd gwair Hendratyfi, a buarth tair derwen, ac yn dechreu lladd gwair Cae'r Hendra. Mary wedi bod a phwn o haidd yn y Felin yn ei falu. Fi wedi bod yn Tremadoc yn prynu deunudd Clo^s newydd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|