Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
7/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl cymylog ac yn gwlitho peth weithia Yn gorphen lladd gwair Vae'r Hendra ac yn coccio gwair Hendratyfi Sionun wedi bod a Denbi yn yr Efail. Mr. Owen Aberglaslyn yma. Yn dechreu lladd gwair y Caelleppa isa. Gwlaw dwys yn y Prydnhawn  darfod lladd gwair y Caelleppa isa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod cymylog yn y boreu, ac yn troi i sychu'n dda iawn yn y Prydnhawn Wil Sion a Dic yn mynd ar Bustych i Gaegoronw, Wil Owen a Sion Morris yn dechreu cau o Gwmpas y Da^s Glofer yn y Morfa. Ellis a Sion Hugh yn torri brwyn yn y Morfa yn y boreu. O gwmpas naw o'r gloch yn dechreu tanu coccia yn    hendratyfi. yn troi gwair buarth tair derwen, yn rhencio gwair y rhan fwyaf o Gae'r Hendra at ei goccio. rhwng dau a thri o'r gloch y Prydnhawn yn dechreu carrio gwair Hendratyfi a buarth tair derwen. Llwynog yn lladd yr hen Dyrci. Fi yn lladd Neidr yn Cae'rhendra, Yn gwlychu'n drwm cyn ini ddechreu coccio gwair Cae'r Hendra, yn ei goccio trwy'r gwlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod cymylog dwl yn y boreu, yn tebygu i sychu at hanner dydd, gwlaw dwys yn y Prydnhawn  Wil Owen a Sion Morris yn gorphen cau o gwmpas y Da^s glofer yn y Morfa, y lleill yn lladd gwair y buarth gwyn, ac yn dechreu lladd gwair y Gelli wastad, yn rhencio peth o wair Cae'r hendra at ei goccio. Edward Richard Sebonig yn dwad yma i fynd i Reiniog i edrych ei wartheg. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma wrth ddwad a blawd ceirch i'r Dref iw werthu. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl heb fwrw dim. Sion Hugh ac Ellis yn hel brwyn hydd[sic] y Morfa y lleill yn gorphen lladd gwair y Gelli wastad. Ellis a Dic yn carrio To at Dda^s y Morfa ac yn dwad a tho^ at Dda^s y beudy newydd Wil Owen a Wil Sion a Sion Morris yn gwneud pen da^s y Morfa. Merch Griffith Jones Gelli'r Ynn yma'n nol Cosyn. Fi yn gwneud cwtt Cwnhingod yn yr Ardd. Elin yn mynd i Dremadoc yn y Prydnhawn. Sion Hugh yn ymadael. Gwraig Sion prydnhawnlas [sic] yma'n gwerthu Gerllig [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw gwlaw ma^n weithia. Gwraig Morris Jones Tremadoc yma'n swppera.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl mwll. Y Meibion cyn brecwast yn dechreu lladd gwair Gwernclowna, ar ol brecwast yn lladd hynu o Geirch gwyn oedd yn y Caemain. Yn dwad i sychu'n dda at ganol dydd. Yn tanu Coccia Cae'r hendra, gwlaw'n ein dal cyn ini ei fwdwlu yn gorfod coccio llawer o hono yn ei ol. Owen Thomas yma'n trwsio'r Ffenestri. Merch Risiart y Crydd yn danfon Esgidia newyddion imi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd mawrth Diwrnod cymylog ac yn sychu'n dda Y Meibion y boreu yn lladd gwair yn Wernclowna. Yn tanu mwdyla a choccia yn Cae'rhendra, ac yn dechreu eu carrio cyn Ciniaw yn darfod yn gynnar ac yn coccio'r Buarth gwyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd mawrth Diwrnod cymylog ac yn sychu'n dda Y Meibion y boreu yn lladd gwair yn Wernclowna. Yn tanu mwdyla a choccia yn Cae'rhendra, ac yn dechreu eu carrio cyn Ciniaw yn darfod yn gynnar ac yn coccio'r Buarth gwyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl. Yn lladd gwair Gwernclowna Fi yn mynd i Gaernarfon i'r Sessiwn ac yn dwad y noson i Dyddynwisgin i gysgu.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw. Fi yn Caernarfon acyn dwad i Dyddynwisgin i gysgu.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl lled fwll. Owen Roberts yn dwad efo mi adref ac yn yfed Te ac yn mynd wedi i Benmorfa at y Gyr Gwartheg. Yn gorphen Carrio gwair Da^s y Beydy[sic] newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl mwll ond yn sychu'n dda  Fi a Sionun yn mynd a'r Dyniewid a'r heffrod i Dremadoc i gyfarfod y Gyr. Fi yn mynd i Benmorfa at Owen Roberts ac yn dwad oddiyno adref, ac yn mynd i Gynhebrwng Griffith Jones Llwynmafon. Y Meibion yn mwdwlu Gwair Gwernclowna a chae'r tycoch a'r llain hir.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod gwresog iawn a mwll


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod gwresog iawn a mwll. Y Meibion cyn boreufwyd yn lladd gwair yn y Weirglawdd ucha, Yn dechreu tyru yn y Weirglawdd ucha hynu oedd o'r Beudy i lawr, ac ar ol tanu 'chydig o goccia oedd yn Wernclowna, Yn carrio pen isa i'r Weirglawdd ucha, y llain hir, Wernclowna a'r Cae ty coch. Fi yn y boreu efo Owen Portreuddyn yn edrych y golled oedd Ceffylau Jones Ynusfawr wedi wneud ar ei y^d yn y Morfa. Evan Griffith y Fa^chgoch yno efo ni. Y Pedwar Bustach yn dwad o Gaegoronw i'r Morfa. Ffair yn Pwllheli


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwresog mwll iawn. Y diwedd llad[sic] y Gwair yn y Weirglawdd ucha, ac yn dechreu medi y Haidd yn y Morfa. Fi yn mynd i Ffair Benmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnog gwresog mwll iawn. Yn Medi haidd yn y Morfa yn y boreu. O gwmpas deg o'r gloch yn mynd i orphen carrio gwair y Weirglawdd ucha. Diwedd cael y Gwair ar ol cynhauaf gwlyb aniben, ar ol Prydnhawnbryd i'r Morfa i Fedi Haidd. Sion Morris yn ymadael.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl claiar, yn bwrw peth gwlaw ma^n am dippin o'r dydd, Yn gorphen medi'r Haidd yn y Morfa, Yn cynull dau ystwe ar bymtheg o Haidd yn y Morfa. Yn dechreu lladd Adladd Glofer yn y Morfa. Mr. Owen Aberglaslyn yma'n ymdroi peth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod clir ac yn sychu'n bur dda. Yn lladd ac yn troi yd yn y Caemain. Yn lladd yr Haidd yn y Buarth gwyn, Yn dechreu lladd Ceirch a gorphen cynnul'r Haidd yn y Morfa. Fi wedi bod yn Tremadoc yn Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod gwlawog yn gwlychu'n drwm iawn. Yn torri peth ceirch y boreu a'r Prydnhawn yn y Morfa. Ellis Evans y Pladurwr yn ymadael. Begy wedi bod yn y Dref yn nol halen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl heb fwrw ond 'chydig. Wil Williams yma Elin a minau wedi bod yn Aberglaslyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl. Yn diwedd lladd Ceirch yn y Morfa. Sion Morris yn dechreu lladd Ceirch yn y Caelleppa ucha, y lleill yn gwneud pen da^s y Morfa. Gwraig Ellis Evans yma'n nol dau bwys o Wlan Fi wedi bod yn y Traeth yn Pysgotta heb ddal dim oherwydd i'r ba^ch dorri


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl ac yn sychu'n bur dda. Wil Sion a Sion Morris yn codi bwlch yn clawdd penisa'r Mynudd. Wil Owen a Dic yn dechreu toi Da^s y Morfa. yn mynd ar boreufwyd i drwsio da^s y Beudy newydd. yn troi peth o Geirch y Caemain ac yn ei Gynnull. Humphrey'r Marchogwr yma efo cheffyl J. Jones Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu, sychu'ndda ganol dydd, gwlaw trwm a tharanau yn yr hwyr. Wil Jones a Sion Morris yn lladd ceirch yn y Caelleppa ucha yn y boreu. Wil Owen a Dic yn Toi Da^s y Morfa yn y boreu, ennyd o'r dydd yn troi'r Glofer yn y Morfa, ac yn cynnull chwech deg pump o Stycia o Geirch yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd rhyddia trymion o'r Gogledd. Wil Owen, Wil Sion, Dic a Sionun yn toi Da^s y Morfa. Sion Morris yn cau o gwmpas Gallt y Ty^. wedi bod y boreu yn lladd y^d Gwernclowna


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl cymylog. Yn dwad a saith deg pedwar o Wyn o'r Mynudd, Sion Morris yn mynd i ladd yd i'r Weirglawdd ucha, y lleill yn mynd i wneud pen da^s y Beydy ucha. Elizabeth Owen Llangybi yn dwad yma. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax