Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
16/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg Claiar hynod, Sion Jones Pantllwyd yn mynd ar trondal cyntaf o ddrain i’w planu yn y Clawdd sydd yn mynd oddiwrth Trwyn y gareg i’r Traeth Fi yn mynd i’r Towyn i siarad am ddau begaid o Geirch du hâd. Yn Prynu Pâr o Dresi haearn Newydd yn Siop Morris Jones Tremadoc ac yn Prynu Deunydd tinbren haiarn ac yn mynd ac ef i’r Efail
|
17/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod teg Claiar. Will yn Aredig yn Cae’rhendra Huwcyn yn chwalu tail yn y Gelli wastad. Yn danfon y Caws i’r Towyn ac yn dyfod a’r Ceirch hâd adref. Y Gwartheg allan yn mynd i ffwrdd. Thomas Jones Clwt y ffolt[?] gynt yma eisia mesur ffordd oedd yn ei wneud o ben y groes at Wernddwirig [Gwernddwyryd] Sian Maesyllech yma eisia benthig Punt
|
18/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg. Yn mynd yn y boreu i fesur y ffordd o benygroes . i’r ffordd Newydd Owen Humphreys a minau yn talu am ei gwneud Ddwybuntarbymtheg a swllt yn ymdroi peth yn Penmorfa, ac ar ol dyfod adref yn parrottoi’r [sic.] Ymenun i fynd i ffwrdd. Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw Griffith Owen Llangybi yn dwad yma.
|
19/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg ...
|
20/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg wedi rhewi peth. Y Drol yn cychwyn bump o’r gloch y boreu i Ffestiniog i ddanfon Ymenyn ac i ymofyn ceirch hâd trol Richd. Thomas Penmorfa yn mynd yno hefyd. R. Thomas yn dyfod heibio i fynd yno ar eu hol erbyn wyth o’r gloch y boreu. Yn dyfod adref cyn deg o’r gloch y nos. haid Wenun [sic. gwenyn] yn dyfod o Langybi
|
21/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod teg claiar Will yn aredig yn Cae’r Hendra y lleill yn nithio’r Haidd. Yn mynd i Dremadog i ymofyn y Tailiwr. ac yn prynu Almanac ‘Sta[?] Gwartheg y Beudyucha yn tynu y preseb oi le minau yno yn y Prydnhawn yn ei drwsio Will yn dechreu Aredig yn y llain hîr. Yn gwerthu Cybynaid o haidd i Ann Humphrey Hendrahowel
|
22/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg Claiar Will yn aredig yn y Gelli wastad. Huwcyn yn y Morfa yn planu drain Sion efo’r Merched yn puro’r Haidd yn y ‘Sgubor. Cathrine Tynymynudd ucha yma yn danfon Arian i’w Cudio. Yn bwrw peth yn y Prydnhawn
|
23/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod gwyntog lled oerllyd. Will yn aredig yn y Gelli wastad Huwcyn yn gorphen planu’r drain yn y Morfa ac yn mynd i’r Ty Mawr i lanhau Traina Sion William yno yn tori tyllau i blanu Coed. Humphra’r big yma’n prynu brwyn am hanner Coron. Fi yn gwneud yr ardd bach o flaen y drws Cadi’r h?nefel yn mynd a Juno [ceffyl?] adref i Langybi. Susan wedi bod a Phwn o Haidd yn y Felin isa
|
24/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod teg Claiar Meibion yn cario gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha Sion yn planu Coed masarn yn Ty Mawr. Y Fuwch moelan wedi dyfod a llo neithiwr Y Fi yn mynd i Tremadoc i’r Farchnad. Yn dyfod adref cyn deg o’r gloch y nos Elin yn dyfod i’r Dref yn y Prydnhawn efo Margaret Owen Plâs Dolbenmaen
|
25/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Yn bwrw Cawodydd trymion o genllysg Will yn gorphen Aredig Gelliwastad ac yn dechreu Aredig yn y Caecanol Huwcyn a Sion yn cau trains wrth bistill y Ty Mawr. Buwch Hendrahowel efo’r TARW . Elizabeth Griffith Llangybi yn dyfod yma wrth fynd i Ffair Wrexham . yn aros y Sul.
|
26/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw yn bur drwm...
|
27/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw man. Fi yn cychwyn i ddanfon Elizabeth Griffith Llangybi trwy’r Traeth chwech o’r gloch y boreu i fynd at Ffair Wrexham. Robt. Jones gwas Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn nol benthig arian. Will yn Caecanol Huwcyn yn plygu Clawdd terfyn y Ty Mawr
|
28/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod budr Claiar. Will yn aredig y Caecanol. Sion a Huwcyn yn cau’r trains [sic.] yn Tymawr. Griffith Jones Tailiwr yn dyfod yma Minau yn mynd i’r Dre i ymofyn Trimins [ iddo ac yn ymdroi y nhy Robt Jones Yn dyfod adref erbyn unarddeg o’r gloch nos
|
29/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mercher Diwrnod dwl Claiar. Will yn gorphen aredig Caecanol Huwcyn a Sion yn Tymawr yn gorphen cau y Trains a phlygu’r Clawdd Terfyn. Sion yn planu bytatws cynnar yn yr ardd yn y Prydnhawn
|
30/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Iau Diwrnod teg Claiar brâf Y Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw Sion yn planu drain yn y morfa. Y lleill yn curo biswail. Mam yn mynd i’r Dre i ymofyn Ffunen [cadach neu hances?] i’w rhoi i Mrs.Jones Tyddynelen. Doctor Edwards yma yn yfed Tea yn y Prydnhawn. G.Jones (Tailiwr) yn mynd i ffwrdd. Mam yn misio cael Ffunen
|
31/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod budr ac yn bwrw gwlaw. Fi yn cychwyn i Gaernarvon chwech o’r gloch y boreu i’r Sesiwn. yn Ciniawa yn Arwydd yr Afr.ac yn cysgu efo Hugh Griffith Druggist yn ei dy.wedi bod ‘chydig amser yn yr Hall [sic. wedi tanlinellu] Gornfelan yn cymryd Tarw [sic. mewn ysgrifen brâs]
|
1/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod Sych. Fi yn mynd i’r Hall ddeg o’r gloch y boreu ac yn dyfod allan rhwng tri a phedwar y Prydnhawn yn Ciniawa yn arwydd yr Afr ac yn dyfod adref erbyn un o’r gloch y boreu
|
2/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod niwlog budr Fi yn mynd i’r Llan ac yn dyfod adref erbyn dau o’r gloch.ar fy nhraed
|
3/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun y Pasg Diwrnod claiar teg niwlog yn y boreu. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Gwylmabsant yn dyfod adref erbyn tri o’r gloch y boreu
|
4/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth diwrnod teg ffeind. Y Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw i’r Beudyucha ac yn nol llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd
|
5/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg dwl claiar. Yn dechreu Llyfnu yn Werclowna [sic. Wernclowna]. Sion yn Plygu clawdd rhwng y Weirglawdd ucha a’r llain hir. Fi yn mynd i benmorfa i’r Vestry.yr oedd yr Overseers yn rhoi eu cyfri i fynu [sic. fyny]. Yn llyfnu’r llain hir Yn dwad i fwrw gwlaw yn drwm yn y Prydnhawn
|
6/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg. Y Meibion yn llyfnu yn y Caecanol a’r Gelliwastad Griffith Morris yn dyfod yma i ddal Tyrchod daear. Yn gosod y Tir iddo i’w lanhau oddiwrth Dyrchod Daear am bedwar swllt a ch^wecheiniog yn y Flwyddyn [sic. mewn llythrennau bras]. Yn cael llythur [sic. llythyr] oddiwrth John Jones Mesurydd Tir a Map ynddo o lotiau oedd yn perthyn i Dyddynygwynt a Drwsyrymlid Sir Feirionydd
|
7/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Eira tew hyd bena’r mynyddoedd. Fi yn mynd i Fesur ffordd fawr oedd wedi ei thrwsio tan allt y llys 55½ o Rydau. Will yn aredig yn y Morfa i roi Haidd. Mr.Wm Jones Tyddyn Elen yma’n Ciniawa. Minau yn mynd efo fo i’r Farchnad
|
8/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg wedi barigo [sic. barugo] neithiwr. Will yn aredig yn y Morfa. Fi yn mynd i Criccieth i’r Cyfarfod Ustusiaid. Yn mynd oddiyno i Langybi
|
9/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod hindda Fi yn Llangybi
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|