Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
31/8/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod clir ac yn sychu'n dda yn y Prydnhawn. Bachgen Sion Prisiart y Tymawr yma'n Degymu'r Ceirch a'r Haidd y Morfa. Yn gorphen Toi Da^s gwair y Morfa. Yn lladd peth Ceirch yn y Caemain, yn troi'r Haidd yn y buarth gwyn, Yn troi'r Glofer yn y Morfa ac yn ei danu ac yn ei Fwdwlu  Yn rhoi gorchymyn i Bottiwr i ddwad a llestri Priddion imi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod cymylog ac yn sychu'n dda iawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ma^n ar ambell dro trwy'r boreu, gwlaw trwm at un o'r gloch. Yn Carrio Ceirch y Morfa hyd at un llwyth pan ein daliodd gwlaw trwm. Yn gwneud rhaffa yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Yn wlaw trwm yn y boreu, sychu'n lled dda yn y Prydnhawn a bwrw cawod. Will Owen a Dic yn rhaffio Da^s Caegoronw ac yn dechreu rhaffio y Das glofer. Sion Morris a Wil Sion yn gwneud clawdd o Gwmpas Da^s gwair yr hen Forfa, ac yn dwad a llwyth o Geirch o'r Morfa sef y llwyth diwaethaf. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr. Williams y Steward


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu, yn sychu'n dda am 'chydig ganol dydd, gwlaw trwm at un o'r gloch. Yn troi Haidd y Buarth gwyn ac yn y Cynull 'chydig ohono cyn gwlaw Yn carrio Haidd y Morfa. Sion Morris a Wil Sion yn mynd at y Clawdd o gwmpas Da^s gwair yr hen Forfa. Y Ddau arall yn trwsio y Da^s glofer. Yn colli [sic] Dyn yn Caernarfon am saethu dau ergyd at superfiser a lladratta ei Geffyl a ei eiddo, a'i glwyfo yn ei Fraich deheu. W.Ll. Coldicott yn Sirydd (alias) Wil hafodydd brittiou


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl gwyntog yn y boreu, dryghin trwm at hanner dydd. Yn troi Haidd yn y buarth gwyn, gorphen tori Ceirch gwernclowna a'r Weirglawdd ucha. Y Prydnhawn yn gwneud rhaffa  Dyn yma'n danfon rhannau Geiriadur Charles [Geiriadur Beiblaidd Thomas Charles*]. Morwyn Mr. Owen Aberglaslyn yn dwad a Physgodyn yma.

*Ei waith llenyddol pwysicaf oedd ei eiriadur ysgrythurol a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol (1805, 1808, 1810, 1811) yn wreiddiol ac a adargraffwyd sawl gwaith yn ystod y 19g. Yn ogystal â chyfleu llawer o wybodaeth newydd am cefndir hanesyddol yr Ysgrythurau, mae Charles yn trafod cysyniadau diwinyddol hen a newydd mewn arddull goeth, gaboledig. (Thomas Charles - Wicipedia (wikipedia.org)


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn sychu'n dda yn y Prydnhawn, yn gwneud pen Da^s y Beudy ucha, yn troi, ac yn Cynnull Haidd y Buarth Gwyn, ac yn ei garrio. Fi wedi bod yn y Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod cymylog dwl yn sychu'n dda. Yn troi ac yn tanu Ceirch y Caemain, y Caelleppa, y Weirglodd ucha a Gwernclowna, ac yn eu cynnul, Yn carrio Ceirch y Caemain a'r Caelleppa hyd at ychydig sydd heb addfedu [sic]. Fi wedi bod yn y Traeth yn pysgotta heb ddal dim. Yr Heffer Sereu [sic] wedi dwad llo.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dryghinllyd yn y boreu'n sychu'n dda at y Prydnhawn. Morris Jones Tremadog a'i wraig, a Mr. Owen Aberglaslyn yma. Owen Humphreys Clenenney wedi bod yma efo Phapur yn achos ardreth y Brenhin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod fechan. Di[sic] wedi bod a Jac a'r Eboles ddu yn yr Efail, ac yn dwad adref yn lled sa^l. Wil Owen yn rhaffio das y Morfa. y lleill yn gorphen lladd hynnu o Geirch oedd yn rhy la^s yn y Caelleppa ucha, Yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i garrio Ceirch Gwernclowna a'r Weirglawdd ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod lled gymylog ac yn sychu'n dda  Yn dechreu tori'r Ceirch Cae'r hendra yn y borau, ac yn mynd i danu Mwdylau adladd y Glofer yn y Morfa, ac yn ei garrio i gyd. Y Buwchod yn mynd i Forfa Trwyn y garreg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd mercher, Diwrnod dwl gwyntog, Y Meibion yn gwneud pen Da^s y Beudy newydd. Mari wedi mynd a phwn o Haidd i'r Felin  Wil Sion yn mynd at OwenPortreuddyn i gau rhwng y ddau forfa  Sion Morris yn mynd i gau bwlch y'nghlawdd y Mynudd Caegoronw y ddau arall yn mynd i raffio Da^s gwair yr hen forfa. Fi wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod dwl distaw mwll. Wil Owen a Dic yn y boreu cyn boreufwyd efo Da^s yr hen Forfa. y ddau arall yn Gorphen tori Ceirch Cae'r Hendra. Diwedd lladd yr yd. ar ol boreu fwyd yn i Gaegoronw i nol y gwair oedd yno yn yspa^r o wneud pen y Da^s i wneud pen da^s y Beudy newydd. Adarwyr yn mynd trwy gwr y Tir. Owen Roberts Tyddynwisgin yn dwad wedi iddi dywyllu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod clir sych, Y Meibion yn mynd a llwth o Do at Dda^s y Beudy uchaf. Yn gwerthu Pedwar Eidion i Owen Roberts  Yn gwneud pen y Da^s Adladd glofer y Morfa. Yn gorphen toi Da^s y Beudy newydd. Y gorphen Cynnull Ceirch y Caelleppa ucha ac yn Cynnull peth o Geirch Cae'r hendra. Fi wedi bod yn y Farchnad. Fy Ewythr Tyddyn y gwynt yno. Troi dwy Fuwch at Pesgi yn eu gwedu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod clir sych. Wil Sion a Sion Morris yn gorphen cau o gwmpas y Das gwair yr hen Forfa. Wil Owen a Dic yn dechreu toi Da^s y Beudy ucha, ar ol Prydnhawnbryd yn gorphen cael yr Yd. Elin a Beggy Owen wedi mynd i Dremadoc. J.M. yn ymadel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl yn gwlitho chydig yn y Prydnhawn. Fi wedi bod yn Aberglaslyn. Elin a Peggi wedi bod yn Caeddafydd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod clir sych, Y Meibion y boreu yn toi Da^s y Beudy ucha, Y lloia yn mynd i Weirglawdd ucha y Tymawr  Y Buchod yn mynd i'r adladd i'r hen Forfa. Y Ceffyla yn mynd i Forfa Trwynygarreg, Yn cneifio'r Wyn, ac yn gyrru saith deg tri i allt y Tymawr, yn gadael dau yn cae'r lloia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll iawn, yn bwrw Cawod fechan o wlaw o gwmpas hanner dydd. Y Meibion yn gorphen toi Da^s y Beudy ucha. Wil Owen yn dechreu ei raffio Y ddau arall yn hel to at y Da^s adladd y Morfa. Fi wedi bod yn chwilio am Ysgyfarnog, ac yn misio gweld yr un  Cathrine Humphrey'r Borth yn dwad a phedwar o Dorbydiad yma, ac yn siarad am ddau bwys o Wlan. Sionun wedi bod a Captan yn yr Efail


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod clir mwll iawn. Y Meibion yn gwneud pen y Da^s glofer yn y Morfa ac yn ei doi. Gwas Owen Roberts yma'n nol y Pedwar Eidion.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod clir gwyntog sych. Y Meibion yn gwneud rhaffa yn boreu, yn mynd ar ol boreufwyd i raffio y Da^s Adladd glofer ac i gau o'i gwmpas. Robt. Sion Cigydd Tremadoc yma'n danfon Llythur oddiwrth Mr. Williams Benar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod clir sych gwyntog. Y Meibion cyn boreufwyd yn gorphen cau o gwmpas y Da^s glofer. Yn mynd ar ol boreufwyd i'r Tymawr at y wal yn y Caeaporfa. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog lled oer ac yn bwrw peth yn y Prydnhawn. Y Meibion yn y Tymawr efo'r wal, ar ol Prydnhawn bryd yn Toi'r helm Haidd. Fi yn sal yn y boreu wedi ar y Mwyaf [sic] neithiwr. Fi yn danfon Elin i'r Cefncoch, ac yn mynd i'r Clenenney ac i'r Rhwngyddwyryd ar neges oddiwrth Mr. Williams Fi yn ymdroi peth yn penmorfa i aros Elin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul;. Diwrnod dwl sych. Elin a minau wedi bod yn Ty Moris Jones


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl sych. Y Meibion efo'r Wal yn y Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/9/1822
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl sych. Y Fi wedi bod yn Ffair Pwllheli. Owen Roberts yn dwad efo mi adref. Y Meibion efo'r Wal yn y Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax