Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
25/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl sych. Elin a minau wedi bod yn Ffair Benmorfa. Y Meibion efo'r wal yn y Tymawr.
|
26/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl sych lled gwyntog. Fi yn mynd heibio i'r Clenenney a Rhwngyddwyryd ac i Lanystumdwy i Dalu Ardreth y Brenhin, ac yn ymdroi y Nghriccieth wrth ddyfod adref Wil Owen wedi bod yn Ffair Ffestiniog y lleill efo'r Wal yn y Tymawr
|
27/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl sych. Mr. Owen Aberglaslyn yma y meibion efo'r Wal yn y Tymawr. Fi heb fod yn y Fachnad[sic]
|
28/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl sych. Yn Yspaddu wyth o Loia. William Owen Llidiart yspyty yn dwad a llo yma i ffeirio am Lo Tarw. Mari Tomas Cwmystrallyn yma
|
29/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod distaw sych.
|
30/9/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych. Y Meibion yn nol y llwyth Mawn cyntaf eleni o Reiniog. Mr Owen Aberglaslyn yn dwad yma finau yn mynd efo fi trwy Penmorfa i Gricieth i'r Ciniaw Gwyl Mihengel Mr Owen yn dwad efo mi adref ac yn cysgu yma
|
1/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych. Y Meibion yn nol llwyth o fawn o Reiniog. Mr. Owen a minau yn mynd i Benmorfa at W. Williams Benar ac yn mynd i'w ddanfon i Dygwynygamlas. Edward Pritchard o'r Seboneg a fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yma'n cysgu
|
2/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych claiar, Y Meibion yn nol llwyth o Fawn o reiniog. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yn mynd a llidiart i'w roi ar adwy'rcyfrau oedd wedi ei gau yn mynudd Llanfair. Elin a minau yn mynd oddicartref - Elin yn mynd i Dyddynwisgi finau yn mynd i Penrhos at W. Williams yn dyst mewn cyfraith rhwng John Griffith ac Arthur Hughes adref erbyn un o'r gloch y boreu
|
3/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw ma^n Y Meibion yn nol llwyth o fawn o Reiniog ac yn mynd ar wyn i Gaegoronw i'w Charcharu chwech deg wyth ohonynt
|
4/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn nol llwyth o Fawn o Reiniog. Cathrine Humphrey'r Borth yma nol dau bwys o Wlan. Yn cael dau alwyn o Rum o Gaer.
|
6/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod gwlawog yn y boreu, sych at y Prydnhawn Y daeargi yn dwad yma o'r Tyn y mynudd uha[sic]
|
7/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwyntog iawn ar ol gwlaw, Taranau a Mellt yn y plygain. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o fawn. Mr. Owen Aberglaslyn yn dwad yma. fi yn mynd efo fo i Dremadoc gartref erbyn ciniaw. Risiart go^f Tremadoc yma nol arian Arthur Hughes Penmorfa yma yn holi achos cyfraith rhyngddo ef a John Griffith Tyddynmawr y Pennant. Ann Roberts Tymawr yma'n nol pwys o wlan
|
8/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd mawrth. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw ambell i gawod drom iawn. Y Meibion wedi mynd i Reiniog i nol llwyth o fawn. fi wedi bod yn Tremadoc. gartref cyn Ciniaw Elin yn dwad adref o Dyddynywisgin efo'r nos. Fi yn saethu Ysgyfarnog yn ochr yr hen Erw
|
9/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwyntog dryghinllyd iawn. Y Meibion yn trwsio Da^s y Beudy newydd.
|
10/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod clir teg. Y Meibion wedi bod chwech pwn o fawn yn yr Odyn ac yn dwad a llwyth adref. Gwlaw at y Prydnhawn. Yn poteli'r Cwrw a'r Porter oedd yngwaelof y Barilu. Diwedd carrio mawn y Reiniog
|
11/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych teg Y Meibion i gorphen trwsio da^s y Beudy newydd ac yn toi y Da^s mawn. Fi wedi bod yn Cynhebrwng Elizabeth Roberts Maentwrog yn Penmorfa
|
12/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod distaw ac yn bwrw ambell gawod Fi yn mynd i Aberglaslyn at Mr. Owen yn brecwasta yno ac yn mynd at Lyn y Dinas i bysgotta heb dal yr un gartref erbyn deg
|
13/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod dwl gwyntog ac ambell gawod led oer
|
14/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod distaw teg. Y lloia yn mynd i'r Morfa glofer. Yn dechreu tynu Clorenod at eu cadw. Mr. Owen yn galw yma
|
15/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod mwll ac yn bwrw gwlaw man Y Meibion yn tynu Clorenod iw cadw. Yn dar llaw[?] fi yn gwneud cawell pysgotta.
|
16/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod mwll ac yn bwrw gwlaw man. Y Meibion yn tynu clorenod iw cadw. Mr. Owen yn galw yma. Fi yn mynd i Drefmadog i wrando dwy Bregeth gan Ymneullduwyr. Gwas Morris Jones yn dwad a dwy gwningen ddo^f yma
|
17/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn tynu clorenod iw cadw. Elin wedi bod yn Ty'n y berllan yn prynu Afalau
|
18/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych distaw ond barrig trwm neithiwr Y Meibion yn tynu Clorenod iw cadw - Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Robt. Lloyd Maentwrog yma
|
19/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw'n drwm iawn trwy'r dydd. Merched Caeddafydd yn dwad yma i fynd i Briodas Beggi Owen. Wil Owen a Wil Sion yn mynd yno. Dic efo Robt. Hendra howel yn cau. Evan Ellis arwydd y cnuf aur Tremadoc yma'n danfon Ysgrif am lechau toi oedd wedi mynd at Tynlon. Teg at y Prydnhawn Morris Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn
|
20/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod dwl a gwlaw trwm iawn yn y boreu Mr Owen Aberglaslyn yma
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|