Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
21/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl a gwlaw trwm iawn yn y boreu. Y Meibion yn dyrnu peth ac yn dechreu gwneud panela, yn tynu Clorenod yn y Cryncoli[?] ar hindda. Wil Jones yn myd[sic] at Owen Owens Pontreuddyn i gau clawdd terfyn rhwng buarth yr hen erw.
|
22/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg distaw. Fi yn mynd i ffair Griccieth Wil Sion yn dwad a Cainsan yno Robt. Poole yn ei phrynu. Dic yn dwad a Farmer yno, yn dwad adref heb ei werthu
|
23/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych lled wyntog. Yn tynu Clorenod at eu cadw. Rob Sion Baili yn dwad a rhybydd imi fynd i Penrhos yn achos Cyfraith rhwng John Griffith ac Arthur Hughes
|
24/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn tynu Clorenod at ei cadw. Sionun wedi mynd i'r Gelli i nol oen. Y Gornfelan wedi dwad a llo yn yr hen forfa gwair.
|
25/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych teg. Yn diwedd tynu'r Clorenod brithion a'u gwneud yn dda^s yn yr hen ardd. Thomas Hughes ac un arall yma'n prynu'r Ebol. Fi yn mynd efo Wil Williams i Farchnad. Edward Davies yno'n Pregethu. Dic wedi bod yn Tynyberllan yn nol Afala
|
26/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg yn y boreu gwlaw at hanner dydd. Yn hel y Defaid ac yn dechreu eu cneifio. y gwlaw yn ein 'stopio. Wil go^f o Dremadoc yma'n turnio pelliau at y Dwrn. Wil Sion yn mynd i ddyrnu, y ddau arall yn mynd i gau rhwng yr allt a'r Caea adladd.
|
27/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg distaw ar ol bwrw cawodydd o wlaw mân yn y boreu
|
28/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl distaw mwll. Yn cneifio'r mamoga ac yn marcio deuddeg a deugain o fyllt, ac yn eu troi i'r Allt. Wm. Jones yn dwad yma i lanhau'r Awrlais a dwy awrfyneg
|
29/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl distaw mwll. Y Meibion yn codi Clorenod cochion. Fi wedi bod yn tranau yn ceisio prynu tri Eidion. Siani wedi bod yn danfon peth at wylnos Merch Edward Owen y Ty ucha Cwmystrallyn - Gwraig John Jones Crwynwr Tremadoc yma yn ymofyn ein wlan. Wm. Jones yn mynd adref
|
30/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg. Fi yn mynd i Benrhos yn achos cyfraith Sion Griffith ac Arthur Hughes, yn cael fy siomi achos bod Mr. Ellis heb ddyfod yno yn cysgu yn Tyddynwisgin y noson. Ellin wedi bod yn Cynhebrwng Merch Edward Owen y Tyucha. Y Meibion yn tynu clorenod.
|
31/10/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod teg yn y boreu Dryghin at hanner dydd Fi yn dyfod adref yn ymdroi yn y Bettws ar y ddryghin fwyaf wedi cael anwyd trwm wrth ddyfod o Benrhos neithiwr Y Meibion yn tynu clorenod
|
1/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dryghinllyd iawn ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd. Y Meibion yn tynu Clorenod yn y bryn coch yn y boreu, Y Prydnhawn Wil Sion yn dyrnu, y lleill yn trwsio'r palis yn y Tymawr. Sionun wedi mynd i'r Dref i nol olew a lamp newydd. Fi heb fod yn y Farchnad. Sionun heb gael y lamp
|
2/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf. Y Meibion yn tynu clorenod moch. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma ac yn mynd adref efo'r nos. Pegi yn ymadael ai yn mynd yn mynd[sic] yn sal yn Portreuddyn ac yn esgor ar eneth. Owen Owens yma'n cysgu
|
3/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod oer ac yn bwrw cawodydd oerion. Mrs. Jones y siop Tremadoc yma
|
4/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl cymylog. Wil Sion wedi bod yn y Ceunant yn nol dyniewed Owen Roberts oedd wedi blino o'r Gurr yn tynu clorenod moch. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
5/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl gwlawog. Y Gwartheg hespion yn dwad o Gaegoronw i'r Morfa Y Buchod yn mynd yn mynd[sic] o'r Morfa i Flaenycoed. Darfod tynu clorenod. Fi wedi bod yn y Festri
|
6/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod dwl gwlawog budr. John Jones Crwynwr o Dremadoc yma'n pwyso'r gwlan. Dic yn ei ddanfon yno
|
8/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod teg distaw. Y Meibion yn hel To at y Da^s mawn. Wil Sion yn dyrnu. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad. Robt. Poole yn dwad yma i dalu am y Fuwch oeddwn wedi wethiu [sic] iddo yn ffair Griccieth
|
9/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl lled oer. Y Meibion yntoi Da^s Mawn Caegoronw. Wil Sion yn dyrnu. Fi wedi bod yn adara heb weled dim
|
10/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych lled ddistaw. Y Tarw oedd wedi dwad trosodd i'r caemain yn taro y Fastiffgast yn y clawdd ac yn ei lladd
|
11/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl lled fudr. Wil Sion yn dyrnu y ddau arall yn cau rhwng y caea porfa a'r caea adladd. Fi wedi bod yn ffair Pwllheli.
|
12/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod budr iawn ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd. Fair yn Penmorfa. Fi yn mynd yno ac yn cyflogi Gweinidogion. Mari yn ymadael ! ac yn mynd ai dillad i ffwrdd. Wil Owen yn ymadael !! y ddau yn ymadael achos eu bod yn caru eu gilydd !!!
|
13/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych distaw. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn Carrio gwellt i'r Beudy newydd. Fi wedi bod yn Tynymynudd efo Sion Morris yn prynu hwch
|
14/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych distaw. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn hel gwial Sion Morris yn dwad a'r hwch yma. Fi yn mynd i Dremadoc i ddisgwyl am Bregeth, heb gael yr un. yn ciniawa efo Robt. Jones ac yn ymdroi efo Morris Jones. yn cael ysgyfarnog gan M. Jones i ddyfod adref
|
15/11/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog iawn a Dryghinllyd ac yn bwrw ambell gawod drom o Genllysg. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn hel gwiail. Fi Gartref
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|