Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
11/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych distaw wedi rhewi neithiwr. Wil Sion yn durnu. Y lleill yn carrio mawn. Fi wedi bod yn ffair Harlech, yn mynd a dwad yr un tile
|
12/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych distaw wedi rhewi neithiwr WillSion yn dyrnu, y lleill yn carrio mawn. Sionun Sion Japheth yn dwad a 'sgyfarnog yma o Langybi.
|
13/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych distaw wedi rhewi'n bur galed. Yn tori da^s y Beudy newydd i gael gwair i'r ddwy Fuwch dew. Fi wedi [sic] yn Tremadoc yn y Farchnad
|
14/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych distaw wedi rhewi Wil Sion yn dyrnu. Y lleill yn diwedd carrio mawn Caegoronw. Thomas William Cigydd o Dremadoc yma'n prynu'r Fuwch dew
|
16/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych distaw wedi rhewi'n galed.Wil Sion yn dyrnu Dic a Sionun wedi bod o gwmpas Caegoronw yn chwilio am wy^n. Y Fuwch dew yn mynd i ffwrdd. Evan Evans Pwllheli yn dwad yma i gysgu o'r Towyn o bwyso rhisg
|
17/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw ma^n dwys Y Meibion yn nithio. Fi wedi bod yn Tremadoc, yn dwad a Feis newydd efo mi adref
|
18/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl distaw claiar iawn. Y Tri bustach yn dwad i lawr o'r Tymawr at y lloia. Wil Sion a Dic yn codi banadl yn ochr y Caemain. Owen Roberts yn dwad yma
|
19/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych teg. Fi efo'r Meibion yn parottoi lle i rwymo'r gwartheg. Yn saethu Ysgyfarnog yn y Clawdd rhwng y Caecanol a'r Cae banadl, wrth fynd i'r beudy ucha Owen Roberts yn mynd adref Y Meibion yn y Prydnhawn yn codi banadl yn ochr y Caemain Morris Jones Tremadoc yma.
|
20/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych teg Yn cau'r mo^ch i fewn Y Meibion yn mynd a llwyth o Wellt i'r Beudy ucha. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
21/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn (Dydd Gwyl St. Thomas.) Diwrnod sych wedi rhewi'n galed iawn. Fi yn mynd i Benmorfa i'r Festri. Wil Sion yn hel gwiail Dic yn mynd a phwn o Haidd i Felin Tanrallt iw talu ac efo'r nos yn dwad a hobad o Fra^g o Dy^ Robt. Jones.
|
22/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych wedi rhewi'n galed iawn
|
23/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych distaw yn meirioli. Dic wedi bod a'r tri cheffyl gweithio yn yr Efail yn durio eu pedolau. Yn rhwymo'r gwartheg i gyd. Fi yn seithu Ceinach yn y Caetycoh[sic], bachgen o Hendregwenlliain yma yn dweyd fod fy Modryb o Benarth wedi marw
|
24/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod distaw ac yn lled fwrw ychydig peth Eira hyd bennau'r mynyddau. Fi wedi bod y Nghynebrwng fy Modryb Ann Edward o benarth yn Llanbedr. Yn aros yn Tygwynygamlas i aros iddi dreio gartref o gwmpas deg o'r nos. Y Meibion wedi bod yn Caegoronw yn nol siwrna o Wair gyntaf Eleni
|
25/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych distaw wedi rhewi'n galed. Dydd Nadolig Newydd. Fi wedi bod yn Aberglaslyn efo Mr. Owen
|
26/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych distaw y Meibion yn dwad a'r llwyth gwair cyntaf eleni o'r da^s wrth y ffordd yn y Morfa, i'r Beydy newydd Fi yn saethu ceinach yn ochr Pontreuddyn. Richd. Ellis Reiniog yma'n nol Treth Tylodion
|
27/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych distaw, wedi rhewi'n galed. Y Meibion yn y Tymawr yn Teilo. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Robt. Thomas Caecoch yn dwad yma ac yn cysgu yma
|
28/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych distaw wedi rhewi'n galed. Y Meibion yn y Tymawr yn Teilo. Yn Darllaw.
|
29/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych lled wyntog wedi rhewi'n galed. Yr Anner wedi dwad a llo^ yn Gwernclowna, dwad a dwy Anner i'r Beudy newydd o'r Beudy ucha.
|
30/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych lled wyntog wedi rhewi'n galed iawn Y gwres fesurydd cyn ised a 37. Y Meibion yn carrio Gwair o Gaegoronw i'r Beudy ucha Harry Owen Tyddynadi, Richd. Ellis Reiniog yma wedi bod y nghyfarfod dyn achos plentyn ordderch.
|
31/12/1822 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych distaw, wedi rhewi'n galed. Y Meibion yn Tymawr yn carrio'r peth oeddin[?] wedi godi wrth agor ffosydd Fi wedi bod yn Adara, yn gweled Ysgyfarnog a phedwar Cyffylog heb ladd dim. Fi wedi bod yn Tremadoc Sion Hugh Drwsyrymlia yn dwad yma i dalu ei Ardreth. Gwas M. Jones Tremadoc yn dwad a hogsead yma ac yn mynd a Chloreinod a Menin yn ei ol
|
1/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher, Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed Y Meibion yn dwad a siwrna [y gair siwrne wedi ei groesi allan] Llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd ac un i’r stabal ucha. Sion Hugh yn mynd adref
|
2/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych distaw yn meirioli. William Owen y Cwmmawr yma’n lladd y Fuwch dew. G Jones Tailiwr [sic. teiliwr] Tremadoc yn dwad yma i weithio. Yr Heffer wedi dwad a llo
|
3/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych distaw. Yn meirioli. William Owen yn dwad yma i dorri’r Fuwch, ac yn mynd efo mi i Dremadoc Dic wedi bod yn danfon y Croen i’r Plasnewydd. Gwas Tyddynwisgin yn dwad i nol y Turkeys [sic. tyrcwn]. Wm.Williams yma’n prynu Caws
|
3/1/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych distaw. Sion Morris yn dyrnu. Dic yn hel Gwiail y boreu, ac yn dwad efo mi a'r Moch i'r Dref iw pwyso yn y Prydnhawn
|
4/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych distaw claiar. Y Meibion yn Tymawr yn chalu [sic. chwalu] tail. Robt.Thomas Caecoch yn dwad a Mochyn yma Sion Morris a Sion Hugh yma yn talu eu Hardreth. Griffith Jones Tailiwr [sic.] yn mynd adref
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|