Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
4/1/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl sych distaw
|
5/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl claiar sych. Siotig wedi dwad a llo
|
6/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl claiar sych. Y Meibion yn dwad a llwyth o wair o’r morfa i’r Beudy Newydd. Fi yn mynd i Benmorfa. Diwrnod talu y rhent.
|
7/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod dwl claiar distaw. Wil sion yn dyrnu Ceirch Dic yn Tymawr yn carrio gweddill cau y Trainsia [sic. traeniau] wrth lidiart y mynudd [sic.]. Fi yn mynd i Benmorfa i daly [sic. dalu] fy rhent. yn dwad adref heb ei thalu o achos codiad ofnadwy
|
8/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod dwl claiar distaw. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn carrio gweddill cau’r Trainsia [sic.] yn y Tymawr
|
9/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl claiar distaw wedi rhewi neithiwr. Y Meibion yn carrio Gwair o Gaegoronw i’r Beudyucha. Robt.Griffith y Saer yn dwad yma i drwsio trwmbal y Drol.
|
10/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod distaw sych wedi rhewi neithiwr. Wil Sion yn dyrnu Dic yn gorphen efo’r Trainsia [sic.] yn Tymaw [sic. Tymawr]. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
11/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych oer. Y Meibion yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Morris Jones Tremadoc a Mr.Evans Trafaeiliwr o Gaer yma. M.Jones yn aros yma. Fi yn mynd efo fo i adaru [sic. adara]. fo yn lladd Cyffylog [woodcock] yn blaenycoed
|
12/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych wedi rhew [sic. rhewi] Fi yn mynd i Benmorfa i gyfarfod G.Griffiths y Gesail
|
13/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych distaw wedi rhewi, ac yn bwrw peth eira Wil Sion yn mynd a llwyth o Geirch i’r Odyn
|
14/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod distaw wedi bwrw eira tew a rhewi. Wil Sion wedi bod a llwyth o Geirch yn yr Odyn. Wil Williams yn pwyso Cant a naw o Gaws
|
15/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed (Y gwres fesurydd cyn ised a 35 o raddau) Wil Sion yn dyrnu. Dic yn cneifio’r lloia [?]
|
16/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod distaw ac yn bwrw peth eira, wedi rhewi’n galed Wil Sion, Sion Morris a Sionun wedi mynd i’r Felin i Silio. Dic yn mynd a’r drol yno
|
17/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod distaw wedi rhewi’n Galed eira yn parhau Y Meibion yn dwad a gwair o’r Morfa i’r Beudy newydd ac i’r ‘Stabal Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
18/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed iawn. Y Meibion yn carrio [sic. cario] gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha Elizabeth Griffith yn mynd adref. Elin a minau yn mynd i Dyddyn Wisgin
|
19/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed, eira yn parhau. Elin a minau yn Tyddynwisin [sic. Tyddynwisgin]
|
20/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed. eira yn parhau. Yn mynd o Dyddynwisgin i Gaerynarfon [sic. Gaernarfon]. Owen Roberts a minau yn mynd heibio i Benrhos. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha
|
21/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed.eira yn parhau. Elin a minau yn dwad adref o Dyddynwisgin. Y Meibion yn darfod teilo oddiwrth y Beudy ucha
|
22/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod distaw wedi rhewi’n galed eira yn parhau Y Meibion yn dechrau teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caemain Yn gosod clawdd rhwng Cae porfa y Tymawr a’r Weirglawdd [sic. weirglodd] ucha y Tymawr i Sion Morris a Morris Dafydd a Sion Tyn y Coed am bedwar swllt y rhwd
|
23/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod gwyntog iawn wedi rhewi’n galed anghyffredin Y Gwres fesurydd islaw y pwynt rhewlyd [sic rhewllyd], yn is nac er’s [sic] blynyddoedd Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd
|
24/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog wedi rhewi’n galed iawn. (Y Gwres fesurydd cyn ised a 31 o raddau) Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caemain. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Mody Owen Cefn Cynferch, Llanarmon yn dwad yma i dalu ei hardreth.
|
25/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog wedi rhewi’n galed iawn yn dwad yn eira a lluwch mawr at ganol dydd. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caemain yn y boreu, at y Prydnhawn Wil Sion yn dyrnu. Dic yn hel a churo Eithin
|
26/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed. Eira a llwuchfeydd mawr. Mody Owen yn mynd adref. Mr.Owen Aberglâslyn [sic Aberglaslyn] yma’n Ciniawa
|
27/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dryghinllyd gwyntog.ac yn bwrw gwlaw o’r De ddwyrain ac yn meirioli. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn curo Eithin
|
28/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl claiar wedi toddi’r Eira ond lluwchfeydd Y Meibion yn carrio [sic] Gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha. Robt.Thomas Caecoch yn dwad a Mochyn brith yma, ac yn cysgu yma –
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|