Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
29/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl budr a gwlawog iawn. Wil Sion yn dyrnu. Dic yn hel Eithin ac yn eu curo. Robt.Thomas yn mynd adref. Harry Owen yma’n edrych y moch ac yn Ciniawa. Wil, gôf Tremadoc yma yn tyrnio deunydd Pistol. Richd.Ellis Reiniog yma, eisia seinio Assessment.
|
30/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl a niwl tywyll, heb fwrw dim. Y Meibion yn carrio [sic] gwair o’r Morfa i’r Beudy newydd
|
31/1/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl heb fwrw dim. Wil Sion yn gorphen dyrnu a [sic] Ceirch. Dic yn hel gwiail. Sion wedi bod a thelaid o Wenith yn Melin Tanrallt.heb gael malu. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad yn gwerthu’r moch i Harry Owen am geiniog a thair ffyrling y pwys
|
1/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog ac eira hyd bennau’r Mynyddau Y Meibion yn nithio. Fi a Wil Jones yn ^ [sic.] moch i’r Dref iw pwyso.un yn pwyso 20.12 – 21.3 am geiniog a their ffyrling y pwys

2/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod gwyntog oer.un o’r moch wedi dwad adref

3/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl distaw wedi bwrw eira yn y boreu.eira tew hyd y Mynydda [sic.] Wil Sion a Sionun yn dechrau aredig yn Hendratyfi

4/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl oer ac yn bwrw eira y rhan amla. Y Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw i’r Beudyucha, Edward.gwas Morris Jones Tremadoc yn dwad a Gwningan [sic. cwningen] wrw [sic. gwryw] yma.
|
4/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl oer ac yn bwrw eira y rhan amla. Y Meibion yn carrio [sic] gwair o Gaegoronw i’r Beudyucha, Edward.gwas Morris Jones Tremadoc yn dwad a Gwningan [sic. cwningen] wrw [sic. gwryw] yma.
|
5/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod clir distaw wedi rhewi’n galed. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caemain. Fi wedi bod yn Pwllheli yn y Farchnad.ac yn siarad efo John Evans Tynycoed am fynd i rannu’r Tynlôn, Cefncynferch a hanner y Gwyndy
|
6/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwyntog yn lluwchio ac yn bwrw eira. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newyd [sic. Newydd] i’r Caemain.
|
7/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl yn meirioli ac yn bwrw gwlaw weithia Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudynewydd i’r Caemain Sion Morris yn dwad a chyffylog yma’n fyw wedi ei ddal yn Ty’r Caeglâs [sic] Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad, Owen Roberts, Tyddynwisgin yn dwad yno, ac yn dwad efo mi adref
|
8/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod distaw claiar wedi rhewi peth yn y boreu Y Meibion yn carrio [sic] gwair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Owen Roberts yn mynd adref

9/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw at y Prydnhawn

10/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw man dwys trwy’r dydd. Wil Sion a Sionun yn Aredig yn Hendratyfi. Dic yn chwalu tail yn y Weirglawdd [sic.] ucha

11/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod gwyntog iawn ac yn bwrw peth gwlaw weithia [sic. weithiau]. Wil Sion yn darfod aredig yn Hendratyfi ac yn mynd i ddechreu aredig tir glâs yn y Weirglawdd ucha. Fi wedi bod yn Tremadoc Wm.Lewis,Tad y Forwyn yma yn dwad yma ac yn cysgu yma
|
12/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw ambell gawod o eirwlaw [sic. eirlaw]. Wil Sion yn aredig yn y weirglawdd ucha. Dic yn chwalu tail yn y Caemain
|
13/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod distaw teg. Y Meibion yn carrio [sic] gwair o Gaegoronw i’r Beudy ucha
|
15/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod distaw teg sych.eira tew hyd y Mynyddau Y Meibion yn carrio [sic] gwair o’r Morfa i’r Beudy Newydd. Dic wedi bod yn danfon cant o Gaws i’r Bulchllechog [sic. Bwlchllechog?] i Wm.Williams
|
16/2/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod distaw sych, eira hyd y Mynyddau
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|