Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
9/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod distaw teg eira tew hyd y mynydda [sic]
|
10/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod budr yn bwrw eirwlaw [sic] trwm hyn hanner dydd Sionun wedi bod a’r tri cheffyl gweithio yn yr Efail. Yn mynd ddaliad y Prydnhawn i aredig i’r Caelleppa ucha Sionun Sion Japheth yn dwad yma o Langybi i ofyn am Ann. Richd.William Rhwngyddwyryd yma’n danfon sachau i fynd i gyfarfod Ceirch hâd
|
11/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych lled [? Sic]. Yn aredig yn y Caelleppa ucha
|
12/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych distaw claiar Wil Sion yn aredig yn y Caemain. Dic yn dyrnu Haidd Dolly yn dwad iw lle
|
13/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod niwlog claiar ac yn bwrw gwlaw man dwys Wil Sion yn Aredig yn y Caemain. Owen Roberts Tyddyn wisgin yn dwad yma. Yn mesur y clawdd yn y Tymawr.yn 18½ o Rydau. Silvanus Jones Caegwyn yn galw yma gyda’r twyllnos. Wil Sion wedi bod yn nol hanner tunell o glo [sic. hanner tunnell o lo]
|
14/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod budr yn bwrw eirwlaw [sic] trwm iawn hyd hanner dydd.teg at y Prydnhawn. Wil yn dyrnu Haidd. Dic yn curo eithin. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
15/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod distaw claiar teg. Wil Sion wedi mynd i nol y Ceirch hâd i’r Tynewydd y Mynudd [sic]. Y lleill yn carrio [sic] Clorenod o’r Dâs i’r Ty Clorenod. Yn Darllaw
|
16/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod distaw sych oerach na doe [sic]
|
17/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod distaw sych. Wil Sion yn Aredig yn y Caemain. Dic wedi bod yn danfon y Gwartheg allan i ffwrdd. Sion Hugh Drwsyrymlid yma’n gofyn am gau y rhan yn y mynudd [sic]. Sian Tomas Penmorfa a Begi Owen yma. Sion Morris yn darfod cau clawdd y Mynudd [sic] o hen Adwy Tyddyn Llewelyn i Ben y Castell.
|
18/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod budr ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf. Wil Sion a Sionun yn dechreu aredig yn Morfa’r Garreg yn y pen agosaf i’r Traeth iddo. Dic yn gorphen ch^alu [sic. chwalu] tail yn y Caemain ac yn mynd i ddyrnu Haidd. Gwlaw trwm iawn at y Prydnhawn Wil Sion wedi bod a Heurns [sic. haearn, heurn] aradr y Morfa yn yr Efail.
|
19/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych sych [sic] oer wedi bwrw eira neithiwr a rhewi’n galed yn y boreu. Wil Sion yn Aredig yn y Weirglawdd ucha. Evan James yn dwad yma. Fi wedi bod yn Llangybi yn cyfarfod Owen Roberts ynghylch rhanu’r [sic. rhannu’r] Tyddynod rhwng y ddwy chwaer
|
20/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod claiar budr ac yn bwrw gwlaw dwys agos ar hyd y dydd. Y Meibion yn nithio Haidd. Mrs.Jones Siop Tremadoc yma
|
21/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod claiar budr yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd Gwas Tyddynwisgin yn dwad a Llythur [sic] yma yn achos rhannu y Tir rhwng Elin ai chwaer. Wil Sion yn tynu [sic. tynnu] cerrig i drwsio’r clawdd rhwng y Caemain a’r Caecanol. Dic yn crynu [sic]. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. llythur yn dwad i fy nghyfarfod i fynd efo Ellis Jones Dolgelley i frynefelucha. yn cael benthig Ceffyl gan Richd.Thomas Penmorfa. yn cael gwlaw trwm iawn
|
22/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod budr gwlawog yn y boreu teg at hanner dydd Wil Sion yn dyrnu yn y boreu ac yn mynd y Prydnhawn i orphen Aredig yn y Weirglawdd ucha
|
23/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych distaw lled oer. Yn bwrw abell gawod o eira drom. Dau oen bach yn dwad i’r Ty. un yn marw –
|
24/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod distaw teg sych wedi rhewi peth neithiwr. Fi wedi bod yn Tremadoc. Y Meibion yn nol llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd ac yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r bryncoch. Sion Morris yn dwad yma yn cau rhwng y Caemain a’r Caecanol
|
25/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod distaw teg sych wedi rhewi a barrigo [sic barugo] peth Wil Sion yn Aredig yn y buarth gwyn. Sion Morris a Dic yn cau rhwng y Caemain a’r Caecanol. William y Beudy Mawr yma
|
26/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod distaw teg sych. Yn curo biswail. Sion Morris yn gorphen cau y mhen [sic] ucha’r Caemain
|
27/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl distaw claiar. Wil Sion yn Aredig yn y Morfa. Sion Morris a Dic yn cau rhwng y Caelleppa ucha a’r Cae banadl. Yn dechreu aredig yn yr hên [sic] Forfa Evan James yn darfod
|
28/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod distaw claiar. Yn gorphen chwalu biswail Sion Morris yn dechreu palu yn yr Ardd ac yn planu [sic. plannu] Clorenod. William Owen y Gwyndy yma’n talu’r Ardreth. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
29/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog mwll. Sionun wedi bod yn danfon Ceirch du hâd i Richd.Thomas Penmorfa ac yn dwad a cheirch gwyn hâd efo fo adref oddi yno. Wil Sion a Dic yn dwad a dau lwyth o Dail oddiwrth y Beudy newydd i’r Ardd, ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd, ac yn mynd i deilo i’r Bryncoch. Fi efo Sion Morris yn hau Winiwns [sic. wynwyn] a llysiau cochion ac yn planu [sic] ffa yn yr Ardd.
|
30/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul y Pasg. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw man dwys weithia. Fi wedi bod yn y Llan ar fy nhraed
|
31/3/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân claiar. Bachgen Richd.Thomas Penmorfa yn danfon Ceirch hâd yma. Y Meibion yn parottoi’r [sic. paratoi’r] offerynau [sic. offerynnau] at Lyfnu Cynffonwen yn dwad a llo. Fi yn gwneud Genwair
|
1/4/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl budr. Wil Sion yn Aredig yn y Cae’rhendra Sion Morris a Dic yn cau bwlch yn Wal y Traeth ac yn dechreu cau y bylcha yn y clawdd y ffordd. Fi wedi bod yn y Festri yr oedd yr Oferseers [sic. overseers] yn rhoi eu cyfri i fynu [sic. fyny]
|
2/4/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwlawog. Fi yn mynd i Gaernarfon i’r Sesiwn yn cael fy ngwlychu yn drwm iawn wrth fynd yno
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|