Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
3/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl budr. Fi yn y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod dwl lled fudr  Fi yn y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych oer ac eira tew hyd y Mynyddau [sic] Fi yn dwad adref o’r Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych oer. Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod sych oer. Yn llyfnu tir Clorenod yn Hendratyfi  Fi wedi bod yn Brynefail ac yn y Gwyndy


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych oer. Yn dechreu llyfnu yn y Weirglawdducha – William Owen y Gwyndy yma yn nol cwarter [sic. chwarter] llath o Wair o’r Morfa. Owen Edward Mab y Llwyndy Llanaber yma yn cysgu. William y Beudymawr wedi bod yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod sych oer. Yn lyfnu’r Caelleppa ucha a’r Caemain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod sych oer. Yn llyfnu pen isa i’r Buarth gwyn a phen isa i Gae’r hendra. Yn gorphen llyfnu’r Ceirch dû [sic. du]. Fi yn mynd i’r Festri yr oedd yr Overseers [sic] newyddion yn cymeryd lle. Daliad y Prydnhawn yn Aredig yn y Morfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych oer Yn Aredig yn y Morfa. Mari Thomas yma William Thomas Cefn y Maen yma. Dolly wedi bod yn Tymawr Penmorfa yn nol bresych iw planu [sic. plannu]  Dic yn eu planu [sic]. Fi yn lled sâl gan yr Anwyd.heb fynd i’r Farchnad!!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg. Yn Aredig yn y Morfa Dolly wedi bod a gwenith yn Melin Tanrallt. Heb gael malu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych teg. Mr.Owen Aberglâslyn [sic] yma gyntaf wedi dwad adref 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod sych teg. Wil Sion yn mynd adref yn sal gan y Cryd. Yn Aredig yn y Morfa ac yn dwad a llwyth o Wair i’r Beudy newydd Ffair yn Tremadog Fi wedi bod yno. Wil Williams yn dwad efo mi adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych teg Yn Aredig yn y Morfa. Dic wedi bod yn yr Ynushir [sic. Ynyshir] yn nol dafad ac oen. Owen Robert yn dwad yma. Mr Evans Trafaeliwr o Gaer yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw man claiar hindda at y Prydnhawn Y Meibion yn nithio Haidd ac yn puro pwn o Haidd i fynd i’r Felin. Y Gwartheg Hespion yn mynd i Gaegoronw. Ann Robert yn dwad a lleda [lledenod, flatfish?] yma. Owen Roberts yn mynd adref 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod dwl ac yn peth gwlaw yn y boreu teg a sych at y Prydnhawn Yn Aredig yn yr hen Forfa. Dic yn palu yn yr Ardd. Fi wedi bod yn Penmorfa yn disgwyl am Mr.Williams y Steward.ac yn dwad adref cyn iddo ddwad yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod sych oer. Yn darfod Aredig yn yr hen Forfa, ac yn Aredig yr hen ardd Clorenod moch. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Denbi wedi bod yn ei benthig [sic. benthyg] gan wâs Morris Jones yn tynu [sic. tynnu] coed o Aberdeunant


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych oer wedi bwrw eira tew hyd bennau’r Mynyddau Dic wedi bod yn y Cefnisaf yn ymofyn Ceirch gwyn hâd. Dolly wedi bod a phwn o Haidd yn Melin Tanyrallt. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych oer eira tew hyd bennau’r Mynyddau. Balchan wedi dwad a llo neithiwr. Elizabeth Griffith yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod sych distaw claiar. Sion Morris yn Aredig i Glorenod yn Hendratyfi. Dic yn planu [sic] ffa yn yr Ardd ac yn agor pena rhycha yn yr hen Forfa. Fi efo Dolli yn torri Clorenod cochion yn lladd Neidar [sic. neidr] y mhen pella i’r hen Ardd Clorenod môch wedi misio ei lladd ddoe a dydd Gwener. John Owens yn dweyd [sic. dweud] fod Mr.Williams o Benar y Mhenmorfa [sic] yn cychwyn yno. Gwraig Pyrs Penmorfa yn fy nghyfarfod rhwng Bwlchymoch a’r Penrhynheli yn dwad yma i ddweyd [sic] fod eisia i mi fynd i Benmorfa atto [sic. ato] y foru [sic] yn troi yn fy ôl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod sych teg Y Meibion yn carrio [sic] gwair o Gaegronw [sic. o Gaegoronw] i’r Beudy newydd Fi wedi bod y Mhenmorfa efo Mr Williams ac yn Brynefail  Lewis Williams y Bryngola yn dwad yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych oer, Yn darfod Aredig y tir Clorenod yn Hendra tyfi ac yn ei lyfnu. Dic wedi bod yn Tynllan Criccieth yn nol tri Hobad o Haidd hâd. Lewis Williams yn mynd i Gaeddafyddd. Fi yn mynd efo fo i Aberglâslyn at Mr.Owen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod sych a’r gwynt yn oer, (Yn clywed y Gôg gyntaf eleni) Yn dechreu llyfnu ceirch yn yr hên Forfa, Fi wedi yn y Festri [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych yn y boreu gwlaw yn y Prydnhawn. Yn darfod llyfnu yn yr hên Forfa ac yn dechreu llyfnu peth Haidd yn morfa’r garreg. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. William Owen y Gwyndy yma Owen William Ismael yma’n cael baich o wair o Gaegronw [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn Diwrnod oer lled fudr. Yn panu [sic. plannu ] Clorenod yn y bryn coch. Wm.Owen y Gwyndy a William Jones Tyddynau bâch yma’n nol gwair Wm.Williams y Bwlchllechog ym’n [sic] mesur hobad a hanner o Glorenod.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/4/1823
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod teg sych. Elin yn mynd yn sâl Dic yn mynd nol Mari Thomas [bydwraig?]. Geni’r Eneth bâch rhwng pump a chwech o’r gloch y boreu yn gyru [sic. gyrru] i nol Elizabeth Griffith a’r Doctor. Mr.Owen Aberglaslyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax