Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
10/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod lled ffeind. Fi yn dyfod adref o Langybi erbyn un o’r Gloch.Yn dwad a Brethyn Côb ucha.deunydd Clôs a gwasgod a hâd Glofer efo mi. Mr.Roberts Bryn Selwrn yn galw yma Will yn Aredig yn y Morfa i Haidd
|
11/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod teg Claiar. Fi yn mesur y ffosydd yn y Morfa efo Sion Jones.ac yn gosod clawdd iddo i’w wneuthur efo’r Ffordd fawr o Drwynygarreg at y clawdd terfyn Aberdeunant. Y Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw i’r Beudyucha. Sion William wedi mynd i Ddolbenmaen i godi gwarant yn erbyn Daniel Jones Ynuspandu [sic. Ynyspandy] am ei guro boreu ddoe pan oedd yn dyfod at ei waith. Yn gwneuthur Llidiart at Feudy Caegoronw i’w roi ar adwy’r mynudd [sic]. y Meibion yn mynd a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd
|
12/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg iawn wedi barigo’n bur drwm neithiwr. Wil yn Aredig yn y Morfa. Sion William a Huwcyn yn codi clawdd y Mynudd [sic]. Owen wedi bod a Jack yn yr Efail T.David yn dechreu codi cerrig at clawdd y ffordd
|
13/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg hynod barrig [sic. barrug] mawr y boreu. Ffair yn Tremadoc Fi yn mynd yno. Humphrey Lloyd yma wedi bod yn edrych y ffordd fawr tan allt y llys. Will yn Aredig yn y Morfa Huwcyn yno yn clirio y rhycha
|
14/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod niwlog yn y boreu ac yn bwrw gwlaw at ganol Dydd Fi yn cychwyn chwech o’r gloch y boreu i Gaernarvon i’r chwarter Sesiwn Gwenol yn fy nghyfarfod wrth ochr llyn y gadair.yn mynt [sic. mynd] ar y Petty Jury ar Drial Harry Sion Griffith Sion am basio naw chwecheiniog drwg yn Pwllheli.ei farnu’n euog Yn prynu dau Bistol Newydd.yn dyfod adref erbyn hanner nos
|
15/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Vestry Will yn Aredig yn y Morfa y lleill yno yn clirio rhycha
|
16/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod niwlog claiar hynod. Yn mynd i ben yr allt ar ol Ciniawa ac yn clywed y GÔG [sic.] yn canu
|
17/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod claiar ffeind iawn. Yn lyfnu cae’r Hendra Sion yn dechreu agor y ffos rhwng y morfa gwair a’r Morfa arall. Huwcyn yn mynd i’r Towyn i nol pedwar hobad o Glorenod ac Owain yn mynd a’r Ceffyl i Langybi i ymofyn Elin adref
|
18/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod claiar hynod. Yn dechreu llyfnu ceirch yn y Morfa Yr EGIN CLORENOD [sic] cyntaf yn Ymddangos yn yr ardd. y Gwartheg hespion yn mynd i Gaegoronw. Lowry Cerrigyrhwydwr yma yn nôl Hobaid o Haidd Y Fi yn gosod y Llidiart wrth Feudy Caegoronw. Ellin ac E.Griffith yn dyfod yma o Langybi
|
19/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg ffeind iawn. E Griffith yn mynd adref. Y Meibion yn mynd i’r Morfa i Lyfnu Fi yn mynd i Benmorfa
|
20/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod dwl tebig i wlaw. Gwas Richd Thomas Penmorfa yma yn nôl tri Hobaid o Haidd hâd chwech o’r gloch y boreu. Fuwch wina wedi dwad a llo yn y boreu. Y Meibion yn y Morfa yn llyfnu Ceirch Elizabeth Owen yn cael chwech cheiniog wedi fathu er amser y Frenhines Elizabeth Blwyddyn yr Arglwydd Un Mil pum cant a phymtheg a Thiugain
|
21/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod teg iawn Yn troi’r Defaid i’r Mynudd [sic.] ac yn marcio Pedwar ugain a thri o Wyn a Deuddeg a Thriugain o hesbyrniad. Gwas y Braich y bîb yma yn nol Hobaid o Haidd. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Y Meibion yn mynd i’r Morfa i Lyfnu Haidd
|
22/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Gwres mawr. Y Meibion yn y Morfa yn llyfnu Haidd. Yn planu Cucymerau yn yr Ardd. Mam yn mynd i’r Bettws mawr a rei Thraed
|
23/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn [Sadwrn wedi ei groesi allan] Sul. Gwres a gwynt sychlyd. Owen Roberts Porthmon yma E.Owen a Robert Thomas Llangybi wedi dyfod yma ddoe. Yn mynd i ben y Castell ar ol Ciniaw
|
24/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Gwres a gwynt sychlyd iawn. Owen Roberts yn mynd i ffwrdd cyn ei Frecwest [sic. frecwast]. Y Meibion yn llyfnu Haidd yn y Morfa
|
25/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod gwresog iawn. Y Meibion yn nol llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd. will yn aredig yn y Morfa ddaliad y Prydnhawn. Betsan Owen a Robt. Thomas yn mynd adref yn y Prydnhawn
|
26/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Yn dwad i fwrw gwlaw.pur oer. G O.Tomas [sic.] yma o Langybi yn nol dillad i Mam oedd yno. Will yn y Morfa yn Aredig y lleill yno’n llyfnu
|
27/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Iau. Yn llêd fwrw gwlaw ac yn bur oellyd [sic oerllyd]. Will yn Aredig i Bytatws [tatws]. yn Hendratyfi. Y lleill yn gorphen Llyfnu Haidd yn y Morfa. Fi a Sion William yn cronni’r Marwddwfr yn y Morfa yn hesbyddu’r Cafn ac yn dâl [sic] Dwsing [sic] o Frythylliad brâf.
|
28/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod dwl lled oer. Will yn aredig i Fytatws [tatws] yn Hendratyfi Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad Yn dyfod adref cyn unarddeg y nos
|
29/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl gwyntog oerllyd. Y Meibion yn dechreu Teilo i’r Bytatws. Fi yn Saethu llygoden ffrenig yn y Sgubor. Owen Williams Caerwych yma
|
30/4/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg. Fi wedi bod yn y Llan. Yn ciniawa yn Penmorfa efo Owen Humphreys a Robt Lloyd Ffowliwr Mr Gore yn dyfod adref erbyn chwech o’r gloch y Prydnhawn
|
1/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg ac yn gyffredin yn lled oerllyd y nos a boreu. Will wedi mynd i’r Towyn i nol llwyth o Galch i Fytatws. Fi yn mynd i Benmorfa i Gyfarfod Mr Holland ac eraill ynghylch settlio Plwy i hen ganwr baledi i fynd i Sir Fôn. Ffowliwr Mr Gore yn dyfod hyd Dremadoc hefo mi i fynd adref.minau yn dyfod adref cyn Dêg
|
2/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod gwresog teg iawn Morris Griffith y Trethwr yma yn nol Treth cy ffyla[sic. ceffylau] a Threthi eraill.
|
3/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mercher Diwrnod gwresog hynod. Y Meibion yn teilo i Hendratyfi i Bytatws
|
4/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg heb fod yn wres mawr. Y Meibion yn dechreu rhychu a phlannu Bytatws. yr Heffer frêch, merch Sialcan wedi dwad a llô yn Caegoronw.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|