Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
28/4/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw yn y boreu teg at y Prydnhawn Yn llyfnu Haidd yn Morfa’r garreg. Fi wedi bod yn Towyn yn ceisio prynu Cwch i Mr.Owen, yn dwad adref trwy’r Dremadoc
|
29/4/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych teg yn troi’r Defaid i’r Mynudd [sic] ac yn Marcio 55 o Fyllt a 50 o Hesbyrniad [sic. hesbyrniaid] a 88 o Wyn. Yn mynd Ddaliad y Prydnhawn i’r Morfa i Lyfnu Haidd i forfa’r garreg
|
30/4/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg yn ^darfod [sic] llyfnu Haidd yn y Morfa’r garreg John Prichard Clerk Mr.Williams Penrhos yn galw yma
|
1/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych teg. Sionyn wedi bod a’r Gaseg ddu a Denbi yn yr Efail ac yn CefnyMaesydd ucha yn nol Clorenod cochion hirion yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd
|
2/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych teg. Yn Teilo i Glorenod i Hendratyfi Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
3/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod sych teg yn teilo i Glorenod i Hendratyfi
|
4/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych teg
|
5/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych teg. Sionun wedi bod a Jack a Captan yn yr Efail yn darfod teilo i Glorenod i Hendratyfi. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
6/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych teg a mwll. Yn planu [sic plannu] Clorenod yn y bryn coch ac yn dechreu plany [sic. plannu] Clorenod yn Hendratyfi
|
7/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod dwl mwll a sych. Yn planu [sic] Clorenod yn Hendra tyfi Yr hen Fuwchod [sic. fuchod buchod] yn mynd i’r Morfa
|
8/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Y Dyrchafael. Diwrnod dwl ac yn bwrw rhai cawodydd trymion. Yn darfod planu [sic] Clorenod yn Hendratyfi erbyn hanner dydd Sionun wedi bod yn Dolbenmaen a Llythur [sic] i Mr.Holland i ofyn iddo ddwad yma i fedyddio’r Eneth fâch
|
9/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw yn y boreu. Yn teilo i’r hen Ardd ac yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma
|
10/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl yn y boreu a gwlaw trwm yn y Prydnhawn Yn planu [sic] Clorenod yn yr hen Ardd. yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd Sion Morris yn nol hanner Tunell o Glo [sic] o’r Towyn. Yn bedyddio’r Eneth fach. Mr.Holland a Mr.Owen Aberglâslyn yma
|
11/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod gwyntog dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf
|
12/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod gwyntog dwl. Y Meibion yn cau rhwng y Caea [sic. caeau] Gwair a’r Caea [sic] porfa Sionun yn codi at y Ffa yn yr Ardd.ac yn golchi’r Drol Cyfarfod yn Beudy Caegronw [sic] yn achos y Mynudd [sic]
|
13/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych gwyntog. Y Meibion yn gorphen planu [sic] Clorenod yn y Bryncoch. Fi wedi bod y boreu yn Tremadoc, ac yn mynd i [sic] Prydnhawn i ddanfon Merlan Mr.Owen i Aberglâslyn.
|
14/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych lled wyntog. Ffair yn Penmorfa. Yn cyflogi Gweision yno. Mwy o ofyn ar Ferched nac ar Feibion
|
15/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl sych. Sion Morris a Dic yn cau clawdd Mynud [sic. mynydd] Cae goronw
|
16/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gryghinllyd ac yn bwrw gwlaw trwm ar hyd y dydd Y Meibion yn Parottoi [sic. paratoi] at garrio [sic. gario] mawn, ac yn chwalu rhawn –
|
17/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn dechreu carrio [sic] mawn o Gaegronw [sic] isa Fi efo Sion Morris yn cau clawdd y Mynudd [sic] ac yn gollwng dwfr o’r Haidd yn Morfa’r Garreg.
|
18/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych teg yn cael dau lythur [sic] oddiwrth Williams y Towyn
|
19/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod teg mwll. DYDD llun y Sylgwyn. Sion Morris gartref. Fi wedi bod yn Mhenmorfa mewn Festri
|
20/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg mwll Dic a Sionun yn carrio [sic] mawn o Gaegronw [sic] isa. Sion Morris yn palu yn yr Ardd. Y Forwyn Newydd yn dwad iw lle. Yn Darllaw
|
21/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod claiar ac yn bwrw’n drwm yn y boreu teg at hanner dydd. Dic yn cau’r clawdd terfyn efo gwas Portreuddyn. Wil y Gorllwyn yn lladd yr Hwch. Sion Morris, Sionun a Dolly wedi bod yn Tymawr yn hel cerrig
|
22/5/1823 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl claiar Sion Morris wedi bod a llwyth o Geirch i’r Odyn. y lleill yn hel Cerrig yn y Tymawr. Fi yn torri’r Hwch. ac yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|