Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
17/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych distaw gwresog. Yn Cneifio ac yn nodi deg o Wyn at y rhai Nodais o'r blaen. W.D. James yn codi'r Degwm. Gwas Morris Jones Tremadoc yn dwad a hanner Baril o Borter yma
|
18/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl sych lled wyntog ac oer. Y Meibion yn codi at Glr--n [glorenod? clorenod DB) yn y Bryncoch yn mynd ar ol Prydnhawn bryd i pigo'r clawdd rhwng Morfa trwyn y garreg a'r Morfa glofer. Ellis Owen Cefnymaesydd yma'n yfed Te. W Roberts y Meddyd[sic] yn galw yma wrth dwad o'r Tymawr oddiwrth Merch Mari oedd wedi brifo
|
19/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn codi mawn yn Caegronw [sic] Fi wedi bod yn Maentwrog yn mynd at Mr. LLoyd y Twrna o achos y Mynudd heb ei gael gartref
|
20/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn torri anialwch ynyr Henerw y boreu ar ol Ciniaw yn mynd i orphen codi mawn i Caegronw isa. Robt. Thomas yn mynd adref. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Y stalwyn y Garr mawr yma dros y nos
|
21/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych gwresog Y Meibion yn Reiniog yn codi mawn. Y Gwe---- [gwenyn? DB] yn heidio yr ail haid
|
22/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych oer
|
23/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych lled oer. Yn Yspaddu pedwar ar bymtheg o Wyn Owen Roberts Tyddynwisgin, Y Meibion yn torri rhedyn yn y Cae glâs
|
24/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod dwl distaw claiar. Yn cae efo Owen Owens Partreuddyn wrth yr hen Gafn yn y Morfa. Dic wedi bod a'r Eboles yn yr Efail. Wil Sion yn codi at Gloron yn hendratyfi, Bachgen o Criccieth yma'n danfon Burum. Fi wedi bod efo O Owens yn Yspaddu dau ddyniewad a phump o Wyn
|
25/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl lled oer wedi bwrw peth gwlaw a chenllysg. Yn darfod priddo Cloron ac yn chwnu'r Haidd yn Morfa'r Garreg. Fi wedi bod yn nghynhebrwng Sion, Mab Richd Ellis Reiniog
|
26/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl mwll iawn ac yn gwlitho peth weithia. Yn gwneud Mawn yn Caegronw isa. Seren wedi dwad a Llô. Sion Morris yma
|
27/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl sych. Yn Gwneud Mawn yn Caegronw ucha ac yn darfod yn Caegronw isa. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad.
|
28/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw peth gwlaw mân. Yn gwneud mawn yn Reiniog. Fi wedi bod yn Ffair Pwllheli wrth dyfod adref yn ymdroi peth yn Ty'n y Coed efo John Evans ac yn mynd i Langybi i gysgu efo Owen Roberts
|
29/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod mwll ac yn bwrw Cawodydd o wlaw Taranau mewn rhai manau Fi yn dwad adref o Langybi.
|
30/6/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych mwll iawn. Yn dechreu llad [sic lladd] gwair yn y Tymawr. Sion Hugh a Sion Morris yn dwad yma. Fi wedi bod yn Ffair Griccieth. Y Cyflogi pladurwr am un geiniog ar ddeg y dydd ac yn prynu hanner dwsin o Gribiniau
|
1/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod gwresog mwll iawn yn y boreu. Gwlaw Taranau trwm at hanner dydd, yn bwrw gwlaw mân trwy'r Prydnhawn. Yn lladd gwair yn y Tymawr. Neli Pyrs yn dwad yma i gyweirio gwair. Evan James yn dwad yma i wneud Car newydd ac i drwsio Cribinia
|
2/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu, sych a lled wyntog yn y Prydnhawn. Yn darfod lladd Gwair yn y Tymawr, erbyn Ciniaw, ac yn mynd i ddechreu lladd gwair i Gaegronw Yn tynu Cloron gyntaf eleni yn yr ardd
|
3/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod teg gwresog yn dylu at yr hwyr. Y Meibion yn lladd Gwair yn Caegronw ucha, ddeg o'r gloch yn dwad i'r Tymawr i rengcio'r gwair at ei goccio. Yn mynd yn nol at giniaw i ladd gwair, yn dwad i lawr yn y Prydnhawn ac yn Coccio gwair y Tymawr agos i gid.[sic] Gwragedd o lawr y wlad yma'n prynu'r Gwlan ac yn ei bwyso ac iw ddanfon ddechreu yr wythnos nesaf. Fi wedi bod y Mhenmorfa mewn Festri yn y Prydnhawn.
|
4/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys yn y boreu, teg a sychu'n dda at y Prydnhawn. Yn darfod lladd Gwair Caegronw ucha gwmpas amser Prydnhawnbryd, ac yn dechreu lladd Gwair Caegronw isa. Betty Owen yn ei gwelu [sic] yn sâl trwy'r dydd. Fi yn ei gwaedu. Gartref heb fynd i'r Farchnad
|
5/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw weithia. Yn lladd Gwair yn Caegronw isa. Fi wedi bod yn Ruarllygaid yn edrych, Defaid Sêt heb gael yr un Niwliog a gwlawog at y Prydnhawn. Fi wedi bod efo Robt. Sion Hendrahowel yn y mynudd yn chwilio am G--r. yn cael naill ai C--r, ai S--r
|
6/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl ac yn chwthu'n lled drwm ac yn bwrw peth gwlaw weithia
|
7/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl yn y boreu yn bwrw Cawod fechan gwmpas dau o'r Gloch ac yn drom o gwmpas pedwar. Dic yn danfon y Gwlan i Lanystumdwwy yn y boreu. Fi yn mynd i Drefmadoc [sic] i Barrattoi peilliad iddo ddyfod efo fo adref yn ei ollwng yn anghôf. Fi yn mynd i Gaegronw ddeg o'r gloch i alw ar y Meibion i ddwad i danu Coccia i'r Tymawr yn ei drin yn dda ac yn ei rengcio hyd ddau o'r gloch pan y bwriodd gawod fechan. yn carrio cwrs wedi, ac yn rhengcio cwrs hyd bedwar pan bwriodd gawod drom iawn. yn mwdylu trwy'r gwlaw, ar ol chwech o'r gloch. Taranau a gwlaw trwm iawn
|
8/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw'n drwm yn y boreu. Y Meibion heb fynd i Gaegronw tan ar ol boreufwyd. Wil Sion priddo Clorenod Sion Morris wedi bod yn danfon rhybydd i John Williams Towyn fod ei ddefaid yn troseddu ar fy nhir Morris Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn
|
9/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl yn y boreu yn dwad i sychu'n dda at hanner dydd Yn lladd gwair yn Caegronw yn y boreu, gwmpas deg o'r Gloch yn dwad i'r Tymawr i danu Mwdyla a choccia, ac yn ei garrio i gyd erbyn o gwmpas hanner awr wedi deg. Evan James yma yn gorpen [sic] trwsio'r Ceir ac yn mynd adref
|
10/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod lled dwl ac yn sychu'n bur dda hyd hanner dydd, yn dylu wedi ac yn taflu dafnau. Y Meibion yn gorphen hel o gwmpas y Ty gwair yn Ty Mawr wrth fynd i gaegronw yn y boreu. yn dechreu lladd gwair, yn mynd i droi gwair Caegronw ucha ac yn ei rengcio erbyn Ciniaw. yn ei fwdylu a pheth o Gaegronw isa. Yn dwad yn wlaw trwm rhwng tri a phedwar o'r Gloch prydnhawn ac yn parhau i fwrw tan y nos
|
11/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl ac yn chwythu yn drwm iawn yn y Prydnhawn. Y Meibion yn lladd gwair yn Caegronw isa. Thomas Rees yn dwad a Ffon Hugh Lloyd Cynfel yma imi iw gweled. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc i'r Farchnad
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|