Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
12/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw'n drwm ar hyd y dydd. Yn darfod lladd gwair Caegronw isa yn y boreu. Yn gwneud peth mawn yn Caegronw ucha gwlaw yn eu gyru [sic] i lawr o gwmpas dau o'r gloch y Prydnhawn. Wil Sion a Sion Morris yn mynd i'r Sgubor i Curo Haidd, y lleill yn mynd i dorri rhedyn i Gae'r hafotty ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i gau rhwng yr Allt banadl a'r Allt goch
|
13/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl yn y boreu. yn chwythu ac yn sychu'n dda at y Prydnhawn Richd. Owen Penrhynheli a Buwch yma efo'r Tarw
|
14/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl distaw yn y boreu yn sychu'n dda yn y Prydnhawn Y Meibion cyn boreufwyd yn rhoi Mwdyla yn Tygwair y Tymawr yn mynd wedi i Gaegronw ucha i ddarfod gwneud mawn. Y Merched yno yn casglu gwair Caegronw isa Y Ci Ffrind yn cnoi Dafad yn y Cae glâs wrth iddynt fynd i Gaegronw nes gorfod ei lladd. Sion Hugh Drwsyrymlid yma'n talu peth o ei Ardreth Edward Baili H. R. Williams Esqr. yma'n danfon rhybydd i mi fynd i'r Sesiwn
|
15/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw trwm iawn Wil Sion a Sion Morris yn cau drws talcen y Tygwair Tymawr, Sion Hugh a Robin Griffith yn torri rhedyn Dic efo chlawdd [clawdd DB] y Mynudd yn edrych ffordd yr oedd y Defaid yn dwad i'r Caea Cyn boreufwyd. ar ol boreufwyd yn mynd y Gaegronw ucha i wneud Mawn. ar ol Ciniaw Sion Hugh a Robin Griffith yn mynd i gau'r clawdd Terfyn rhwng Caegronw ucha a'r Gorllwyn y lleill yn mynd i dorri rhedyn. Gwas Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma ac yn mynd a chi bach efo fo adref. Griffith William yma'n hel Treth Tylodion Gwyl Swithin
|
16/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion ar hyd y dydd. Robin Griffith a Sion Hugh yn mynd y boreu i orphen cau y clawdd Terfyn Caegronw ucha Wil Sion, Dic a Sion Morris cyn boreufwyd yn torri rhedyn, yn mynd ar ol boreufwyd i ddechreu codi cerrig i drwsio clawdd rhwng Allt y Tymawr a'r Mynudd ac yn dechrreu ei drwsio Richd. William Gôf Tremadoc yma yn nol arian am weithio. Robin Griffith a Sion Hugh heb ddwad i lawr tan y nos
|
17/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod cymylog ac ynsychu'n bur dda. Y Meibion yn y boreu yn trwsio'r Clawdd rhwng Gallt y Tymawr a'r Mynudd, o gwmpas deg o'r gloch yn mynd i Gaegronw isa i droi gwair, ac yn carrio gwmpas hanner gwair Caegronw isa. Sionun wedi bod a Jac a Denbi yn yr Efail y Boreu. Richd. Robert y Crydd yma yn danfon Esgidia imi wedi ei trwsio
|
18/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl mwll iawn. Wil Sion a Sion Morris wedi bod cyn boreufwyd efo'r chlawdd gallt y Tymawr ac yn cadw yr arfau. Dic yn mynd a'r Gwartheg o Gaea y Tymawr i Hafody budredd a'r Dyniewid o Forfa Trwyn y garreg i'r Hen Erw. Sion Hugh a Robin Griffith cyn boreufwyd yn torri brwyn yn Morfa Trwyn y garreg at Ddâs gwair Caegronw. Dic a Sionun ar ol boreufwyd yn eu carrio yno. Y Buchod yn dwad o Flaenycoed i Cae'fotty Yn dechreu lladd gwair yn yr hen Forfa. Mr. Owen Aberglaslyn yma yn mynd ai Lawdryll [llawddryll DB] adref. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad.
|
19/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl niwliog ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd Y Meibion yn yr Hen forfa yn lladd gwair hyd o gwmpas naw o'r gloch pryd ei gelwais i fynu. Yn mynd wedi i drwsio palmant wrth y Beudy newydd ac i riglo o gwmpas domen. ar ol Ciniaw. Sion Morris yn mynd adref y lleill yn mynd i dorri rhedyn i ben Caeglas a chaea'r Ty mawr. Fi wedi bod efo Robt. Sion Hendrahowel yn y Mynudd
|
20/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod dwl niwliog iawn ac yn bwrw peth gwlaw mân weithia Gwlaw trwm iawn at yr hwyr
|
21/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw trwm iawn ar hyd y nos neithiwr a'r boreu heddyw[sic] hyd hanner dydd. Y Llif mwyaf yn yr Afon yma a ydwyf ei gofio erioed. Y Meibion yn y boreu yn trwsio o gwmpas y Beudy newydd a'r domen. ar [sic] Ciniaw yn mynd i drwsio clawdd rhwng gallt y Tymawr a'r Mynudd
|
22/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod cymylog ac yn sychu peth. Y Meibion yn trwsio'r clawdd rhwng gallt y Tymawr a'r Mynudd. Fi wedi bod ynghynebrwng Lowri Roberts Ynusgain[?] [sic Ynysgain DB] bach y Nghriccieth ei hoedran Naw deg dau
|
23/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod led drom. Y Meibion yn trwsio'r clawdd rhwng Gallt y Tymawr a'r Mynudd. Sionun wedi bod y ngallt Erwsuran yn nol oen
|
24/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod yn y boreu. yn sychu'n dda yn y prydnhawn. Y Meibion yn trwsio clawdd rhwng gallt y Tymawr ar Mynudd hyd amser Ciniaw, yn mynd wedi i Gaegronw ucha ac yn tanu'r Mwdylau ac yn ei fwdylu wedi yn ei ôl cyn y nos heb sychu digion [sic] iw gario Elin wedi bod yn Tynllan Criccieth Owen Roberts Tyddynwisgin yn dwad yma efo'r nos
|
25/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd trymion yn y boreu teg at y Prydnhawn Y Meibion yn trwsio'r clawdd rhwng Gallt y Tymawr ar Mynudd Owen Roberts yn mynd adref. Fi heb fynd i'r Farchnad!
|
26/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod cymylog yn tebygu i sychu yn y boreu, yn dwad i fwrw rhwng deg ac unarddeg. Y Meibion cyn boreufwyd yn trwsio clawdd rhwng y Gelltydd isa a'r Mynudd Ar ol boreufwyd yn mynd i drwsio'r clawdd rhwng Gallt y Tymawr ar Mynudd o Gwmpas naw o'r gloch yn mynd i Gaegronw i danu Mwdyla yn tanu rhai, yn dwad yn wlaw yn Ciniawa yn Caegronw ac yn mynd at Glawdd Gallt y Tymawr yn eu hola Fi wedi bod yn y Traeth yn Pysgotta ac heb ddal dim
|
27/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod clir yn y boreu. yn dylu ac yn chwthu at y Prydnhawn ac yn dechreu bwrw gwlaw cyn pedwar o'r gloch!!! Gwlybanieath [sic] trwm anghyffredin ers hir amser
|
28/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl yn y boreu ac yn sychu'n dda yn y prydnhawn. Y Meibion hyd amser Ciniaw yn trwsio'r Clawdd rhwng Gallt y Tymawr a'r Mynudd, ar ol Ciniaw pedwar yn mynd at y Clawdd a'r pedwar arall yn mynd i droi gwair i'r Morfa yn galw y pedwar a aethai at y Clawdd i lawr at y lleill i'r Morfa i drin y Gwair yn dechreu ei dyrru ar ol Prydnhawnbryd ac yn dechreu ei garrio wyth o'r gloch. Grace Jones CaeEithintew yma'n Yfed Tê
|
29/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod cymylog dwl weithia yn dwad i sychu'n dda at y Prydnhawn Y Meibion yn y boreu efo chlawdd Gallt y Tymawr, Yn mynd o Gwmpas naw o'r gloch i Gaegronw i danu Mwdyla, yn tanu mwdyla Caegronw isa a chors Caegronw ucha ac yn ei Carrio i gyd wedi bod yn ei Fwdylau dair wythnos ond dau ddiwrnod oherwydd gwlybaniaeth anghyffredin. Yn dwad yn wlaw trwm cyn wyth o'r Gloch. William y Llofft yn dwad a dwy o lechi Crynion yma
|
30/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod cymylog ac yn sychu'n bur-dda. Y Meibion cyn boreufwyd wedi bod yn trwsio clawdd Gallt y Tymawr. Yn mynd wedi i'r Morfa i ladd gwair, gwmpas deg o'r gloch Dic a Sionun yn mynd i Gaegronw ucha i danu Mwdylau efo'r Merched. Y Cwbl yn mynd yno ar ol Prydnhawnbryd ac yn ei garrio - yn darfod lladd gwair yr hen Forfa. Diwedd cael gwair Caegronw wedi iddo fod allan Fis union
|
31/7/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Yn lladd gwair yn Morfa'r Goedau, ac yn coccio gwair yn yr hen Forfa. Fi wedi bod yn Penglana Maentwrog efo Mr. Lloyd y Twrna o achos y Mynudd. Sionun wedi bod a llythur yn CaeEithintew. Yn darfod lladd gwair yn morfa Goedau
|
1/8/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod budur gwlawog. Y Meibion yn dechreu lladd gwair yn Morfa'r Garreg. O gwmpas deg o'r gloch yn eu galw hwy i fynu am ei bod yn bwrw gormod o wlaw i ladd gwair. Dic, Sion Hugh a Robin Griffith yn mynd i dorri rhedyn i Flaenycoed. Dic a Sionun wedi bod yn y Mynudd yn nol wyn gweiniad i'r Tir. Gwlaw Trwm ar hyd y dydd. Y Meibion y rhan fwyaf or Diwrnod yn y 'Sgubor yn gochel gwlaw. Fi heb fod yn y Farchnad!
|
2/8/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Y Meibion cyn boreufwyd yn torri anialwch yn blaenycoed a'r Gelli fawr yn mynd ar ol boreufwyd i orphen trwsio clawdd Gallt y Tymawr. Sionun wedi bod a'r Ceffyl yn Tynllan Criccieth yn nol fy Mam, oedd yn Mhwllhei[sic Pwllheli ] ers blwyddyn i Galanmai diwaethaf. Gwen Caeddafydd yma
|
3/8/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw yn drwm iawn yn y boreu hindda at y Prydnhawn Morris Jones Tremadoc yn dwad yma yn y Prydnhawn
|
4/8/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw yn y boreu yn dwad i sychu'n dda at hanner dydd. Y Meibion y boreu yn darfod trwsio clawdd Mynudd gallt y Ty mawr. Wil Sion, Sion Morris a Dic yn mynd i wneud pen Dâs Gwair Caegwr[?] y lleill yn mynd ar ol Ciniaw i forfa'r Goedau i droi gwair, yn ei weld yn rhy lâs yno, yn mynd i'r hen forfa i danu Coccia, ac yn garrio i gyd erbyn rhwng un ardded [sic] a hanner nos, yr Wair pur lâs a thrwm
|
5/8/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn dwad i sychu'n dda at hanner dydd Y Meibion yn y boreu yn lladd gwair yn morfa'r Garreg, ac o gwmpas naw o'r gloch yn mynd i droi gwair Morfa'r Goedau, ar ol Ciniaw yn tanu ei drwiadau ac yn ei dyrru ac ol Prynhawnbryd yn dechreu ei garrio, ac yn ei gael yn wair da hynod Harry Owen Tyddynadi yma yn ymdroi peth ac yn cael llythur [sic] i fynd i Williams y Towyn i fynd i Mr. Lloyd y Cefnfaes i attal Costia ymlaen o achos y Mynudd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|