Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
6/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell dipin o wlaw. Yn darfod lladd gwair Morfa'r Garreg ac yn dechreu lladd gwair yn y Morfa bach, ar ol Ciniaw yn mynd i dyrru gwair hanner morfa'r Goedau ac yn ei garrio erbyn Prydnhawnbryd, yn mynd wedi i ladd gwair i'r Morfa bach


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod cymylog lled wyntog ac yn sychu'n bur dda. Yn lladd gwair yn y Morfa bach yn ei ddarfod ac yn dechreu lladd gwair yn y Forfa Glover ar ol Ciniawa, ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i fwdylu gwair i forfa'r Garreg.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw yn y boreu, Y Meibion yn y boreu yn carrio peth gwair yn Morfa'r Garreg, cyn boreufwyd, wedi Wil Sion, Sion Morris a Sionun yn mynd i Gaegronw i dai'r [sic] Dâs. y lleill yn mynd i'r Morfa i dorri brwyn hyd yr adladd ac ar ol Ciniaw yn mynd i ladd gwair i'r Morfa glofer. Adarwr Mr. Gore yma'n Ciniawa. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc i'r Farchnad. William Humphrey Hendragwenllian yma eisia imi fynd yn feichia iddo i yru'r Bailiaid i ffordd oedd wedi dwad yno am ardreth ei dir.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn dwad i sychu'n dda at y Prydnhawn. Yn mynd ar ol Ciniaw i rengcio gwair y Morfa bach ac i orphen Carrio gwair Morfa'r Garreg, yn coccio gwair y Morfa bâch a pheth o wair y Morfa Glofer. Mr. Evans Trafaeliwr o Gaer yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl ac bwrw gwlaw mân dwys hyd y dydd --- Evan a Mary Williams Cae Eithinteg a Mr. Owen Aberglaslyn yma yn y Prydnhawn. Griffith Williams Taicochion yma o achos rhybydd am y Mynudd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Llun. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw mân dwys y rhan amlaf. Yn lladd gwair yn morfa glofer hyd amser boreufwyd. Dic a Sion Morris yn mynd wedi a'r Dyniewid i'r Tymawr ac yn troi'r Gwartheg o Havodbudredd[sic] i Gaegronw ac i gau o gwmpas y Dâs mawn, y lleill yn mynd i orphen lladd gwair y Morva [sic] Glover [sic], ar ol Ciniaw Will Sion, Sion Hugh a Robin Griffith yn mynd i drwsio'r Ddâs glover [sic] hen y Morva [sic] ac i hel Tô. Sion Morris a Dic yn mynd i ladd gwair rhaffa i Hendratyfi ac ar ol Prydnhawnbryd yn mynd at y lleill i'r Morva [sic] i hel Tô. William Owen Blaenypennant yma yn danfon cypi [sic] o'r  Dreth. Fi yn carrio Twcca i Mr. Owen Aberglaslyn ac yn mynd i Dremadoc yn y prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod [sic] ac yn bwrw'n drwm trwy'r boreu. hindda at hanner dydd. Y Meibion trwy'r boreu yn y Sgubor yn gochel gwlaw. yn mynd ar ol Ciniaw i dorri anialwch Elin a minau yn mynd i Dyddynwisgin at y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw. Yn trwsio clawdd rhwng ddwy allt y Tymawr. Elin a minau yn Nghaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw Yn trwsio'r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Elin a minau yn Nghaernarvon [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw yn y boreu hindda at y Prydnhawn. Yn trwsio'r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Fi yn Tyddynwisgin Elin yn mynd i Gaernarvon [sic] ac yn dwad adref erbyn y nos Morris Jones yn dwad efo ni adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1823
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

16 Sadwrn Diwrnod dwl.ac yn bwrw cawodydd trymion yn y boreu. Y Meibion yn darfod trwsio'r clawdd rhwng y ddwy Allt y Tymawr. Fi yn Tyddynwisgin. Elin yn mynd i Gaernarvon. ac yn dwad adref erbyn y nos. Morris Jones yn dwad efo ni adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych teg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod clir ac yn sychu'n dda iawn yn y boreu gwlaw trwm cyn tri o'r gloch. Y Meibion yn y boreu yn y Mynudd yn codi cerrig, ar ol Boreufwyd yn mynd i'r morva [sic] i danu coccia'r Morfa glover [sic] a'r Morfa bach. yn ei droi ai drin hyd o ddeuty{sic] un o'r gloch pan y daliwyd y Ceffylau ac y Cariwyd siwrna neu ddwy a rhowd y goreu i hynu[sic] ac ni fwdylwyd ond ychydig o hono  cyn iddi ddwad yn wlaw trwm iawn cyn tri o'r gloch                                                                                                                                                  


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod cymylog ac yn bwrw peth gwlaw yn y boreu gwyntog yn y Prydnhawn. Y Meibion yn y Tymawr efo'r Cerrig, ar ol Ciniaw Wil Sion, Sion Morris, Dic a Sionun yn mynd i hel y defaid i ddiddyfnu'r Wyn. yn cael tri ugaian[sic] a naw, yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i'r morfa glover [sic] i goccio Sionun wedi bod yn danfon fy Mam i'r Tynllan Criccieth.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod cymyloc [sic] ac yn sychu'n dda ac yn bwrw cawod o gwmpas pedwar or gloch. Yn mynd y boreu cyntaf i'r Morfa glover [sic] i hel y coccia yn rhengcia, ac yn dechreu ei garrio rhwng naw a deg, ac yn diwedd cael y gwair yn y Morfa wedi bod yno er y deunawfed o Gorffenaf, yn cael un Dâs da iawn a'r llall heb fod yn dda iawn. Ffair yn Mhenmorfa Fi wedi bod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod cymylog ac yn sychu'n bur dda. Yn dechreu lladd gwair yn hendratyfi Buarth tair derwen ac yn dechra yn Cae'r hendra. Fi wedi bod efo W. Williams Benar yn Mhenmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod cymylog ac yn sychu'n bur dda. Yn Gorphen lladd gwair Cae'r hendra a'r Caelleppa isa, ac yn mwdylu gwair Hendratyfi a'r buarth tair derwen ac yn coccio peth yn Cae'r hendra. Fi wedi bod y Nghnebrwng Humphra Williams y Llanerch yn Ynyscynhaiarn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl heb sychu llawer. Yn lladd gwair n[sic] Buarth gwyn erbyn Ciniaw Wil Sion a Sion Morris a Neli wedi bod ar ol Boreufwyd yn trwsio Das gwair y Morfa glover[sic] yn darfod erbyn Ciniaw, ar ol Ciniaw yn rhengcio peth gwair yn Cae'r Hendra a'r Merched yn ei orphen a'r Meibion yn mynd i ladd gwair i'r Gelli wastad, ac yn ei ddarfod erbyn Prydnhawnbryd, yn mynd wedi i goccio gwair Cae'r hendra, ac yn dechreu carrio gwair Hendratyfi a buarth tair derwen o gwmpas hanner awr wedi chwech.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw o'r Dwyrain ar hyd y Dydd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw y rhan amlau.[sic] Y Meibion yn y Morva [sic]yn hel Brwyn at Ddâs y Morva glover,[sic] ac yn dwad a tho at Ddas y Beudy newydd Wil Sion a Sion Morris yn gwneud rhaffa tra fu Sionun yn mynd a Jack i'r Efail y Dre i osod pedol Ar ol Prydnhawnbryd Dic Sion Hugh a Robin Griffith yn mynd i ddechreu lladd gwair i Wernclowna, Sion Morris a Wil Sion yn mynd at Feudy y Tymawr i orphen gwneud y pwt clawdd  rhag i beth fynd i ben y Beudy ac oddiyno i Gaegronw isa i drwsio y Dâs Mawn Sionun wedi bod yn Caegronw yn nol Heffer Siotig at y Tarw. Dolli wedi bod yn Factory y Garn yn nol rholia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl yn y boreu yn ychydig yn bur dda yn y Prydnhawn Y Meibion yn y Prydnhawn yn coccio peth o Wair y buarth gwyn. Fi yn fy ngwelu [sic] yn sal agos trwy'r dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl digynwr. [sic] Y Meibion cyn boreufwyd yn Wernclowna yn lladd gwair ac yn tynu gwair rhaffa, ar ol boreufwyd yn gwneud chydig o raffa yn y sgubor yn mynd wedi i danu peth coccia i'r Caelleppa isa, heb sychu fawr yn mynd i wneud pen Dâs y Morfa glofer ac iw doi. Dic a Sionun yn mynd a siwrna o frwyn i Gaegronw, ac yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i'r Mynudd i chwilio am wyn oeddem wedi cael eu hanes  yn cael dau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1823
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

28. Iau Diwrnod dwl ac yn sychu yn lled dda. Y Meibion hyd amser ciniaw yn lladd gwair yn Wernclowna a'r llainhir. yn mynd wedi i danu coccia Pant Cae hendra a pheth o'r Caelleppa, ar ol Prydnhawnbryd yn ei Fwdyly [sic. fydylu]. Evan Evans Pwllheli yn dwad yma gyda'r nos ac yn cysgu yma, Sionun wedi bod yn y Mynudd [sic. mynydd] yn chwilio am wyn ac yn cael tri. Mari Williams Cae Eithin tew yma yn darllani llythura [sic. darllen ei llythyrau ?] ac yn ciniawa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

GWener. Diwrnod gwlawog a dryghinog yn y boreu, yn dwad yn deg ac yn sychu yn dda at yr hwyr. Y Meibion yn y Sgubor yn gwneud rhaffa hyd amser Ciniaw yna Wil Sion a Sion Morris yn mynd i raffio'r hên ddâs glofer i'r Morfa, Dic a Robin Griffith yn mynd a dau bwn o frwyn i Gaegronw at doi y Mawn, Evan Evans yn mynd i ffordd ar ol Ciniaw i'r Dinas ddu i orphen pwyso Rhisgl  ar ol Prydnhawnbryd Sion Hugh yn mynd i dorri gwrysg at gau adwyon yn y Morfa. Dic a Robin Griffith yn mynd i garrio gwair rhaffa o Gae'r hendra i ben ucha i Hendratyfi iw danu. Dic a Sionyn wedi bod yn Caegronw yn nol yr heffer at y Tarw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn, Diwrnod clir ac yn sychu'n bur dda. Y Meibion cyn boreufwyd yn gwneud rhaffa. yn mynd wedi Sion Morris a Wil Sion i dynu gwair gwlyb o ben das y Beudy newydd ar lleill i danu gwauafau i'r Gelli wastad 'chydig cyn deg o'r gloch yn dechreu tanu mwdyla yn Cae'r hendra ac yn tanu coccia yno a'r buarth gwyn  a mwdyla yn y Cae Lleppa isa ac yn troi gwair Cae'rhendra, ar ol Ciniaw yn troi gwair Gelli wastad a pheth o'r Buarth gwyn ac yn tanu troiadd ac yn dechreu tyru yn cae'r hendra o fewn cwarter i ddau yn dechreu carrio yn cae hendra ac yn ei ddarfod. erbyn saith yn mynd wedi i dyrru gwair y buarth gwyn a'r Gelli wastad yn carrio gwair y Gelliwastad yn Fwdyla mawr. yn llawer o'r nos cyn iddynt ddarfod. Yn bwrw peth gwlaw o gwmpas hanner nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax