Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
31/8/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod sych dwl. Fi wedi bod efo Mr. Owen Aberglaslyn. Elin wedi bod yn y Dre


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw o gwmpas naw o'r gloch  Y Meibion yn Mwdyly[sic] gwair y Caelleppa isa ac yn ei garrio, a gwair y buarth gwyn erbyn boreufwyd a hynu[sic] hanner awr wedi naw or gloch, yn mynd wedi i ladd gwair i'r Cae tycoch ac yn e ddarfod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys y rhan amlaf. Yn dechreu lladd gwair yn y Weirglawdd ucha. Sion Hugh yn mynd i ffordd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod cymylog gwyntog ac yn bwrw peth gwlaw weithia. Yn darfod Lladd gwair y Weirglawdd ucha erbyn Ciniaw, yn mynd wedi i drwsio peth ar ddâs y Beudy newydd, ac yn mynd wedi i Wernclowna i droi peth ac i fwdylu. Fi wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl yn y boreu, yn sychu'n dda iawn ganol dydd, yn dylu at y Prydnhawn  Robin Griffith yn mynd efo Sion Morris i ladd ei wair yn y boreu, yn dwad yma o gwmpas deg  o'r gloch i ddechreu tanu mwdyla yn Gwernclowna yn troi gwair Cae tycoch a pheth o'r Weirglawdd ucha, yn dechreu carrio gwair Wernclowna o gwmpas dau o'r gloch, yn ei garrio i gyd hyd at y peth oedd mewn lle gwlyb o gwmpas yr hen gadlys, yn carrio gwair y llain hir a phen isa'r weirglawdd ucha a phen bryn y Weirglawdd ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl ac yn gwlithio peth weithia ac yn sychu'n dda yn y Prydnhawn Y Meibion cyn boreufwyd yn mynd a tho at Ddâs y beudy ucha, wedi yn mynd i garrio Mwdyla [sic mydylau] o'r Caetycoch i Feudy Tynybwlch ac yn trwsio Dâs y Beudy newydd Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Robin Griffith wedi bod efo Sion Morris yn lladd ei wair yn y Boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Robin Griffith wedi bod efo Sion Morris yn lladd ei wair hyd hanner dydd. Y Meibion yn y boreu yn tanu gwair rhaffa yn wernclowna, wedi yn tanu'r gwair oeddem wedi ei garrio o wernclowna i'r Cae tycoch i sychu ac yn troi gwair yn y Weirglawdd ucha, ar ol Ciniaw yn dechreu Tyru ac yn ei garrio i gid[sic] Diwedd Cael y Gwair, ar ol cynhauaf gwlyb anghyffredin wedi bod ddeg wythnos yn ei gael Cynhauaf Costus anghyffredin iawn. Robt. Griffith a Neli Pyrs yn ymadael wedi bod yma Naw wythnos a thridiau. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod sych teg.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych teg distaw. Y Meibion cyn boreufwyd yn y Mynudd yn chwilio am Wyn heb gael yr un. Yn mynd wedi i Gneifio'r Wyn yn cael Saith deg a thri ar ol darfod yn mynd i Gae'r hendra i ddechreu tori'r Ceirch cyntaf eleni Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych gwresog distaw. Y Meibion cyn boreufwyd yn lladd ceirch yn Cae'r hendra. Dic yn mynd wedi i'r Allt i dorri rhedyn i drwsio pen Dâs yr hen forfa. Fi efo Wil Sion yn torri tylla ynddo am ei fod yn twymno [sic twymo] gormod. Sionun wedi bod yn yr Efail yn nol bâch gwair. Betty Owen yma'n Yfed Te efo i Bachgen bach


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod sych gwresog iawn a distaw. Y Meibion yn mynd y boreu i orphen tori'r Ceirch gwyn i Cae'r hendra yn ei ddarfod erbyn unarddeg o'r gloch yn mynd wedi i Forfa'r Garreg i ddechreu lladd Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych gwresog iawn. Y Meibion yn Morfa'r Garreg yn lladd    Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych gwresog iawn ar ol wybr goch yn y boreu. Y Meibion yn troi Haidd saith Cefn yn y morfa'r Garreg, ac yn darfod lladd yr Haidd yno, yn Cynull Ceirch gwyn Cae'r hendra Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Yn tebygu i ddryghin at yr hwyr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw mân wethia [sic] wedi bwrw'n lled drwm neithiwr. Y Meibion yn y boreu yn gwneud rhaffa, ac yn mynd wedi i raffio Dâs gwair y Morfa glofer, gwlaw yn eu curo, yn mynd i wneud rhaffa ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i raffio. Sionun yn mynd i chwilio am oen oedd ar ol. Dolly wedi bod a Phwn o Haidd yn melin Tanrallt yn ei falu. Gwlaw lled drwm trwy'r Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod gwyntog cymylog ac yn sychu'n dda yn y Prydnhawn ar ol gwlaw trwm iawn yn y boreu. Y Meibion yn y boreu yn rhoi Tô ar ben Dâs y Beudy ucha, yn mynd wedi i wneud rhaffa, ar ol iddi fynd yn hindda yn gwneud pen Dâs y Beudy newydd. yn mynd rhwng hanner dydd ac un o'r gloch i'r Morfa'r Garreg i danu Haidd saith o'r Cefna, yn gafrio y ddau Cefn agosaf i'r clawdd terfyn ac yn cynull y pump arall


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn sychu'n bur dda. Y Meibion cyn boreufwyd yn dechreu toi Dâs y Beudy newydd, yn mynd wedi i Forfa'r garreg i droi Haidd, ai danu, ac yn ei gynull ond 'chydig oedd efo chlawdd [sic. RT/OE? clawdd] y Traeth pan y daliodd gwlaw ni efo nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod cymylog lled wyntog ac yn sychu'n bur dda. Y Meibion hyd amser Prydnhawnbryd yn toi Das y Beudy newydd, yn mynd wedi i Cae'r hendra i ladd Ceirch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod cymylog sych. Wil Sion yn y boreu yn rhaffio Dâs gwair y Morfa Glofer, ac ar ol boreufwyd Dolli yn mynd efo fo i Dynu pena'r Ystycia haidd i'r Morfa'r garreg, ar ol hynnu [sic] yn mynd i raffio. Dic a Sionun yn Carrio Mawn o Gaegronw ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth. Sionun wedi bod yn Tymawr Penmorfa yn nol Sion i ddwad yma i Ddegymu'r Haidd yn y Morfa'r Garreg a'r Ceirch gwyn yn Cae'r Hendra, yn cael unarbymtheg o Ystycia Haidd yn y Morfa a dau yn Cae'r Hendra. Yn dwad a llwyth o Haidd i ddechreu helm yn Cae'r Hendra yn dwad yn gawod, yn mynd wedi i hel Tô. yn gadael y llwyth Tô wrth adwy yr hen Forfa, ac yn dwad a llwyth o Haidd i fynu, ac yn ei roi yn y 'sgubor  Owen Roberts yn dwad yma Fi heb fod yn y Farchnad. gwlaw trwm yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod cymylog teg ac yn sychu'n bur dda. Y Meibion -------- yn gwneud rhaffa, yn mynd wedi i wneud pen Dâs gwair y Beudy ucha --- Prydnhawnbryd i garrio'r Haidd o Forfa'r Garreg, yn ei garrio i gyd ond dau lwyth ---- unargloch y boreu, ac yn ei wneud yn helmi yn Cae'r hendra. Dic a Sionun wedi bod --- Caegronw yn nol yr Heffer at y Tarw. Owen Roberts yn mynd adref ar ol borreufwyd i fynd i ffair Caernarfon. Brawd Betty Owen y forwyn yma yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl ac yn gwlychu'n drwm ar hyd y dydd. Dic wedi bod yn y Gorllwyn ucha yn nol pethau oedd Sian wedi dwad o Gaernarfon i Elin.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw Cawodydd trymion. Y Dyniewid yn  myd [sic] o Flaen y Coed i Hafod y budredd, y pum Eidion yn oddiyno i forfa Trwyn y garreg a'r Buchod yn mynd o'r Henerw i Gae'r hafotty. Yn diwedd toi Dâs y Beudy newydd, yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i ddechreu toi Das y Beudy ucha. Hogan Robert Roberts y Gorllwyn yma'n danfon Siwgwr a Sebon oedd wedi ddwad o Gaernarfon yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn taflu dafnau o wlaw. Yn y boreu yn chwalu'r helm haidd o achos ei bod yn twymno [sic]. yn mynd wedi i chwalu'r ysgubor pen ystyciau i Ceirch gwyn yn Cae'r hendra, yn mynd ar ol boreufwyd i ladd peth yd yn y Cae main a'r Buarth gwyn. hanner awr wedi un o'r gloch yn mynd i ddechreu cario Ceirch gwyn Cae'r hendra. Yn ail wneud yr helm Haidd oedd wedi ei chwalu yn y boreu. Gwlaw at bedwar o'r gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl distaw mwll. Y Meibion y boreu yn hel yr Wyn i allt y Tymawr Ar ol boreufwyd yn chwalu helm arall Haidd oedd yn twymno[sic] gormod yn mynd wedi i'r Buarth gwyn i dori ac i afrio Ceirch. cyn hanner dydd yn ail wneud yr helm Haidd yn bwrw peth gwlaw cyn ini ddarfod. Meibion yn mynd yn eu hol i'r buarth gwyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax