Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
25/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod sych lled ddwl, Dic yn mynd y boreu i Gaegronw i nol y Fuwch goeswen i lawr at fynd i'r Ffair. Wil Sion a Sionun yn hel yr wyn i allt y Tymawr. Wil Sion a Sionun yn mynd ar ol boreufwyd i orphen toi Das gwair y Beudy ucha ac iw raffio. Fi yn mynd i'r Ffair Dic yn dwad Fuwch yno. Yn ei gwerthu i Rowland Edmund y Feleuryd. gofyn da ar fais--od ond y pris yn isel. llawer o Wartheg o bob math yn y ffair, a gwerthu llawer am brisoedd isel iawn. Elin yn dwad i'r ffair yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl distaw. Y Meibion cyn boreufwyd yn gorphen Rhaffio Das y Beudy uchs. Dic a Sionun yn mynd wedi ac wyth o'r Lloia i'r Morfa iw Dyddyfnu, a Wil Sion yn mynd i drwsio'r helm Haidd Dic yn codi'r Geifr yn y Buarth Gwyn. Sion yn ag[sic] Eboles Llangybi i Hafodybudredd, ac yn dwad a'r ddwy Eboles yma o Mynudd  Yn mynd o gwmpas pedwar o'r gloch i nol un lwyth Haidd o'r Morfa oedd ar ol er y Diwrnod o'r blaen ac yn ei wneud yn helm fechan y nghae'r hendra efo'r lleill


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Ann bach wedi bod yn sal neithiwr gan ddolur yn ei bol ac hebfod yn dda heddyw[sic]. Y Meibion yn lladd yd y Caelleppa ucha. Robt. Thomas y Caecoch yn dwad a llo gwrw a llo banw yma. Lewis George Dyn o Bwllheli ym[sic] yn nol arian oedd yn dwad i Dafydd Lewis Cyfrwywr o Bwllheli sydd wedi marw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych teg. Mr. Owen Aberglaslyn yma'n y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn darfod lladd yd y Caelleppa ucha ac yn lladd yd yn y Caemain. Fi wedi bod yn y Ciniaw Gwyl mihengel, Gwen Williams Caeddafydd wedi dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/9/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd ar ol Drwghin trwm o Wynt a gwlaw neithiwrt. Yn darfod lladd yr yd y Caemain, a'r Buarth gwyn, ac yn lladd peth yn y Weirglawdd ucha. Fi wedi bod yn Mhenmorfa efo Mr. Williams y Steward, yn ymdroi yno hyd o fewn i chwarter i chwech o'r gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod cymylog ac yn bwrw cawodydd yn y boreu yn sychu'n dda yn y prydnhawn. Yn lladd Ceirch yn yr hen Forfa. Mari William Tomas yn dwad a chwech o hwyad yma o Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod led drom. Y Meibion yn lladd Ceirch yr ochr draw i'r ffos yn yr hen Forfa, yn dwad i Cae'r hendra i danu'r Ceirch du erbyn prydnhawnbryd yn mynd wedi i'r hen Forfa i afrio  Elin yn mynd i Langybi erbyn yforu[sic] at y Sasiwn. GMS y Meddyg Williams or Plashên yma yn rhoi'r Brêch y Buwchod ar y ddwy Eneth fach sef Ann a Bessan.[?]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl cymylog, gwyntog iawn yn y boreu. Gwlaw trwm iawn rhwng dau a thri o'r Gloch y Prydnhawn. Sasiwn yn mhwllheli Betty Owen wedi mynd yno. Yn toi dwy o'r helmi haidd ac yn gorphen gapio'r Ceirch yn y Buarth gwyn. yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i wneud rhaffa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod clir yn y boreu yn cymylu at gwrs o'r dydd, ac yn sychu'n dda at y Prydnhawn, Yn tori mieri i roi o gwmpas yr helmi, Yn mynd wedi i'r hen forfa i afrio Ceirch, yn dwad a llwyth o Geirch o'r Buarth gwyn. Fi yn mynd i Dremadoc yn y Prydnhawn. Elin yn dwad adref o Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl Dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw ar hyd y Dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Yn troi Buwch a'r Tarw i'r Adladd i'r Tymawr. Yn lladd Ceirch yn y Weirglawrr ucha ac yn Afrio Mr. John Evans Tyncoed yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod cymylog yn y boreu ac yn bwrw ambell led [sic] drom. Y Meibion cyn boreufwyd wedi bod yn y Mynudd yn nol y Maheryn, yn mynd wedi i ladd yd ac i Afrio i'r weirglawdd ucha. yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i danu yd y Caelleppa a pheth o'r Caemain. Owen Humphreys y Clenenney yma, achos bod dwrdio achos y ffordd fawr wrth y Felin isa. Dic wedi bod yn siop Morris Jones yn nol dau alwyn o whiskey [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod clir yn y boreu, ac yn tebygu i ddryghin at hanner dydd dryghin trwm at dri o'r gloch. Yn gorphen tori Ceirch y Weirglawdd ucha yn y boreu yn mynd wedi i orphen tanu Ceirch y Caemain, yn cynnull tri ar hugain o Stycia yn Cae'r hendra a dau ar bymtheg yn y Caelleppa ucha ac yn ei garrio i gyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod clir sych. Dic a Sionun yn carrio mawn o Gaegronw. Wil Sion a Dolly yn lladd Ceirch yn y Morfa, o Gwmpas hanner dydd yn mynd i droi Ceirch y Caelleppa ucha. yn ei gynull i gyd ac yn garrio erbyn ychydig o'r nos, yn bwrw rhai Cawodydd cyn ini ddarfod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion iawn. Y Meibion yn y boreu yn hel to, ac yn toi yr helm haidd yn mynd wedi i orphen lladd Ceirch yr hên forfa (Diwedd Lladd y Ceirch) ac yn ei afrio. Fi wedi mynd i Dremadoc i'r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd lled drymion, Y Meibion yn gorphen gafrio'r Ceirch yn yr hen forfa ac yn mynd i'r Weirglawdd ucha i afrio'r Ceirch yno. A Y Meddyg Williams o'r Plâshen yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd lled drymion Fi wedi bod yn llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl heb sychu fawr yn chwythu o'r Dwyrain. Y Meibion yn y boreu yn cae o gwmpas yr helmi Haidd, yn mynd wedi i dorri'r hedyn i ochor y Brynmagal, yn wedi i droi yd y Gaemain, ar ol Prynhawnbryd yn mynd i garrio peth Ceirch o'r hên Forfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod lled ddwl distaw, yn sychu'n bur wan. Y Meibion yn y boreu yn troi yd yn y Weirglawdd ucha, yn carrio yd y buarth gwyn, yn mynd wedi i ysgafnhau Ceirch y Caemain. Ar ol Prydnhawnbryd yn dwad a cheirch y Morfa i fynu i gid [sic]. Sion Tymawr yma'n Degymu Ceirch y Weirglawdd ucha a pheth yn yr hen Forfa. Carrio Ceirch yr hen Forfa i gyd, ac yn cynull y Ceirch Caemain hyd at y peth oedd yn rhy wlyb efo'r clawddia a'r perthi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl ac yn taflu dafnau o wlaw weithia wedi bwrw cawodydd yn y plygain. Yn darllaw. Yn carrio hynn[sic] oedd wedi ei gynull o yd y Caemain, ac yn carrio Yd y Weirglawdd ucha hyd at un llwyth oedd heb ei rwymo, yn rhwymo y Cwbl yno ac yn y Caemain, ac yn ei garrio i gyd. Diwedd Cael y Cynhauaf. wedi bod er dechreu y Cynhauaf Gwair bymtheg wythnos a thridiau. Y Cynhauaf Gwair ac yd gwlypaf a ydwyf yn ei gofio eriod.[sic] Ellis Owen Cefnymaesydd yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn hel Tô ac yn toi i Dâs Ceirch Fi wedi bod yn Tremadoc ac yn prynu Deunydd Côb newydd o Frethyn blewog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod drom, Yn codi'r gwttar yn ffolt y Moch, ac yn cau adwyon, Wil Sion yn mynd  wedi i ddyrnu ydwellt, Dic a Sionun yn parrattoi[sic] at garrio Mawn Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn, Diwrnod sych teg, ar ol un Daran yn y Boreu. Wil Sion yn dechreu trwsio Das gwair y Morfa. Dic wedi mynd i ddyrnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/10/1823
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl sych. Elin yn mynd i edrych am wraig Morris Jones Tremadoc, sydd yn sâl ar Enedigaeth dyn bach. Fi yn mynd efo hi.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax