Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
20/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw peth weithia. Wil Sion a Dic wedi bod yn y Mynudd yn y boreu yn chwilio am y Maheryn, yn mynd wedi i drwsio Dâs yr hen Forfa Mr. Owen Aberglaslyn yn galw yma wrth Adara. Y Buchod yn mynd i'r Morfa
|
21/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych. Dic a Sionun yn carrio Mawn o Gaegronw Wil Sion yn gorphen trwsio Dâs gwair y Morfa
|
22/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych. Wil Sion a Dic yn rhaffio Dâs gwair yr hen Forfa yn mynd wedi i gau rhwng y Caea adladd a'r Caea porfa, rhag y Defaid Ffair yn Nghriccieth Elin a Minau wedi bod yno.
|
23/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych gwyntog. Wil Sion yn rhaffio'r helmi Dic a Sionun yn carrio mawn. Gwas Morris Jones Tremadoc yn danfon cwarter Tunell o Glo yma. Fi wedi bod Y Nghynebrwng Elin Owen gwraig Edward Owen, y Ty ucha Cwmstrallyn
|
24/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych. Wil Sion yn rhaffio'r helmi. Dic a Sionun yn carrio mawn. Sion Hugh Drwsyrymlid yma'n gorphen talu ei Ardreth Adarwr Mr. Gore yma. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
25/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych mwll. Yn Cneifio o Famoga 149. yn marcio 49 o Fyllt. yn gyru 44 o Wyn i Gaegronw ac 20 i'r Buarth blaen y coed. Cyfrif o'r Defaid (44[+] 149 [+] 49 [+]20 [=]262) rhai heb eu Cael mae'n debig[sic]
|
26/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl gan niwl neu fyllwch. Fi wedi bod yn Aberglaslyn
|
27/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw peth gwlaw mân weithia. Sionun wedi bod a captan a Jack yn yr Efail. Yn rhoi mwgwd ar y Tarw, Yn dechreu tynu cloron i'w cadw.
|
28/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw man y rhan amlaf. Dic a Sionun yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn cau adwy Cadlas yr hen Forfa yn rhaffio'r dâs Ceirch. Elin gwraig John Owen Tollfa Tremadoc yma yn nol Pwys o wlan. Twm William Sion yn dwad yma i gadw'r Wyn yn Caegronw
|
29/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl oer ac yn dwad i fwrw cenllysg a gwlaw at y Prydnhawn. Dic a Sionun yn carrio mawn. Wil Sion yn hel To at drwsio Dâs y Beudy newyd[sic] ac yn dyrnu. Fi wedi bod y Nolgelley efo'r Y steward yn rhoi fy Nhir i fynu[sic] yn cysgu yn Nolgelley Eira hyd y mynddau[sic]
|
30/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl oer ac yn bwrw eirislaw[sic] ganol dydd. Dic a Sionun yn cario Mawn yn y boreu, ac yn tynu Cloron yn y Prydnhawn Fi yn dwad adref erbyn cwbl dwlu. Gwas y Meddyg Williams o'r Plashen yn ail roi Brech y Fuwch ar Betsan bach
|
31/10/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl gwyntog iawn. Wil Sion a Dolli yn tynu Cloron Dic a Sionun yn carrio mawn. Wil Williams Bwlchllechog yma. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
1/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych a pheth gwynt. Yn tynu Cloron yn y boreu Wil Sion a Dic yn mynd i Briodas Wil Owen efo Neli o'r Gelli.
|
2/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl distaw.
|
3/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw man weithia. Y lloia yn mynd i'r weirglawdd ucha Wil Sion yn mynd i drwsio ac i raffio Dâs gwair Caegronw. Dic a Sionun yn cario mawn. Sion Morris yn dwad yma i weithio wrth y dydd. yn dyrnu yn y boreu yn dwad yn wlaw trwm at y prydnhawn, yn mynd i nithio ar ol Prydnhawnbryd Geneth Sion William Ynuspandy yn dwad a Physgodyn yma, allan o ei amser.
|
4/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn'n [sic] drwm ar ol bwrw'n drwm iawn neithiwr eira hyd bennau'r Mynyddau. Wil Sion wedi mynd i orphen trwsio Dâs gwair Caegronw, y lleill efo Sion Morris yn gorphen nithio, yn dal y Ceffylau i fynd i garrio Mawn, gwlaw yn eu rhwystro yn mynd o gwmpas haner dydd at y mawn. Gwlaw trwm at y Prydnhawn.
|
5/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod clir yn y boreu yn dylu at y Prydnhawn ac yn bwrw peth cyn y nos. Dic a Sionun yn carrio mawn o Gaegronw y lleill yn tynu Cloron Fi wedi bod yn Mhenmorfa efo Mr. Williams y Stiward [sic]
|
6/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg. Yn tynu cloron yn Hendratyfi. Ayls Tyn y mynudd yn mynd a Hwch i'r Dremadoc iw pwyso oeddwn wedi ei phrynu am ddwy geiniog y pwys a throi haner coron yn ol
|
7/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych mwll iawn ar ol gwlaw trwm iawn neithiwr. Yn tynu Cloron yn hendratyfi iw Cadw Gwraig Sion Jones, Gynt o'r Pantllwyd yma eisia imi dalu bil iddi dros Mr. Gore. Edward Ellis Plas yn pennant yma Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
8/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych teg. Yn tynu Cloron yn Hendratyfi iw Cadw
|
9/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl sych
|
10/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl sych. Yn tynu Cloron yn Hendratyfi iw Cadw. Y pum Bustach yn mynd o'r Morfa i wierglawdd isa y Tymawr ar Tarw a'r Fuwch yn mynd i'r Caealleppa.
|
11/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod clir teg wedi rhewi'n lled galed neithiwr. Yn darfod tynu'r Cloron brithion yn Hendratyfi ac yn dechreu tynu y rhai Cochion yno. Fi wedi bod yn Tremadoc cyn Ciniaw. Elin yn mynd yno yn y Prydnhawn i edrych am wraig Morris Jones
|
12/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych teg wedi rhewi'n galed neitiwr. Ffair y Mhenmorfa Elin a minau wedi bod yno yn Cyflogi Morwyn a dau wâs.
|
13/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau.Diwrnod sych teg, wedi rhewi'n galed. Yn tynu Cloron i'w Cadw. Dolly yn ymadael. Fi wedi bod yn Mhenmorfa efo Mr. Williams Stewart.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|