Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl sych. Yn tynu Cloron. Betty Owen yn Ymadael. Wil Sion yn ymadael. Neli y Forwyn newydd yn dwad iw lle. Fi heb fod yn y Farchnad
|
15/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych teg. Y Meibion yn dwad a'r Wyn o Gaegronw i'r Weirglawdd ucha, yn tynu Cloron yn Hendratyfi.
|
16/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl distaw teg
|
17/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl distaw teg. Dic wedi bod yn danfon i Drol i'r Dref iw thrwsio. Sion Morris yn dwad a'r Gwartheg Hespion o Gaegronw i fynd i forfa Trwyn y Garreg. Yn darfod tynu cloron yn Hendratyfi. Fi wedi bod ynghynebrwng [sic] William Thomas o'r Ysgubor goch. gwas y Meddygg[sic] Williams o'r Plashen yma
|
18/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl distaw teg. Sion Morris yn mynd i ddyrnu, y lleill yn mynd ar ol boreufwyd i hel wyn oddiwrth y Defaid yn mynd wedi i dynu Cloron i'r Bryncoch. Fi wedi bod yn Beddgelert yn siarad efo Mr. Romsey Williams ac yn disgwyl am Helfa (Hunt)
|
19/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys yn y bore, hindda at y Prydnhawn Sion Morris yn dyrnu. Dic a Sionun yn tynu Cloron yn y Bryncoch Owen Tomas yma'n trwsio ffenestri
|
20/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl distaw. Y Meibion yn trwsio dâs y Beudy newydd. William Jones 'Sgubor hên ac Eliseus Griffith Bronygadair yn galw yma. Finau yn mynd efo hwy i Helyddiaeth Beddgelert.
|
21/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl sych. Yn darfod trwsio dâs y Beudy newydd. Dic yn ei raffio Sion Morris yn mynd i ddyrnu Fi yn mynd i Dref Madog [sic] i'r Farchnad
|
22/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl niwliog ac yn bwrw peth gwlaw mân weithia. Sion Morris yn dyrnu yn y boreu, yn mynd wedi i nithio Ceirch. Fi yn cael Esgidia newydd oddiwrth Griffith Jones Pwllheli. Yn cael cynion turnio newydd
|
23/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl niwliog
|
24/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl budr niwliog. Sion Morris yn dyrnu. Baili H R Williams Penrhos yn dan[sic] rhybydd imi fynd i Gaernarfon yn achos cyfraith Arthur Hughes a Sion Griffith. Fi wedi bod y Mhenmorfa yn chwilio Cist y llan am Lyfra i fynd efo mi i Benrhos
|
25/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl budr. Sion Morris yn dyrnu. Dicefo mi yn danfon y Caws i Faentwrog
|
26/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl budr. Sion Morris yn dyrnu Dic wedi bod yn Pwllheli yn appelio oddiwrth y Milisia Fi yn mynd i Gaernarfon achos Cyfraith Arthur Hughes a Sion Griffith yn mynd efo Mr. Wm. Jones i'r Caemawr i gysgu
|
27/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl budr. Y Meibion yn nithio Haidd. Fi yn Caernarfon
|
28/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl budr. Sion Morris yn dyrnu. Dic a Sionun yn tynu Cloron yn y Bryncoch. Fi yn dwad adref o Gaernarfon, ac yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad.
|
29/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod niwliog budr ac yn bwrw gwlaw mân dwys. Sion Morris yn dyrnu Dic a Sionun yn tynu Cloron yn y Bryncoch. Tomas William Cigydd o Dremadog yma'n prynu Tarw tew i fynd i ffordd [mynd i ffWrdd?] dydd llun nesaf
|
30/11/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl dryghinllyd wedi bwrw gwlaw trwm iawn ganol dydd. Mr. Owen Aberglaslyn yma'n Ciniawa
|
1/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych teg. Sion Morris yn dyrnu, y ddau arall yn tynu Cloron Tomos Cigydd o Dremadog yn nol tarw oedd wedi ei brynu ddydd Sadwrn i'w ladd
|
2/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych teg ar ol peth dryghin yn y boreu. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol y llwyth Mawn cyntaf eleni. Fi wedi bod yn Tremadoc yn edrych y Tarw oeddwn wedi ei werthu i Tomos y Cigydd wedi ei ladd
|
3/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl sych ar ol dryghin trwm iawn neithiwr Sion Morris yn dyrnu Dic wedi bod a Denbi a'r Gaseg ddu yn yr Efail. Y Fuwch blacan wedi dwad a llo ddoe. Catrin Hwmffra y Borth fechan yma'n chwilio am wair.
|
4/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych oer, ar ol dryghin trwm iawn o wynt a gwlaw neithiwr Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma
|
5/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod distaw claiar. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Elizabeth Griffith yn mynd adref. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. yn cael llythur[sic] oddiwrth Mr. Williams o Benar yr Ystiwart
|
6/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych lled oer. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn.
|
7/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwr claiar distaw wedi barrigo neithiwr. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn y Prydnhawn
|
8/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl sych. Sion Morris yn dyrnu. Dic yn darfod tynu Cloron môch. Sionun wedi bod a phwn o Haidd yn Melin Tanrallt yn ei falu
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|