Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
9/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl sych. Yn nol llwyth o Fawn yn y Reiniog Owen Roberts Tynlon ai Wraig yn dwad yma
|
10/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych distaw. Yn nol llwyth o Fawn o Reiniog Owen Roberts a'i Wraig yn mynd adref Fi yn mynd efo hwy i Dremadoc
|
11/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl tebig[sic] i ddryghin. Y Meibion yn Nithio. Fi wedi bod yn Ffair Harlech
|
12/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych gwyntog Yn nol llwyth o Fawn o Reiniog Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Yn rhwymo y Buchod gyntaf
|
13/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod gwyntog oer. Y Meibion yn rhoi gwynt i'r Ceirch yn y Sgubor. Yn rhwymo'r lloia, ar gwartheg allan yn dwad i'r hen Erw. ac yn torri Das gwair yr hen Forfa
|
14/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod gwyntog oer
|
15/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych teg. Robt. Sion Hendrahowel yma'n trwsio yr Beudy ucha. Sion Morris yn danfon clwydad o Geirch i'r Odyn
|
15/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod lled ddryghinllyd ac yn bwrw weithia. Sion Morris yn dyrnu Dic yn hel gwiail. Elin a minau yn mynd i Benrhos i gyfarfod Owen ac Elizabeth Roberts o'r Tynlon i arwyddo gweithredoedd yn achos rhanu'r Tiroedd rhwng Elin ac Elizabeth, yn mynd oddiyno i Gaernarfon Elin ac Elizabeth yn aros yno Owen Roberts a minau yn dwad i Rhôs y Maelan erbyn hanner nos. Yn rhwymo gwartheg y Beudy ucha
|
17/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw'n drwm weithia Elin ac Elizabeth yn dwad o Gaernarfon i Rhôsmaelan erbyn o gwmpas tri o'r gloch, yn cychwyn oddiyno o gwmpas saith yn Tynlon erbyn o gwmpas Deg o'r gloch y nos. Sion Morris yn dyrnu Dic wedi bod a'r Eboles yn yr Efail
|
18/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych oer. Elin a minau yn Tynlon. Fi yn mynd efo Owen Roberts i'r Cefncynferch, ac yn mynd i Langybi yn y Prydnhawn i'r Tynlon i gysgu. Y Meibion yn Selio yn y Felin Isa
|
19/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych oer. elin a minau ac Owen ac Elizabeth Roberts yn o'r Tynlon i Langybi yn ymdroi peth yno. Elin a minau yn dwad adref cyn naw o'r gloch y nos. Sion Morris yn dyrnu
|
20/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod gwyntog oer. Sion Morris yn dyrnu y lleill yn carrio yr ûs o'r ystabal ucha i'r lloft Evan Williams Caeddafydd yma
|
21/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl claiar budr ac yn bwrw gwlaw agos trwy'r dydd
|
22/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod claiar distaw. Sion Morris yn dyrnu. Dic a Sionun wedi bod yn y Morfa yn nol llwyth i'r Beudy newydd. Fi wedi bod yn Mhenmorfa yn y Festri. Owen Edwards Meistr y llong ddau hwylbren Diwydrwydd (Diligence) yn dwa[sic] efo mi Adref o Dremadoc
|
23/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl budr claiar. Sion Morris yn dyrnu Dic a Sionun yn trwsio Troedago[?] at garrio gwair. Owen Edwards yn cael benthig [sic] y Gaseg i fynd i'r Towyn yn dwad yn ei ol wedi iddi dywyllu
|
24/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw dwys. Sion Morris yn dyrnu y lleill yn curo eithin Owen Edwards yn mynd i ffordd trwy'r gwlaw. Yn puro Hobad o haidd i fynd i'r Felin. Y llwynog wedi lladd Tyrcan neithiwr
|
25/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl budr. Nadolig newydd. Evan Williams Caeddafydd yma yn y boreu wrth fynd i Bwllheli ac yn galw yma wrth ddwad yn ei ol
|
26/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl claiar budr ac yn bwrw gwlaw mân. Sion Morris yn dyrnu. Dic yn toi'r Dâs Mawn wrth dalcen yr Ysgubor. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
27/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Sion Morris yn dyrnu Dic yntoi'r Dâs mawn, Sionun wedi bod a phwn o Haidd yn Melin Tanrallt yn dwad adref heb gael malu. Gwas Mr. Owen Aberglaslyn yma'n nol Telaid o Gloron. Sionun wedi bod yn melin Tanyrallt yn nol y Pwn Haidd wedi ei falu wedi twyllu [sic]
|
28/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl budr iawn
|
29/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod gwyntog dryghinllyd ac yn bwrw ambell gawod drom o Genllysg ac yn taranu peth ganol dydd wedi taranu'n drwm neithiwr Sion Morris yn dyrnu. Dic a Sionun yn rhaffio'r Dâs Mawn ac yn hel Eithin. Risiart Jones Ynusereur a Wm. Jones o'r Gaerddu yma yn holiam y Tir yma wedi iddynt glywed fy mod yn ymadael. Harri Owen yma yn prynu'r Moch. Dyn o Ffestiniog yn neges efo fo.
|
30/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl dryghinllyd. Y Meibion yn nithio. Sionun wedi bod yn y Penrhyn yn chwilio am halen. W. Williams Bwlchllechog yma.
|
31/12/1823 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych oer gwyntog. Y Meibion yn darfod nithio ac yn nol llwyth o wair o'r Morfa i'r Beudy newydd, yn rhoi helm Haidd i mewn
|
1/1/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Calan Newydd. Iau. Diwrnod dwl gwyntog iawn ac yn tebygi i ddryghin trwm. Geneth Harri Edward Hendrasela yn dwad hespion yma wedi syrthio tros y graig rhwng bwlch y Moch a thrwyn y graig wedi torri pleth ei ddwyglun. Humphra Bachgen y ffynon [sic] Beuno yma'n danfon llythur[sic] oddiwrth Griffith William yr Oferseer eisia imi fynd i'w gyfarfod ef i Reiniog
|
2/1/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl gwyntog. Sion Morris yn dechreu dyrnu Haidd Dic yn hel gwiail. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. G Williams Caeddafydd yn dwad yma
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|