Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
5/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod gwresog iawn. Y Meibion yn planu Bytatws. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Yn rhoi arian i fynd i Wrexham i nol Gwn Newydd
|
6/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Yn bwrw peth gwlaw. Y Meibion yn planu Bytatws. Robt Trwyn y graig yn dwad a buwch at y TARW.
|
7/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg, a’r gwynt yn oerllyd.
|
8/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Llun Diwrnod Claiar yn bwrw peth gwlaw. Will a minau yn tynu Cerrig at y gwttar sydd yn mynd i’r Traeth Huwcyn yn cau clawdd Terfyn Porthtreuddyn Owain yn hel priccia yn y Pys Will a Sion Jones yn Cau y Gwtter sydd yn mynd i’r Traeth. Yn bwrw gwlaw claiar trwm y Prydnhawn
|
9/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod teg gwynt lled oerllyd. Will yn teilo i’r ardd isaf i Bytatws moch Huwcyn yn cau rhwng y Caea Gwair ar Caea Porfa.
|
10/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod gwyntog ac yn bwrw peth gwlaw. Y Meibion yn nôl gwair o Gaegoronw i’r Beudy newydd. Elin a Betty wedi mynd i Aberdeunant a Mur y gwenun
|
11/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Dyrchafael. Diwrnod gwyntog ysgythrog ac yn bwrw peth gwlaw yn y boreu
|
12/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod gwyntog Claiar. Y Meibion yn dwad a dau Lwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Owain wedi mynd a’r Ceffyl i’r Bettws fawr i nol y Mam adref. Geneth Llidiart ‘Spyty yma yn nôl Telaid o Bytatws moch Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn dyfod adref erbyn pump
|
13/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg iawn yn y boreu. Fi yn mynd i Langybi’r boreu ac oddiyno i’r Tynlôn i ofyn meddiant gyda W.Jones Tyddyn Elen. Tomas yn naccau ei roddi. Yn mynd efo W. Jones E Griffith ac Elin i Ffair Pwllheli yn cael peth gwlaw wrth fynd. yn bwrw’n drwm yn y Prydnhawn. Fi yn Cyflogi Morwyn hindda yn yr hwyr Elin yn mynd i Langybi. Fi yn dyfod adref efo Ellis Owen Cefn y Maesydd yn ymdroi yn Criccieth ac yn cael gwlaw trwm iawn oddiyno hyd adref erbyn hanner awr wedi unarddeg o’r Gloch
|
14/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg. Mam wedi mynd i Bregeth i Erwsuran, ac i’r Dre yn yr hwyr bwrw peth gwlaw claiar hynod gyd a’r hwyr.
|
15/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Llun Diwrnod Claiar hynod ac yn bwrw cawodydd Claiar Ffair ym Mhenmorfa. Fi yn cyflogi gweision. Ffair pur Siarp arnynt.
|
16/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod teg ac yn Taranu o gwmpas Fi a Will yn mynd efo Robert Hendrahowel i’r Mynudd [sic] i nol Carreg i ddal y Llidiart Terfyn Owain yn Tymawr yn hel Cerrig. Huwcyn wedi mynd ai ddillad adref i’w golchi Owain yn ymadel ar ol Prydnhawnbryd heb ddweyd i neb.
|
17/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg Claiar. Fi a Will yn mynd i Gaegoronw i nol siwrna o wair Huwcyn wedi ymadael yn y boreu Fi yn mynd i Dremadoc ac yn cael Llythyr oddiwrth Ellis Jones Dolgelley eisia maengrisial yn troi y ddau Eidion i’r Morfa i borfa. Yn prynu Clo Newydd.
|
18/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod Claiar ac yn bwrw Cawodydd. Yn troi’r Dynewid i’r allt isa i borfa. Gwlaw trwm trwy’r Dydd Fi yn gosod Clo ar gwpwr y Siambr. Will yn chwalu rhawn. Gwr a Gwraig a dau blentyn tylodion o Sir Aberteifi yma yn cysgu yn Llofft y stabal
|
19/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod Claiar. Will yn hau had Glofer yn y Morf Rhif Dau [sic] Fi yn mynd i Dremadoc ac oddiyno i Penmorfa Gwerthiant Plas isa i fod yno y Twrna yn mynd yn ei ôl heb ddim ocsiwn. Y Gweision a’r Morwynion newyddion yn dyfod i’w lle. John Owen Cefn y Cynferch yn dyfod yma
|
20/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Yn bwrw gwlaw claiar hynod. Fi wedi bod efo Sion Owen yn Hafodbudredd yn edrych y Gwartheg. Yn cael Gwn Newydd o Wrexham Gwas Richd Robert Crydd Tremadoc yn dwad a ‘Sgidia newyddion i mi
|
21/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod gwyntog Claiar Sion Owen Cefn yma
|
22/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun y Sulgwyn. Diwrnod teg iawn.
|
23/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod gwresog. Ffair y’Nghriccieth. Hugh Griffith Elin a minau yn mynd yno.
|
24/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg, Meibion yn dechreu lladd mawn yn Caegoronw. Siani yn mynd a phwn o Haidd i’r Felin a gwlan i’r Ffactory Gwraig Samuel Owen Garn yma eisiau cael peth o’r plwy
|
25/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg wedi bwrw’n drwm yn y boreu. Y Meibion yn lladd mawn yn Caegoronw. Y Dynewid yn cael eu troi i’r Henerw. Y lloia yn cael eu troi allan gyntaf. Thomas David yn y graig yn codi Maen Grisial. Yn rhoi’r Dwrcan i eisde yn Llaethdy [Gweler 21/6/1820 "pump o gywion gan y Dyrcan"]
|
26/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod Claiar cawodog. Y Meibion yn cau o gwmpas y dâs yn y Morfa. Cathrine Owen Carnarvon yn mynd adref Fi yn mynd i glawddfa’r Alltwen i edrych oedd cerrig i’w rhoi o gwmpas Fedd Robt Owen Llangybi’n barrod
|
27/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod Cawodog Claiar. Will yn carrio’r drain o Fuarth yr hên Erw at y Ty. y lleill yn hel cerrig yn cae ty coch. Trol Llangybi yn dyfod yma i ddanfon Llo. a’r ddynewaid foel i Borfa ac i nol dau Hobad o Wenith, ac yn mynd heibio i’r Alltwen i nol llwyth o gerrig at roi gwaith o gwmpas bedd Robt Owen Llangybi. Elin a minau yn enynt[?] yn y Prydnhawn i Dy Mr. Owen Aberglâslyn. Yn gweled yno ddarn o asgwrn pen Carw a dau Gorn y’nghlwm ynddo yn ddwy droedfedd o hyd a phedair caingc ar bob un. ac yn ddwy fodfeddarbymtheg a hanner o led o flaen i flaen. wedi eu cael yn llyn Cerrigyrhwydwr wrth dynnu rhwyd ychydig o ddyddiau yn ôl gan Richd William Tailiwr sydd yn byw yn Aberglâslyn. tebygyd ar yr olwg oedd arno ei fod yno er’s amryw flynyddau!!! Yn dyfod adref cyn naw o’r gloch
|
28/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod gwlawog budr trwy’r dydd. Y Milgi yn lladd Llwdn Harry Owen wrth goethi o’r caea.
|
29/5/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Yr Haul yn deg a’r gwynt yn oer. Fi yn mynd y boreu efo’r Meibion i’r Reiniog i ddangos iddynt dorri pwll mawn newydd geneth Robt. Jones gorllwyn yn dwad a chlorian yma oddiwrth Modryb Cathrine Owen Carnarvon. Howel Owen Gorllwyn yma yn yfed Tea ac yn nôl Llwdn Harry Owen. Cathrine Morris yma yn gofyn am Wellt medi Coed y Tymawr.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|