Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
2/1/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod sych lled oer
|
5/1/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl sych distaw. Yn nithio Haidd at ei falu i'r Fuwch a Sion Morris yn dyrnu Haidd. Sionun wedi bod yn y Dref efo Robt. Jones yn nol Hwch oeddwn wedi brynu ganddo yn pwyso saith ugain a thri. Sion Hugh Cerrig y rhwydwr yma'n talu ei ardreth.
|
6/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw weithia, Sion Morris yn [??] dyrnu. Dic yn hel gwiail. Fi wedi bod yn Penmorfa. Diwrnod talu y rhent
|
7/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych wedi rhewi peth neithiwr. Sion Morris yn dyrnu Dic yn agor ffosydd yn weirglawddia’r [sic weirgloddiau] Tymawr. Fi wedi bod yn Penmorfa Mr Owen Aberglaslyn yn galw yma ac yn dwad efo mi i Benmorfa Sionun wedi bod a phwn o Haidd yn melin Tanrallt yn ei falu i’r Fuwch. heb gael malu yn dwad a Brâg efo fo o Dy Robt.Jones Tremadoc
|
8/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl distaw yn y boreu yn dwad yn wlaw dwys claiar at y Prydnhawn. Sion Morris yn dyrnu, Dic yn agor ffosydd yn weirglawddia’r [sic] Tymawr Fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yn dwad o gwmpas naw o’r gloch y nos o Bwllheli
|
9/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod niwlog ac yn Gwlychu ddwys ar hyd y Dydd. Sion Morris yn dyrnu Dic yn agos [sic agor] ffôs yn Cae’r Hendra. Fy Ewythr Owen Edwards yn mynd adref wedi talu ei ardreth. Fi heb fynd i’r Farchnad!
|
10/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod budr iawn ac yn gwlychu’n drwm trwyr dydd. Sion Morris yn Dyrnu, Dic yn cneifio’r lloia [sic lloi]
|
11/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod claiar sych wedi rhewi peth neithiwr
|
13/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych teg, wedi rhewi a barrigo’n drwm neithiwr. Dic yn dyrnu. Sion Morris a Sionun yn nol gwair o Gaegronw Gyntaf eleni [sic. mewn llythrennau Bold]
|
14/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych teg distaw, wedi rhewi’n galed neithiwr. Sion Morris yn Dechreu Aredig yn Buarth yr hen Erw [sic. mewn llythrennau Bold]. Dic yn dyrnu. Fi wedi bod yn Pwllheli wedi bod yn Tynlon a Llangybi wrth fynd. John Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma i dalu ei Ardreth
|
15/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg distaw, Sion Morris yn Aredig yn Buarth yr hen Erw, Dic yn dyrnu, John Hugh Drwsyrymlid yn mynd adref
|
16/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl distaw wedi rhewi’n galed nrithiwr. Sion Morrris a Sionun yn teilo lludw i ben isaf Cae’r hendra. Dic yn dyrnu. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
17/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych distaw wedi bwrw peth eira hyd bennau’r Mynyddau [sic] Sion Morris yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd . Dic yn darfod dyrnu’r helm Haidd. Morris Jones Tremadoc ym [sic] yn y Prydnhawn
|
18/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod sych distaw cymylog
|
19/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod cymylog distaw claiar, Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn ac yn mynd a mawn i’r Odyn. Gwas Mr.Owen Aberglaslyn yma’n nol hanner Hobaid o Gloron
|
20/1/1824 | |||||||||||||||||
Prenteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
20 Mawrth. Diwrnod sych claiar distaw. Sion Morris yn Aredig yn Buarth yr hen Erw. Dic a Neli yn Nithio. Dyn yma yn fondant Llythur [sic] oddiwrth Mr.Ellis Pwllheli ---------Fi wedi bod yn Tremadoc
|
21/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych claiar distaw wedi bwrw’n drwm neithiwr Sion Morris yn Aredig yn Buarth yr hen Erw, Dic yn dechreu dyrnu Ceirch. Sion Hugh Cerrigyrhwydwr yma [sic] cymeryd ffosydd iw hagor ai torri yn yr hen Forfa, Gwadan haiarn yr Aradr yn tori [sic torri], yn dwad wedi [sic] i deilo lludw i Gae’r hendra.
|
22/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod budr ac yn bwrw peth gwlaw claiar. Sion Morris yn Aredig yn Buarth yr hen Erw. Dic yn dyrnu
|
23/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod sych dwl claiar. Sion Morris yn Aredig yn Buarth yr hen Erw Dic yn dyrnu. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Yn gwerthu’r Ymenun [sic. Ymenyn]
|
24/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych dwl claiar. Sionun wedi bod a’r ddau Geffyl yn yr Efail yn durio eu Pedolau. Sion Morris yn dechreu gwneud ffordd oddiwrth Feudy Tynybwlch i’r llainhir Dic yn Dyrnu
|
25/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod niwlog budr ac yn bwrw gwlaw mân dwys
|
26/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl budr iawn ac yn bwrw peth gwlaw man, Sion Morris yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Dic yn Dyrnu. Fi wedi bod yn Tremadoc
|
27/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod budr iawn wedi bwrw gwlaw trwm iawn yn y boreu Sion Morris a Sionun yn dwad a dwy siwrna o wair o Gaegronw [sic] i’r Beudy ucha Dic yn dyrnu
|
28/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod budr yn bwrw eirlaw. eira hyd y Mynyddau [sic]. Sion Morris wedi mynd i nol hanner tunell o Glô [sic. hanner tunnel o lo]. a sached o Halen oddiwrth Morris Jones Tremadoc Dic yn Dyrnu. Fi yn troi dwr o Trwy [sic. Trwyn ?] Flaen y Coed i ddyfrio’r Gelli wastad Evan James yn dwad yma at hanner dydd.
|
29/1/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych teg, Sion Morris yn gorphen aredig Buarth yr hen Erw ac yn mynd i orphen y ffordd oddiwrth Feudy Tynybwlch i’r llainhir. Dic yn darfod dyrnu y Ceirch du oedd yn ‘Sgubor [sic ysgubor]. Wil y Gorllwyn yn dwad yma i ddal Tyrchod daear Yn Darllaw
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|