Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
24/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych teg distaw. Sion Morris yn teilo oddiwrth y Beudynewydd i’r Buarth gwyn, ddau o’r gloch yn dwad i roi’r Dâs Ceirch i mewn  Dic efo Sion Hugh yn gorphen nithio yn y boreu, yn mynd wedi [sic] i chwalu tail i’r Buarth gwyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych gwyntog oer iawn. Sion Morris yn teilo i’r Buarth gwyn. Dic yn agor ffosydd yn Blaenycoed


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych oer. Sion Morris yn aredig yn Buarthgwyn. Wil y Gorllwyn yma’n lladd y ddwy hwch. Dic efo fo.

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod gwyntog oer.eira yn parhau hyd.y Mynyddau [sic] Sion Morris yn Aredig yn y Buarth gwyn Dic yno yn chwalu tail Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych oer. Sion Morris yn [sic. ‘mynd’ wedi ei groesi allan] aredig yn y Buarth gwyn Dic yno yn chwalu tail yn y Boreu, ac yn mynd wedi [sic] i roi’r helm Gloron cochion i mewn. Morris Jones Tremadoc yma yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/2/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul. Diwrnod sych dwl.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw weithia. Sion Morris wedi bod a chlwydad [sic] o Geirch yn yr Odyn. Dic yn chwalu tail yn Cae’r hendra. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Eifionydd er Cospi Lladron deg a deugain o’r Aelodau yn Ciniawa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod dwl wedi bwrw eira yn dew yn y boreu. William Owen o’r Cwmmawr yma’n lladd y Fuwch dew, Sion Morris yn mynd wedi [sic] i deilo i Gae’r Hendra. Dic wedi bod yn danfon Croen y Fuwch i’r Plasnewydd Fi yn saethu bran yn y Morfa ar y Gwenith. Sion Humphreys Clenenney yn dwad yma o gwmpas deg o’r gloch y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod gwyntog iawn ac yn bwrw ambell gawod drom iawn o Eira Sion Morris yn Aredig yn y Buarth gwyn. Dic yn chwalu’r lludw yn Cae’r hendra ac yn dyfrio’r Gwartheg  William Owen y Cwmmawr yma’n tori’r [sic torri’r] Fuwch

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych dwl wedi rhewi’n galed neithiwr. Sion Morris wedi bod yn danfon llwyth o Geirch i’r Odyn, ac yn dwad a llwyth o wair efo fo o’r Morfa i’r ‘Stabal [sic. stabl] ucha. Dic yn cau rhwng y Bryncoch a’r Buarth yr hen Erw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych lled oer. Sion Morris a Sionun yn cario [sic] gwair o Gae gronw [sic. Caegoronw] i’r Beudy ucha. Dic yn cau rhwng lloc Tynybwlch a Gwernclowna. Fi wedi bod yn Tremadoc. John Owen Tyddyn mawr Trawsfynydd yn dwad efo mi adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod claiar budr. Sion Morris yn Aredig yn y Buarth gwyn Ffair yn Penmorfa Fi yn mynd yno, Dic a Sionun yn dwad a’r Gwartheg allan yno.yn eu gwerthu i Silvanus Jones cyn mynd a hwy i’r Ffair. Yr Oen bach cyntaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod distaw sych. Wm.Jones Caemawr yn galw yma gyda’r nos wrth fynd i Dremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod gwyntog dryghinllyd [sic] oer. Y Meibion yn silio yn y Felin isa  Fi wedi bod yn Ffair Ffestiniog.yn prynu Ceirch hâd y pris yn uchel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/3/1824
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

9 Mawrth Diwrnod gwyntog lled oer ac yn bwrw ambell gawod eira hyd y Mynyddau [sic] Sion Morris yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r Weirglawdd[sic] ucha Sion Hugh yn Cae [sic. cau ?] rhwng y Weirglawdd ucha yma a’r Weirglawdd ucha Portreyddyn Wm Owen y Cwmmawr yma yn edrych Buwch oedd yn sâl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych teg Sion Morris yn teilo i’r Weirglawdd ucha. Sion Hugh yno’n Cau Dic yn y boreu efo fo. Neli yn puro pwn o haidd at ei falu Fi yn planu [sic. plannu] Garlleg yn yr Ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych oer, Y Meibion yn gorphen nithio ac yn rhoi dwy helm Haidd i mewn. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod gwyntog ac yn bwrw Cawodydd trymion o Eira. Yn hel y Defaid, yn gwerthu Ugain o Famoga i Harri Owen  Dic a Sionun yn eu danfon i Dremadoc. Robt.Thomas Caecoch yn dwad a dau Fochyn gadael yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod distaw teg sych


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dryghinllyd [sic drycinog] iawn yn bwrw’n ddwys ar hyd y dydd. Sion Morris y boreu yn Aredig yn buarth gwyn, ar ol bwyd canol dydd yn mynd i guro biswail Fi wedi bod yn Tremadoc yn prynu deunudd [sic. deunydd] Clôs a Siaced


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw trwm ar hyd y dydd Sion Morris wedi bod yn Morfa’r goedan [sic. goeden] yn dechreu Aredig yn dwad i fynu [sic] at haned [?] wedi torri’r Cwlltwr.yn mynd wedi [sic] i guro biswail gwlaw yn eu curo. Yn dwad wedi [sic] i guro Eithin ac i wneud panela. Fi wedi bod yn Tymawr yn Gwaedu’r lloia- [sic. mewn ysgrifen bold]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod niwlog claiar iawn. Y Meibion yn nol llwyth o wair o’r Dâs newydd y Morfa’r glofer ir Beudy newydd. Sionun wedi bod a’r Gaseg ddu a heurns [sic. heyrn] Aradr y Morfa yn Efail Sion Evan, Sion Hugh yn planu [sic] Pys yn yr Ardd. Fi yn plani [sic. plannu] winiwns [sic. mewn llythrennau bras] yn yr Ardd Sion Morris yn mynd i Forfa’r Goedan [sic] i Aredig ar ol canoldydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych teg mwll. Sion Morris yn Aredig yn Morfa’r Goedan [sic]. Dic yn plygu clawdd Cae’r Coldy. Fi wedi bod yn Penmorfa efo Mr.Williams yn dwad i Dremadoc i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod niwlog claiar ac yn gwlychu’n ddwys ar hyd y dydd. Sion Morris yn Aredig yn Morfa’r Garreg. Dic yn plygu clawdd Cae’r coldy. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma efo twyllnos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/3/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod sych distaw. Mam oen wedi dwad dros y graig wrth adwy y Morfa, yn dal un arall oedd yn naccau gadael i’w hoen sugno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax