Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
22/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod distaw yn bwrw ambell gawod o eirwlaw [sic. eirlaw] . Eira tew hyd y Mynyddau Elizabeth Griffith Llangybi yn cychwyn oddiyma at Ffair Wrexham Sion Morris wedi mynd i nol Ceirch du hâd oddiwrth Sion Francis Tynant. Fi wedi bod yn danfon y Gwartheg allan i Dremadoc i fynd i Silvanus Jones. Dic a’r lleill yn curo biswail
|
23/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych oer. Eira hyd y Mynydda [sic]. Sion Morris yn aredig yn y Morfa’r Goedan y lleill yn curo biswail. Sion Hugh yn palu yn yr Ardd, ac yn hau Redis [sic. radis] a Lettis [sic. letys]. Yn bwrw cawod o Genllysg breision iawn ‘chydig cyn pedwar o’r gloch y Prydnhawn a tharanau rai [mewn lythrennau bold]
|
24/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych gwyntog oer. Sion Morris yn Aredig yn Morfa’r goedan [sic]. y lleill yn gorphen curo biswail. Sion Hugh yn hau winiwns [sic] yn yr Ardd. Fi wedi bod yn Maentwrog yn chwilio am Mr.Lloyd y Cyfreithiwr.ynteu heb fod gartref.
|
25/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych gwyntog. Sionun wedi bod a’r Ceffylau yn Efail Sion Evan Sion Morris yn Aredig yn Morfa’r Goedan [sic] ar ol hanner dydd. Dic yn plygu clawdd Cae’r Coldy Fi wedi bod yn Maentwrog ar yr un neges a doe [sic]. Gwen Willliams Cae ddafydd yn dwad a chloron cynar yma
|
26/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod distaw sych. Sion Morris yn Aredig yn Morfa’r Goedan. Dic yn plygu clawdd Cae’r Coldy. Elin a minau [sic minnau] wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
27/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw sych. Sion Morris yn dwad a dwy siwrna [sic siwrnai] o wair o Gaegronw [sic] i’r Beudy ucha ac yn mynd i Aredig i’r Buarth gwyn ar ol bwyd canol dydd. Dic yn chwalu tail yn y Weirglawdd ucha Sion Hugh yn planu [sic. plannu] Ffa a phys a rhes o Gloron cynar [sic. cynnar] oeddwn wedi gael o Gaeddafydd yn yr Ardd Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma wrth fynd o Ffair Wrexham. Elin yn mynd efo hi i Langybi a’r Tynlon Gwen Williams Caeddafydd yn mynd adref. Sionun wedi bod yn Tremadoc yn ymofun [sic] Bresych ac yn dwad a Cask o Liquor efo fo
|
28/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod sych oer
|
29/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod distaw sych. Sion Morris yn mynd i’r Weirglawdd ucha i ddechreu Aredig Sofl Dic yn cau bylchau yn clawdd y Mynudd [sic]. Sion Hugh yn planu [sic] Bresych diweddar yn yr Ardd. William, Baili Mr.Ellis Pwllheli yma’n danfon rhybydd [sic. rhybudd] imi fynd i’r Sesiwn. [sic. mewn llythrennau bold]. G.Jones Cefn gwyn yma
|
30/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod distaw lled glaiar ac yn gwlitho peth weithia. Sion Morris yn Aredig yn Weirglawdd ucha, Sion Hugh a Dic yn nithio Haidd. ar ol darfod Sion Hugh yn mynd i balu i’r Ardd a Dic yn mynd i gau ei chalwdd. Elin yn dwad adref o Langybi a’r Tynlon
|
31/3/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Ddiwrnod sych oer wedi rhewi’n galed neithiwr. Sion Morris yn aredig yn y Weirglawdd ucha. Sion Hugh efo Neli yn puro Haidd Fi wedi bod yn Maentwrog
|
1/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl distaw wedi rhewi’n galed neithiwr. Sion Morris yn Aredig yn y Buarth gwyn. Fi efo’r lleill yn rhoi’r helm Haidd ddiwaethaf [sic ddiwethaf] i mewn, yn lladd dwy lygoden ffreinig [sic] ynddi. Fi yn mynd wedi [sic] hyd Dremadoc i fynd i’r FESTRI [sic. mewn llythrennau italig] yr oedd yr Oferseers newyddion yn mynd iw swydd. Gwlaw trwm iawn a dryghin [sic] yn fy rhwystro ymhellach
|
2/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych gwyntog. Sion Morris yn mynd a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy ucha ac wedi [sic. wedyn] yn mynd i ddechreu Aredig i ben isa Cae’r hendra. Dic yn hwilio [sic. paratoi?] cerrig at wneud Gardd Gloron yn pen ucha Hendratyfi. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
3/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw teg Sion Morris yn Aredig yn Cae’r Hendra. Dic yn hwilio [sic] Cerrig at yr Ardd Gloron yn pen ucha Hendratyfi. Fi wedi bod yn Nghaernarfon efo Mr.Romsey Williams yn gofyn cyngor ynghylch llythur [sic] oeddwn wedi ei gael o Fangor o achos llythur [sic] Cymmun fy Nhad [ Ewyllys?]
|
4/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod sych distaw lled oer
|
5/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych distaw. Sion Morris yn darfod Aredig yn pen isa i Gae’r hendra ac yn dechreu yn y Bryncoch. Dic wedi bod yn y Towyn yn nol dau Begaid o Geirch gwyn hâd Fi wedi bod yn Tyn llan mewn Festri
|
6/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych distaw teg. Yn dechreu llyfnu Ceirch yn y llainhir Fi wedi bod yn Tremadoc yn prynu had gwair Mr Holland wedi bod yma
|
7/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod distaw claiar yn y boreu, yn dylu ac yn oeri at y Prydnhawn. [sic. mewn llythrennau Bold]. Yn darfod llyfnu yn y Weirglawdd ucha ac yn dechreu llyfnu yn y Buarth gwyn. Wm.Robert y Marchogwr yn dwad yma. Merch Robert Thomas y Caecoch yn dwad yma ar neges oddiwrth ei thad
|
8/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych lled oer, Yn darfod llyfnu’r Buarth gwyn ac yn dechreu llyfnu yn Buarth yr hen Erw. Fi wedi bod wrth Feudy Caegronw [sic] mewn cyfarfod achos y Mynudd [sic], Owen William Ismael yma’n cael baich o Wair. Sion Hugh yn darfod dyrnu’r Haidd
|
9/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl sych oer. Yn gorphen llyfnu Buarth yr hen Erw ddaliad y boreu. Ddaliad y Prydnhawn yno yn Aredig i gloron ac yn ei lyfnu. Sion Hugh y boreu yn planu [sic] ffa yn yr Ardd ac yn hau Llysia [sic] cochion. DARFOD [sic. mewn priflythrennau addurnedig] trin yr Ardd, Sion Hugh a Dic yn nithio Haidd yn y Prydnhawn. Geneth o Langybi yn danfon amriw [sic] nwyddau oddiwrth Elizabeth Griffith yma. Fi heb fod yn y Farchnad “ [sic] wedi dwad a llo neithiwr
|
10/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod gwyntog oer ac yn bwrw ambell gawod drom o eirwlaw [sic.]. Sion Morris yn aredig tir Cloron yn Buarth yr hen Erw. Sion Hugh wedi bod a llythur efo Mr.Lloyd Penyglana [sic] ynteu heb fod gartref. Fi wedi bod yn Nhrefan yn edrych Anner gyflo [heffer mewn llo] Sion Hugh yn ymadael
|
11/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod lled wyntog ac eira tew yn y boreu, ac yn bwrw ambell gawod drom o genllysg [sic. mewn llythrennau Bold]
|
12/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth neithiwr. [sic. mewn ysgrifen Bold]. Sion Morris yn gorphen Aredig tir Cloron yn Buarth yr hen Erw a’r Bryncoch erbyn canol dydd, yn mynd wedi [sic] i ddechreu teilo i Gloron oddiwrth y Marchdy ucha. Fi wedi bod efo Dic yn dechrau gwneud y Clawdd yn pen isa i Gae’r Coldy
|
13/4/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych oer. Yn teilo i Fuarth yr hen Erw i gloron. Fi ac Elin wedi bod yn Ffair Tremadoc
|
14/4/1824 | |||||||||||||||||
Prenteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
14 Mercher Diwrnod sych oer. Yn teilo i Fuarth yr Hen Erw i gloron Fi yn mynd i Gaernarfon i’r Sesiwn
|
15/4/1824 | |||||||||||||||||
Prenteg, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg | |||||||||||||||||
15 Iau Diwrnod sych oer. Yn [‘darfod’ wedi ei groesi allan] teilo i gloron [sic. ‘ac yn llyfnu’
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|