Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
17/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych oer. Yn llyfnu Cae’r hendra ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Dic yn planu [sic] Cloron yn yr Ardd penucha i Hendratyfi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul y Pasg Diwrnod sych oer Fi wedi bod yn y llan Mr.Owen Aberglaslyn yma gyntaf wedi dwad adref  Morris Jones Tremadoc yma

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun y Pasg. Diwrnod sych oer. Sion Morris yn Aredig Gardd y Caeglas yn y boreu, ac yn dechreu aredig yn Hendratyfi ddaliad y Prydnhawn. Fi efo Dic yn torri Cloron ac yn mesur pedwar Hobad i Evan Griffith y Fachgoch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych oer. Yn gorphen Aredig Hendratyfi ac yn dechreu ei lyfnu Dic yn tori [sic] Cloron. Fi wedi bod efo Owen Roberts yn Penmorfa ei Yrr [sic. yr, gyr] ef yno –

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych oer, Dic a Sionun yn carrio [sic] Mawn o Gaegronw ucha Sion Morris yn hau hâd gwair yn Hendratyfi, yn mynd wedi [sic] i gau clawdd y Mynudd [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych dwl gwyntog, wedi bwrw ‘chydig o wlaw boreu heddyw [sic] a neithiwr [sic. mewn ysgrifen Bold] Y Meibion yn Morfa’r Goedan yn Aredig y rhycha [sic] Sian Maesyllech yn dwad a hanner dwsin o frithylliad [sic brithylliaid] yma   [BRITHYLL]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu.[ sic. wedi ei ysgrifennu mewn Bold]. Yn dechreu llyfnu Haidd yn Morfa’r Goedan [sic]. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Robt.Thomas Caecoch yma’n nol dau Hobad o Gloron


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl sych claiar. Yn troi rhai defaid gyrfaid i’r mynudd [sic] yn y boreu. Yn mynd wedi [sic] i lyfnu Haidd i Forfa’r Goedan {sic]. Yn clywed y Gôg [sic. mewn llythrennau bras a Bold] gyntaf eleni


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod dwl sych lled wyntog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl sych claiar. Yn llyfnu Haidd yn Morfa’r Goedan. Y Gwartheg hespion yn mynd i’r Gaegronw [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod dwl distaw yn y boreu. Dryghin [sic Drycin] trwm at y Prydnhawn Yn Aredig y Talara [sic. talarau] yn Morfa’r Goedan ac yn darfod llyfnu’r HAIDD [sic]. Fi yn mynd i Benrhos yn achos llythur [sic] Cymmun fy Nhad. W.Willilams heb fod gartref yn mynd i Gaernarfon ac yn cysgu yn Arwydd yr Afr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod dwl gwyntog ac yn dwad i fwrw gwlaw trwm iawn at y Prydnhawn  Fi yn mynd i Benrhos ac yn dwad adref rhwng naw a deg o’r gloch y nos

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl dryghinllyd ac yn bwrw’n drwm at y Prydnhawn. Yn dechreu planu [sic] Cloron yn buarth yr hen Erw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/4/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl ac yn dwad yn ddryghin [sic] trwm at haner [sic] dydd Yn planu [sic] Cloron yn Buarth yr hen Erw yn y boreu. Yn mynd wedi [sic] i buro Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod gwlawog dryghinllyd yn y boreu  teg at y Prydnhawn [sic. mewn ysgrifen Bold] Yn gorphen puro’r Haidd.yn mynd wedi [sic] i [‘buro’r H’ wedi ei groesi allan] i deilo yr Ardd Gloron.y lleill yn dechreu hel cerrig yn y Caemain. Fi wedi bod yn Caerynarfon [sic. Caernarfon] efo Mr Ramsey Williams, achos talu toll ystamp [sic stamp] ar Ewyllys fy Nhad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul. Diwrnod sych teg –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych teg. Yn troi’r Defaid i’r Mynudd [sic] ac yn marcio wyth deg chwech o Wyn, yn mynd wedi [sic] i gau o gwmpas Cors Tyddyn Llewelyn. Fi efo Sion Morris yn gwneud pentan adwy rhwng y Gelli fawr a phen ucha Hendratyfi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych teg. Yn darfod planu [sic] Cloron yn Buarth yr hen Erw Sion Hugh Cerrigyrhwydwr yma’n cau’r clawdd terfyn rhwng y Buarth a’r hen Erw, a Thir Portreuddyn, Yn dechreu planu [sic] yr hen Ardd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod dwl sych. Yn darfod planu [sic] Cloron yn yr hen Ardd, yn mynd wedi [sic] i gau rhwng yr allt y Ty a’r Caea [sic caeau] Gwair  Twm wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod teg ac yn bwrw ambell gawod glaiar hynod. Sion Morris gartref yn planu [sic] Cloron. y Meibion eraill yn gorphen planu [sic] Cloron. Wil Robert y Gorllwyn yn dwad yma i wneud Cewill [sic. cewyll]. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddyn y Gwynt yma ar neges achos ardreth y Brenhin [sic. Brenin]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl claiar yn bwrw gwlaw efo’r nos. Sion Morris yn cau rhwn [sic. rhwng] y caea [sic] gwair a’r Caea porfa. Y lleill yn rhoi Cloron i mewn, ac yn mynd wedi [sic] i hel cerrig i’r Caemain William Robert y Marchogwr yn ymadael  Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad yn prynu sachad [sic. sachaid] o beilliad [sic] am ddwy geiniog a thair Ffyrling y pwys


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod claiar mwll. Sion Morris yn cau rhwng y Caea [sic] gwair a’r Caea [sic] porfa y lleill yn hel cerrig. Elin wedi mynd i’r Tynlon, Sionun wedi bod yn ei danfon. Fi wedi bod ynghynebrwng [sic] Bachgen William Owen Llidiartyspytty


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod teg mwll. Brithan wedi dwad a llo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod gwresog iawn. Fi efo Sion Morris yn cloi peth o glawdd y Mynudd [sic]. Sion Morris yn mynd wedi [sic] i gau rhwng y caea [sic] gwair a’r Cae porfa. Dic a Sionun yn carrio [sic] Mawn o Gaegronw [sic] ucha Sion Hugh yma’n cau clawdd terfyn Portreuddyn. Yn dwad a’r Dyrcan felan [sic. felen] ai chywion allan gyntaf. Robt.Thomas Caecoch yn dwad a heffer gyflo yma oedd wedi brynu yn Trefan Mari Tymawr yma’n trin Coccos [sic. cocos] i fynd i’r Tynlon. Fi wedi bod gefn yr Eboles gyntaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl oer sych. Sion Morris a Dic yn agor Ffôs cors Tyddyn Llewelyn. Sionun wedi mynd i’r Tynlon Llangybi a’r Gaseg i nol Elin.yn mynd a chi [ci] yno efo fo. Fi wedi bod efo Mr Owen yn Aberglâslyn yn ymdroi peth wrth roi tro ar yr Eboles


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax