Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
6/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod gwresog. Y Sulgwyn. [sic] Fi wedi bod yn llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod gwresog iawn. Wil Sion wedi bod y Nghriccieth [sic] yn nol calch 10 pwn y lleill yn Reiniog yn codi mawn. Y Buwchod [sic. buchod] yn mynd i flaen y coed. Y Dyniewid gwrywiad [sic.dyniewaid gwrywod] yn mynd i’r Morfa trwyn y garreg. Y lloia [sic] yn mynd allan gyntaf eleni Y Fuwch goeswen yn dwad a llo yn muches Blaenycoed


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod gwresog iawn. Yn cneifio torra [sic] ac yn nodi dau a phedwarugain o Wyn Y Gwres Fesurydd cyn uched a 70 o raddau [sic wedi ei ysgrifennu mewn Bold ac ei danlinellu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod gwresog iawn. Wil Sion a Lowry yn codi mawn yn Caegronw [sic]. Dic a Twm yn carrio [sic] mawn o Gaegronw isa. Fi wedi bod efo Owen Owens Portreuddyn yn Yspaddu [sic] tri Dyniewad [sic] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod gwresog gwyntog. Wil Sion a Lowry yn darfod codi mawn yn Caegronw [sic] Dic a Twm yn carrio [sic] mawn o Gaegronwisa [sic]. Robt.Sion Hendrahowel wedi bod yma yn yslaccio [sic] calch at seilio tan llofft y llaethdy. Fi wedi bod yn cwm cath yn edrych Polion at seilio tan llofft y Llaethdy.ac yn ymdroi efo Mr.Owen yn Aberglaslyn. Jack y Ceffyl du wedi mynd ar goll neithiwr, yn misio cael dim o ei hanes


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl distaw. Wil Sion a Dic wedi bod y boreu yn chwilio am y Ceffyl ac heb ei gael er chwilio’r Mynudd [sic], y Traeth a’r Morfa mawr. Fi wedi bod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod gwresog. Yn dechreu palu rhwng y Cloron yn Buarth yr Erw. Fi wedi bod y mhenmorfa [sic] yn ymofyn am hanes y Ceffyl yn dwad adref heb gael dim. Fi yn mynd wedi [sic] trwy Feddgelert i Gaernarfon a Wil Sion trwy Llanllyfni yn misio cael dim oi hanes. Yn peri printio papurau iw rhoi allan i ymofun [sic] am ei hanes. Richd.Ellis o’r Reiniog yma yn disgwyl Mr.Lloyd y Twrna yma iw gyfarfod heb ddo [sic. ddod?]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod dwl yn y boreu yn dwad i fwrw gwlaw at y Prydnhawn. William Rob [sic] dyn o’r Garn Dolbenmaen yn dwad yma a hanes y Ceffyl. Wil Sion yn mynd i chwilio am dano. yn ei gael wrth Feudy Rhwngyddwyryd. William Robert yn mynd a llythur [sic] i Gaernarfon i stopio printio papurau i ymofun [sic] ei hanes. Robt. a Thomas Brynyrhyd yma er neithiwr. Sul y Drindod [mewn llythrennau bras]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun. Diwrnod dwl ac yn bwrw’n drwm iawn ar hyd y dydd. Y Meibion yn y Sgubor yn chwalu rhawn hyd hanner dydd yn mynd wedi [sic] i balu rhwng Cloron i Fuarth yr hen Erw. Fi yn gosod clawdd rhwng Brynmagl ar Ffordd i Sion Morris iw drwsio am bedwar swllt a chwech cheiniog. Wil y Gorllwyn yma’n llifo ei Wellaif – Fi wedyn y Traeth yn Pysgotta [sic] efo Robt. a Thomas, heb ddal dim


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod ^dwl [sic] ac yn dwad i fwrw gwlaw yn parhau ar hyd y dydd ac yn oer Yn cychwyn ar ol boreufwyd i hel y defaid. Yn mynd wedi [sic] i balu rhwng Cloron i Fuarth yr hen Erw. Wil Sion wedi bod yn cwmcath yn nol tri Dwsin o bolion Evan James yn dwad yma. Mr.Lloyd Twrna wedi bod yma Risiart Ellis ai Fab wedi bod yma yn ei gyfarfod.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl heb fwrw dim gwlaw. Yn mynd ar ol boreufwyd i hel y Defaid ac yn eu golchi erbyn Ciniaw yn mynd wedi i orphen palu rhwng Cloron i fuarth yr hen Erw. Daniel Williams Hafodyrhisgl yn dwad yma ac yn cysgu yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych teg. Y Meibion yn gorphen palu rhwng Cloron yn yr hen Ardd yn mynd wedi [sic] i chwynu [sic. chwynnu] Yd i Gae'r hendra. Hugh Griffith Druggist Carnarvon [sic] a Dyn arall yn dwad yma erbyn chwech o’r gloch y boreu. Fi yn mynd efo hwy i Ffair Harlech. Yn dwad yma erbyn swpper [sic]. hwy yn mynd adref. Llwydig wedi dwad a llo. Y Gwenun [sic. gwenyn] wedi heidio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych teg. Yn cneifio, yn Yspaddu [sic] dau hespwrn a rhai Wyn ac yn nodi wyth at a nodais o’r blaen.yr Wyn oll iw [sic] deg a phedwarugain Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw claiar hynod ar hyd y dydd. Dic wedi bod yn yr [sic] hel y Mynudd [sic] yn cael tri o ddefaid gwlanog yn carrio [sic] Mwnws o’r Ty mawn. Wil Sion ar ol Ciniaw yn mynd i briddo Cloron i Fuarth yr hen Erw. Fi wedi bod y Nghynebrwng Wil.Mab Robt.Sion Hendrahowel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw mân ar hyd y dydd. Mr.Owen Aberglaslyn yma 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Llun Diwrnod dwl claiar. Wil Sion yn gorphen codi at Gloron Buarth yr hen Erw a’r hen Ardd Gloron. Dic yn chwynu’r [sic. chwynnu’r] Yd. ar ol Ciniaw yn mynd i’r Plasnewydd i nol hanner Telaid o flew. Robt.Sion Hendrahowel yma’n cymysgu’r Calch at Seilio tan loft y llaethdy


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw’n lled drwm ganol dydd. Y Meibion yn tacluso’r Tomenydd Tail wrth y Beudai.-- Fi wedi  [sic] yn y ffordd efo’r Meibion yn edrych a oedd pobol yn codi Grisial, Dafydd y pant hir a bachgen Tomas Owen, ac eraill yno yn gwadu  Wil Mathew oedd yno Dic yn ei weled yn mynd i ffordd [sic]. Fi yn cyfarfod Wm.Lloyd Caldicott yn dwad o’r Prenteg wedi bod yn prynu Grisial gan Margad Owen. Yn dweyd ei fod wedi rhoi punt am ‘chydig oedd ganddi mewn basged ai bod yn gofyn pum swllt iddo am ddarn oedd ganddo yn ei law – Y Meibion yma wedi bod yn codi peth grisial ar ol Prynhawnbryd. Sion Morris wedi mynd a llythur [sic] i Ddolgella at Mr.Williams y Steward o ei achos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl sych mwll. Y Meibion yn trwsio’r Tomenydd. Fi wedi bod efo Mr.Owen Aberglaslyn yn Llyn Gwynant yn Pysgotta [sic] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl sych wedi bwrw cawod drom yn y boreu. Sion Morris yn dwad adref o Ddolgelley [sic] ac yn mynd a rhybydd [sic] i Wil Panthir, a Tomas Owen Prenteg – Yn mynd wedi [sic] i Gaegronw isaf at y Meibion i ddechreu gwneud mawn Robt.Sion Hendrahowel yma hel y Calch at ei gilydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn Caegronw ucha’n gwneud mawn  Fi wedi ^ [sic] yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych teg Y Meibion yn Reiniog yn gwneud mawn Fi wedi bod y Mhenmorfa [sic] mewn Festri. Y Gwenun [sic] wedi heidio yr ail tro 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw claiar ar hyd y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwll claiar, Yn codi at y Cloron yn Buarth yr hen Erw Dic wedi bod y boreu yn nol ais i seilio tan llofft y llaethdy. Robt.Sion Hendrahowel yma’n ei seilio Evan James yma Sion Morris yn cau twll y Maengrisial


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Diwrnod [sic. dim disgrifiad] ac yn bwrw’n dwrm iawn ganol dydd am hir amser. Dic wedi bod y boreu a’r Eboles yn ei phedoli yn efail Sion Evan. Ffair y Nghriccieth [Cynhelir yr ail ffair ar Fehefin 29 hyd heddiw]. Fi yn mynd yno. Yn gwerthu’r Gaseg ddu i Robt.Jones Tremadoc wrth fynd i’r Ffair. Dic yn dwad a’r Eboles ar fy ol i’r ffair Yn ei gwerthu i Silvanus Jones, Wil Sion yn tori [sic] anialwch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/6/1824
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl gwyntog ac yn dwad i fwrw gwlaw yn drwm at y Prydnhawn Yn darfod gwneud mawn yn Caegronw ucha Robt.Sion Hendrahowel yma’n plastro’r llaethdy


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax