Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
1/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl gwyntog, gwlaw at y Prydnhawn, Yn llifo Pladuria. Y Meibion yn y Prydnhawn yn gyru gwair o'r Ty gwair i daflod y Beudy Tymawr, Twm wedi bod a phwn o Haidd yn y felin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl a gwlaw trwm yn y boreu. Y Meibion yn y Sgubor yn gwneud rhaffa rhawn. Sion Hugh yn dwad yma'r boreu, Sion Morris a Robt. Griffith yn dwad yma at hanner dydd. Robt. Sion Hendrahowel yn gorphen plastro'r llaethdy  Yn dechreu ar y Gwair yn Caegronw ucha. Fi heb fod yn y Farchnad!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod niwliog ac yn bwrw ambell gawod drom. Sion Morris wedi bod y Nghaernarfon yn nol 14 o Fattia. Y lleill yn lladd gwair yn Caegronw ucha Wm. Prisiart Ereiniog yn dwad a Llythur imi oddiwrth Mr. Lloyd Penyglanne  Robt. Thomas Caecoch yn dwad a Hwch yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod lled dwl yn y boreu, yn bygwth bwrw at ganol dydd sychu'n dda at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl yn y boreu, sychu'n dda at y Prydnhawn. Yn darfod lladd gwair yn Caegronw ucha erbyn Ciniaw, ac yn dwad i'r weirglawdd ucha'r Tymawr i ddechreu lladd gwair. Sionun wedi bod a Captan a'r Eboles yn yr Efail Sion Evan, yn mynd i ffordd wedi. Sion Hugh Drwsyrymlid yma yn gorphen talu ei Ardreth. Gwragedd o lawr y wlad yma'n pwyso'r gwlan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod niwliog ac yn bwrw peth gwlaw mân. Y Meibion yn lladd gwair yn Tymawr hyd amser ciniaw. Yn dwad i lawr wedi i wneud ffordd trwy'r Gelli fawr at y Beudy newydd. Dic wedi bod yn danfon y gwlan i Lanystumdwy Griffith Owen y Clenenney yma'n chwilio am fenthig [sic] a---n


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân. Y Meibion yn gwneud y ffordd trwy'r Gelli fawr at y Beudy newydd. Fi yn mynd y Prydnhawn i Benmorfa at Mr. Williams y Stiward. Robt. Thomas y Caecoch yn dwad ac Ebol dwyflwydd yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod gwresog mwll. Yn lladd gwair y Morfa bach, yn troi gwair yr hên Forfa a Morfa'r garreg, ac yn ei Fwdylu i gid cyn nos  Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl yn y boreu sychu peth yn y Prydnhawn. yn coccio gwair y Gweirglawdd ucha y Tymawr ac efo'r ffordd yn y Gelli fawr Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl yn y boreu sychu'n dda at y Prydnhawn. Y Meibion yn y boreu efo'r ffordd yn y Gelli fawr, yn mynd ar ol boreufwyd i'r Tymawr ac yn chwalu peth Coccia, yn mynd wedi i Gaegronw ucha yn troi'r gwair yno ac yn ei garrio i gyd. yn mwdylu'r gwair Coccio oeddem wedi danu yn Tymawr wrth dowd [sic] i lawr. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma wedi bod yn y Rhiwlâs


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl distaw yn tebygu i fwrw gwlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw weithia. Y Meibion yn Tymawr yn lladd gwair hyd hanner dydd, yn dwad wedi at y ffordd i'r Gelli fawr. Sion Morris yn mynd ar ol Ciniaw i godi Maengrisial. Gwas Robt. Jones Tremadoc yma'n nol y Gaseg ddu. Finau yn mynd ar ol Ciniaw yno i nol ei harian


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl yn y boreu yn sychu'n dda at y Prydnhawn Y Meibion y boreu efo'r ffordd yn Gelli fawr, yn mynd o gwmpas dau o'r gloch i'r Tymawr i danu coccia'r weirglawdd ucha, yn ei drin ac yn ei fwdylu. Sion Morris yn Codi Maengrisial


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod gwresog iawn yn y boreu, yn dylu at ganol dydd ac yn niwlio at y Prydnhawn ac yn gwlitho peth. Yn mynd i boreu i'r Tymawr i'r ladd gwair, o gwmpas naw o'r gloch yn mynd i danu mwdyla i'r Weirglawdd ucha'r Tymawr, yn troi peth o'r weirglawdd isa. yn mynd wedi i ladd peth gwair, yn tyru'r Gweirglawdd ucha erbyn Ciniaw ac yn ei charrio erbyn Prydnhawnbryd yn mynd wedi i orphen lladd y Gwair yn Tymawr Wil Sion yn mynd ddau o'r gloch y boreu i Gwmystrallyn i nol Mari Tomos at Elin oedd yn meddwl ei bod yn mynd sâl. Morris Jones Tremadoc wedi bod yma efo'r nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod niwliog mwll ac yn bwrw peth gwlaw mân weithia, Y Meibion yn lladd gwair yn yr hen Forfa, ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i ddechreu gwneud Cadlas wair yno. Dydd Gwyl Swithin Elizabeth Roberts Tynlone yn dwad yma efo'r nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod teg ac yn sychu'n dda'n y boreu, Yn carrio llawer o wair y Weirglawdd isaf r Tymawr, Owen Roberts Tynlone yn dwad yma y ddau yn mynd adref efo'r nos. Fi heb fod yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Yn lladd gwair yn yr hen Forfa hyd amser Ciniaw yn mynd wedi i'r Tymawr ac yn gorphen carrio'r gwair yno i gyd erbyn Prydnhawnbryd yn myndwedi i'r hen Forfa i fwdylu gwmpas ei haner


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych teg. Seren wedi dwad a llo gwyn i gid [sic] ond ei ben


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych teg. Yn darfod lladd gwair yr hen Forfa ac yn dechreu yn Morfa'r Garreg, ar ol Ciniaw yn dechreu carrio gwair yr hen Forfa ac yn ei garrio i gyd ond ychydig a laddwyd y boreu heddyw [sic]. Gutto Owain o Bortreuddyn fy Nghefnder yma wedi dwad adref neithiwr wedi bod oddi cartref saith mlynedd ar y Mor


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod teg gwresog. Y Meibion yn lladd gwair Morfa'r garreg ac yn dechreu yn y Morfa glover. Y Merched yn tynu'r gwair oedd heb ei garrio yn yr hên Forfa. Ci bach yn dwad yma oddiwrth Mr. Owen Aberglaslyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod teg gwresog. Elin yn mynd yn sâl yn geni'r Bachgen bâch o ddeutu haner awr wedi pedwar o'r gloch yn y Boreu Dic wedi bod yn cwmystrallyn yn nol Mari Tomos, yma mhen cwmpas awr wedi ei eni. Y Meibion yn lladd gwair yn Morfa'r glofer hyd agos hanner dydd. yn mynd wedi i garrio gwair yr hen Forfa a'r rhan fwyaf o forfa'r garreg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod teg gwresog. Yn darfod lladd gwair Morfa glofer, ac yn dechreu tyrru peth yno. Sionun wedi bod yn Tynlon.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl tebig i wlaw yn y boreu, clirio at hanner dydd a gwresog Yn tyrru gwmpas hanner gwair Morfa'r Glofer y boreu, yn mynd wedi i orphen carrio gwair Morfa' Garreg, ac i garrio tyrra o Forfa'r glofer, yn mwdylu peth yno: Geneth o Langybi yn dwad a thri o Hwyad yma, dylu at yr hwyr Fi heb fod yn y Farchnad. E. Griffith Llangybi yn dwad yma efo'r nos o Gaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod cymylog a gwresog. Yn dechreu lladd gwair yn y Morfa bach y boreu, yn tanu mwdyla yn Morfa glofer, yn mynd wedi i ladd gwair hyd amser Ciniaw. Yn mynd wedi ac yn carrio gwair Morfa glofer i gyd. Wm. Owen y Gwyndy yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl sych. G. Williams Caeddafydd yma Morris Jones y Siopwr ai Wraig yma yn y Prydnhawn. Mari Tomas Cwmystrallyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax