Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
26/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl yn taflu rhai dafnau gwlaw weithia. Yn darfod lladd gwair yn y Morfa bach erbyn boreufwyd, yn lladd y gwair rhaffa yn mhen isa i Hendratyfi a'r Gelli bach yn mynd wedi i ddechreu i Gae'r hendra. Twm wedi mynd a phwn o Haidd i Felin Tanrallt iw falu. Yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i dyru [dyrnu?] ac i garrio 'chydig mwy na haner gwair y Morfa bach


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych teg. Yn darfod lladd gwair Cae'r Hendra a Buarth tan Derwen, yn troi gwair pant Cae'r Hendra. Y Cyweiriwrs yn mynd i dyru hynu o wair oedd yn y Morfa bâch ar ol Prydnhawnbryd. yn lladd gwair penucha Hendratyfi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod gwresog. Yn dechreu lladd gwair y Gelli wastad y boreu ar ol boreufwyd yn mynd i'r Morfa bach i garrio hynnu o wair oedd yno, yn ddwâd i rengcio gwair Cae'r hendra ac yn ei garrio i gyd ar ol Ciniaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych gwresog. Yn darfod lladd gwair y Gelliwastad penucha'r Buarth gwyn, y Caemain ac yn dechreu yn yr Henerw. Sionun wedi bod yn Tynlon yn nol dyniewad Tarw. Owen Roberts yma yn y Prydnhawn ac yn prynu dwy Anner ac Eidion


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod gwresog. Yn gorphen lladd gwair yr henerw a phen isa Cae'r hendra erbyn boreufwyd. Yn mynd wedi i dyru Hendratyfi, Buarth tair Derwen a'r Gelli wastad, yn dechreu Carrio o gwmpas unarddeg, ar ol eu carrio yn tyru gwair y Buarth gwyn a'r Caemain ac yn eu carrio. Diwedd cael Dâs y Beudy newydd Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/7/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl mwll. Yn lladd gwair y ddau gae lleppa erbyn ciniaw Yn mynd ar ol Ciniaw i wernclowna i ddechreu lladd gwair, yn dwad i lawr o gwmpas dau o'r gloch ac yn carrio gwair yr Hen erw, y Cae lleppa isa a'r ucha erbyn cwr-[?] o'r nos. Dyn yma oddiwrth Wm. Jones Bwlch y Moch ddiwrnod am fenthig Tarw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod gwresog. Fi yn lladd neidr ddu wrth glawdd y Brynmagl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llyn. Diwrnod dwl mwll. Yn darfod lladd gwair Gwernclowna erbyn Ciniaw yn mynd wedi i Gae tycoch i lladd gwair. Yn dwad i fwrw gwlaw rhwng dau a thri o'r gloch o'r Prydnhawn. Y Meibion yn mynd wedi i roi to ar y Darau[?] ar ol darfod tri yn mynd i gaegronw i wneud pen y Das, a'r lleill yn mynd i roi Mydyla yn y Ty gwair.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl mwll, cymyla duon ac yn bwrw peth weithia o wlaw Taranau Yn darfod lladd gwair y Cae tycoch erbyn Ciniaw, yn mynd wedi i ddechreu lladd gwair i'r Weirglawdd ucha. Robt. Dyn o'r Garn Dolbenmaen yn dwad  a dau alwyn o Gin yma o Gaernarfon. Mrs. Jones y Siop a Mrs. Captain Prichart y Gomer yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl mwll. Yn darfod lladd gwair erbyn Ciniaw Wil Sion, Sion Morris a Robt. Griffith yn mynd i wneud pen Dâs gwair yr hen Forfa. Y lleill yn mynd a Brwyn at Ddâs gwair Caegronw. Gwlaw trwm iawn yn y Prydnhawn Y Meibion yn mynd wedi i wneud rhaffa Sion Hugh yn Ymadael


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod mwll dwl ac yn bwrw ambell gawod drom. Wil Sion a Sion Morris yn toi ac yn rhaffio dâs gwair Caegronw erbyn Ciniaw, yn mynd wedi i wneud rhaffa Dic a Robt. Griffith yn tori brwyn yn y Morfa. Wil Sion a Sion Morris yn mynd yn y Prydnhawn i dorri anialwch efo chloddia'r Caea gwair. William Roberts y Doctor yma'n nol Eli glâs. Gwas Cae Eithintew yn dwad yma ar ei ol wedi brifo. Geneth o Langybi yn dwad a hanner dwsin o Hwyad yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod fechan, Y Meibion cyn boreufwyd rhai yn cau rhwng Brynmagalar ffordd y lleill yn carrio to at ddâs Morfa Glofer Yn mynd wedi i hel yr Wyn iw diddyfnu yn gyru pedwar ar bymtheg a thriugain i Allt y Tymawr. Yn mynd wedi i wneud pen dâs yr hen Forfa a'r Morfa Glofer Fi heb fod yn y Farchnad!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion cyn boreufwyd rhai yn Toi Dâs yr hen Forfa a'r lleill yn drwsio Dâs yr hen Erw. Yn mynd wedi i droi gwair y Weirglawdd ucha, Cae'r ty coch, a Gwernclowna, yn ei garrio i gyd ond gwair Gwernclowna erbyn deg o'r gloch, yn mwdylu peth o hwnnw pan ein daliodd gwlaw, a gadewyd y llall ar led. Sion Morris yn ymadael.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl mwll, yn dwad i fwrw gwlaw yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod teg yn y boreu, yn bwrw rhai Cawodydd bychain o gwmpas pedwar yn y prydnhawn. Y Meibion hyd amser Ciniaw yn carrio brwyn o'r Morfa at y Beudy newydd, yn mynd ar ol Ciniaw i danu ac i droi peth gwair yn Wernclowna ac yn carrio peth, gwlaw yn ein curo i lawr at brydnhawnbryd yn mynd wedi i nol llwyth o frwyn at y Beudy newydd. yn coccio gwair Wernclowna efo'r nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod teg mwll. Wil Sion a Robt. Griffith yn Toi Dâs gwair yr hen Forfa erbyn ciniaw. y lleill yn tanu gwair Wernclowna - Y Cwbl yn mynd yno at ei garrio, yn carrio peth, gwlaw yn eu curo i lawr cyn iddynt ddarfod, yn mynd wedi i wneud rhaffa. Gwas bach y Tynlon yn dwad a Llythur yma i ddweud fod y Bachgen bâch wedi Marw er wyth o'r gloch nos Sul


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod teg mwll Y Meibion yn dechreu toi Dâs gwair Morfa glofer yn mynd wedi i Wernclowna i danu mwdyla ac yn ei garrio i gid Diwedd cael y Gwair Cynhauaf da hynod. Fi wedi bod yn Tynlon y Nghynebrwng y Bachgen bach


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod teg mwll, Y Meibion yn darfod Toi Dâs y Morfa glofer erbyn boreufwyd. yn mynd wedi i wneud pen Dâs y Beudy newydd. Neli wedi mynd adref Dic efo gwâs Portreuddyn yn cau rhwng y ddau Forfa ar ol Prydnhawnbryd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod teg mwll ac yn bwrw ambell gawod o wlaw brâs a chenllysg  Yn gwneud pen Dâs y Beudy newydd cyn boreufwyd. Robt. Griffith yn dechreu ei Doi. Will Sion a Dic yn trwsio Dâs y Beudy ucha. Elizabeth Roberts Tynlon ucha yn dwad. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Mr. Evans Trafaeliwr o Gaer yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl a gwlaw trwm efo'r nos. Y Meibion rhai yn tori Anialwch y lleill yn trwsio ac ynn gwneud pen Dâs y Beudy ucha ac yn ei Doi Yn darfod toi y gwair i gid. Robt. Griffith yn ymadael. Elizabeth Roberts yn mynd adref. Dafydd Dafis Tyn y Mynudd isa yn gweithio yn twll y Maen grisial


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych teg. Dic wedi bod y boreu yn cau rhwng gallt y Tymawr a Gallt Hendrahowel. yn mynd ar ol boreufwyd i'r Mynudd i chwilio am Wyn oeddwn wedi fino [?] gael y diwrnod o'r blaen. Fi efo Sionun wedi bod yn danfon'r Eidion a dwy Anner i Benmorfa i gyfarfod  gyrr Owen Roberts


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod sych mwll. Y Meibion yn tori Anialwch. Owen Roberts Tynlon yn galw yma wrth i'r Gyrr Gwartheg fynd heibio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod claiar dwl yn bwrw ambell gawod drom ac un Daran Y Meibion yn tori Anialwch. Owen Roberts yn dwad yma wrth fynd adref, yn Ciniawa yma. Tomas Bryn'r Hydd yn mynd efo fo adref. oedd wedi yma ddoe


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau diwrnod dwl sych mwll. Y Meibion yn tori Anialwch yn y Cae glâs a Chae'r Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax