Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
20/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân yn y boreu, mwll iawn  Y Meibion yn tori anialwch yn Blaenycoed, wedi bod ar ol boreufwyd yn y Mynudd yn hel wyn oedd wedi diengyd o allt y Tymawr. Ffair yn Penmorfa. Fi heb fod yno!! Mam yn dwad yma o Bwllheli. Geneth Robt. Charles Tynrallt yn danfon Esgidia imi wedi ei gwadnu ai gwisgo.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod sych mwll. Y Meibion yn darfod tori anialwch. Dafydd Dafis Tynymynudd isa yn gweithio yn Twll y maen grisial yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod sych gwresog. Fi yn cael rhybydd i fod yn Nghaernarfon erbyn naw o'r gloch boreu y foru [sic] yn rheithiwr enwedigol ar achos rhiw rai


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych gwresog. Fi yn Cychwyn i Gaernarfon bump o'r gloch y boreu i'r Sesiwn. Y Meibion yn dechreu tori peth Haidd yn morfa'r Goedan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych gwresog. Dic wedi mynd i gau rhwng Caegronw ucha a'r Gorllwyn. Wil Sion yn tori Ceirch yn buarth yr hên Erw. Fi wedi bod yn Penmorfa efo Mr. Williams y Stiwart. Yn Darllaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod sych gwresog. Yn darfod tori Ceirch Buarth yr hen Erw ac yn tori peth yn Hendratyfi. Dic yn cau o gwmpas y mawn yn Caegronw ucha. Fi wedi bod yn Penmorfa efo Mr. Williams y Stiward ac yn ei ddanfon trwy'r Traeth. Mam yn mynd i Bwllheli


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych gwresog Yn Cneifio Pedwar ugain a phump o Wyn. yn mynd wedi i ladd Haidd i'r Forfa'r Garreg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod sych gwresog. Cyn boreufwyd yn tori'r Ceirch yn y Bryncoch, yn tori peth wedi yn Cae'r hendra, yn mynd wedi i'r Morfa i dori Haidd  ar ol Prydnhawnbryd yn mynd i'r Morfa ac yn cynnull peth haidd. Modryb Tyddynygwynt ac Elizabeth Merch y Cefncynferch yma. Fi heb fod yn y Farchnad!!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn cynull Ceirch Buarth yr hen Erw y boreu yn mynd wedi i dori Ceirch Hendratyfi, o gwmpas dau o'r gloch yn mynd i'r Morfa i gynull Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod gwresog iawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod mwll wedi bwrw cawod rhwng pump a chwech o'r gloch y boreu, ac yn Taranu ymhell. Yn darfod tori Ceirch pen isa Cae'r hendra a hendratyfi cyn boreufwyd. Yn mynd wedi i Morfa'r Goedlan i dori Haidd. Lowri efo'r hogia yn cynull peth o Geirch Hendratyfi, Cae'r hendra a'r bryncoch. Mr. Owen Aberglaslyn yn galw yma. Mr. Caldicot Jones hefyd yn galw yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/8/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl mwll iawn, wedi noswaith drom iawn o Fellt a Tharanau neithiwr. Dic wedi bod yn cau rhwng Caegronw a'r Gorllwyn. Wil Sion yn cau yn y Morfa. Chwech Eidion at y gwanwyn, ac wyth o Loia rhai yn cael eu diddyfnu yn mynd i'r Morfa glofer i adladd. Robt. Wynne, Cefnucha yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod mwll iawn yn y boreu Gwres mawr at hanner dydd. Yn cymeryd y Degwm Yd gan Robt. Sion Hendrahowel am Bedair Punt a dau sswllt ar bymtheg a chwech cheiniog. Y Meibion cyn boreufwyd yn carrio anialwch i'w roi tan yr helmi yd, yn ol boreufwyd yn mynd i'r Buarth gwyn i dorri Ceirch hyd amser Ciniaw, yn mynd i'r Morfa i ddarfod tori'r Haidd erbyn Prydnhawnfwyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod gwresog iawn. Yn dechreu carrio Haidd o Forfa'r Goedan, Twm wedi bod a Denbi yn yr Efail yn gosod pedol, Yn carrio Ceirch Buarth yr Hen Erw a pheth o Geirch Cae'r Hendra. Robt. Thomas Cae coch yn dwad a dau Lô yma, Yn bwrw cawod o wlaw Taranau o gwmpas hanner dydd. Yn troi'r Drol gyferbyn a ffolt [sic] y Moch efo llwyth o Yd efo'r nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl mwll iawn wedi goleuo mellt lawer neithiwr. Wil Sion yn y boreu yn tori Ceirch yn y Buarth gwyn, ar ol Boreufwyd yn mynd i'r Morfa'r Goedan i godi Haidd. Dic yn y Mynudd yn ymgeleddu Defaid oedd yn pryfedu ac yn chwilio am wyn gwlanog. Fi heb fod yn y Farchnad! Yn carrio Ceirch y Bryncoch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl mwll ac ynbwrw ambell gawod. Twm wedi bod a Denbi a Capten yn Efail Sion Evan  Dic a Wil Sion yn tori Ceirch yn y Buarth gwyn Wil wedi bod yn trwsio'r helm haidd. Yn mynd ar ol prydnhawnbryd i'r Morfa'r Goedan i droi Haidd. yn mynd wedi i gynull Ceirch i ben isa Cae'r hendra


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl lled wyntog ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod cymylog cawodog. Y Meibion cyn boreufwyd yn gwneud rhaffa. yn mynd wedi i'r Morfa'r Goedan i droi Haidd ac yn gafrio peth, pan y daeth yn gawod drom, a daethom i fynu i nol Ciniaw. Yn mynd wedi i Forfa'r Goedan i orphen troi'r haidd, ac wedi yn dechreu ei Afrio, yn darfod ei afrio i gid erbyn un o'r gloch y boreu, Griffith Evan efo mi yn cymeryd y Cerrig i'w codi at Feudy'r Morfa am bedair Ceiniog y llath


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod cymylog gwyntog yn sychu'n dda. Wil wedi bod y boreu yn morfa'r Goedan yn codi gafrod Haidd. Dic a Harri yn troi Ceirch pen isa i'r Buarth gwyn, ar ol boreufwyd Dic yn mynd at glawdd y Reiniog i ymgeleddu llwdn oedd a'r pryfaid ynddo. Wil Sion yn mynd i'r Weirglawdd ucha i ddechreu lladd Ceirch, ar ol Ciniaw yn mynd i garrio Haidd o Forfa'r Goedan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl distaw mwll. Y Meibion cyn boreufwyd yn chwalu ystylia yn Cae'r hendra a hendratyfi ac yn dechreu cynull ceirch y Buarth gwyn, yn mynd wedi i garrio haidd yn darfod erbyn Ciniaw. Cawod o wlaw drom at Un o'r gloch pan gwlychodd yn drwm wrth nol yr Ydwellt haidd o'r Morfa, gwlychu'n ddwys trwy'r Prydnhawn. Yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i'r weirglawdd ucha i dorri Ceirch, yn dwad i lawr rhwng pump a chwech o'r gloch i drwsio'r helmi Haidd yn myd [sic] wedi i wneud rhaffa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl distaw claiar. Y Meibion y boreu yn gwneud rhaffa, ar ol boreufwyd yn gwaedy'r [sic] Gornfelan a Moelan ac yn rhoi ffisig yddynt [sic] iw hespio at eu troi i'r adladd. Y Meibion wedi yn mynd i'r Weirglawdd ucha i dori Ceirch  Yn tori ceirch y llain hir. Darfod tori'r Ceirch. Elin Jones y Morfa bychan yma. Thomas Jones Bryn'r hydd yn dwad yma o Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl mll [sic], Wil Sion Cyn boreufwyd wedi bod yn gwneud rhaffa a Dic wedi bod efo Robt. Sion Hendrahowel yn Cau. Yn mynd wedi i ddechreu medi Gwenith i Forfa'r Garreg. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Cawod drom o wlaw Tranau yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl ac yn dwad yn ddryghin at y Prydnhawn Y Meibion yn darfod tori'r gwenith, yn dwad a llwyth ohono i fynu yn mynd a dau lwyth o Geirch o Gae'r hendra ac un o Hendratyfi i'r Ysgubor. Gwas Morris Jones y Siopwr yn dwad a hanner Baril o Borter yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod cymylog sych


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl gwyntog yn sychu'n dda, yn gorphen dwad a'r Gwenith a'u wneud yn helm erbyn boreufwyd, yn mynd wedi i droi Ceirch y Buarth gwyn, a cheirch y weirglawdd ucha a'r llain hir, ac yn eu cynnull i gid. Diwedd Cynull y Ceirch am Eleni


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax