Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
30/5/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod gwlawog budr. Griffith Jones Tailiwr yn dwad yma. RobtThomas Caecoch yma. Thomas David yn y graig yn codi maen grisial. Y Buchod yn mynd ir Morfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/5/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod lled oer. Meibion a mina yn tynu Cerrig o’r gelli fawr ac yn gorphen y wal yn y drws  Dic wedi bod a Jack yn yr Efail ac yn dwad a gefail chwynu oddiyno.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod gwyntog oer. Y Meibion yn chwynnu’r yd  Fi wedi bod yn y Dre. Dic yn mynd yno i nol Triugain pwys o halen. Griffith Jones Tailiwr yn mynd i ffwrdd. Ffair yn Harlech


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod oer Cawodog. Fi efo Will yn hau Llysiau Cochion yn y gwenith yn y Morfa  Guto yn cau bwlch yn clawdd y Mynudd [sic] Ty Mawr  Buwch Robt. Griffith Prenteg yma efo’r Tarw. Elin a  minau yn mynd i Dremadoc. Yn prynu het newydd. Y Ceffyl yn dyfod i’n nhol ni adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod gwyntog. Will yn chwynu esgill o’r Gwenith y lleill yn glanhau cadles y Beudy ucha. Griffith Caerwych yn dwad a chaseg Wm.Poole Peithill Sir Aberteifi yma iw chadw tra byddai yn cael ‘stalwyn. Ellis Williams Cefn bifor yn dwad yma i chwilio am fenthig y cwn at genawon Llwynog oedd y ngallt Ty ucha Cwmystrallyn. Fi yn mynd efo ef yno ac yn lladd un. yn dyfod adref erby [sic] saith o’r Gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod gwyntog oer iawn ac ystyried yr amser ar y flwyddyn.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod Dwl claiar. Fi efo Will yn torri pump o bolion derw. Fi yn tynnu Clorenod newyddion! Wm Owen Cwm mawr yma yn yspaddu yr Ebol Coch. Yn bwrw gwlaw trwm yn y Prydnhawn. Richard Humphrey Ynuspandy isa yma yn i mi arwyddo papurau iddo gael arian yspail ar ol ei ddau frawd oedd wedi bod ar Longau rhyfel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod dwl gwyntog lled oer. Will yn settio’r cloddia Dic yn mynd a Thelaid o Wenith i Felin rhydbenllig i’w falu. ac yn mynd a Denby i Faich y Saint at Ystalwyn. Elin a minau yn mynd i Langybi at Gymanfa yr Ymneullduwyr sydd yn cael ei chynal yn y Capel helig Dydd Mercher a dydd iau nesaf.    Degwm blith yn cael ei osod 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Gwyntog a lled oer


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod gwyntog lled oer. ac yn bygwth bwrw gwlaw yn y boreu. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Diwrnod gwyntog ac yn bygwth bwrw gwlaw. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg lled wyntog Y Meibion yn gorphen Carrio mawn ac yn palu rhwng Pytatws. Richd. Thomas Penmorfa yma ar riw neges. Robt. Thomas yn dwad a chywion colomenod yma o Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod oer ac yn bwrw gwlaw oer...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod teg ond y gwynt yn oer. Soseiat fisol yn y Penrhyn will yn mynd yno y lleill yn palu rhwng y pytatws. Robt. Thomas yn mynd adref. Harry Owen Tyddynadi yma. ac yn cael ei siomi o herwydd ein bod heb hel y defaid. Guto wedi bod yn y Dref yn ymofyn hanner Baril o Borter. Y Buchod yn mynd i flaen y Coed. y gwartheg eraill yn mynd i’r Morfa. ar ddau eidion gwerthu yn mynd i’r Caeglâs


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod dwl. Yn cneifio torra, ac yn nodi Pedwarugain o wyn. Harry Owen Tyddunadi [sic] yma yn prynu tri ar hugain o Fyllt am Bedwar swllt ar ddeg a chwech cheiniog y pen. Guto a Sion Morris yn eu danfon yno. Dic yn mynd a Denbi i Fraich y Saint at y ‘Stalwyn. Baili Wm.Williams Carnarvon yma o achos un Wm. Francis oedd wedi cymeryd dynes sydd ar y Plwy yma i’w chadw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

[13 sic] 14 Dydd Mercher.  Diwrnod teg. Fi yn gwneud bocs Colomenod. Y Meibion yn palu rhwng bytatws. Mam yn mynd i’r Gesail. Fi yn mynd i’r Dre ac yn prynu defnydd Clôs a Siacad. Yn dwad i fwrw gwlaw y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod teg Claiar. Will yn torri esgill yn y Morfa Guto yn torri Mieri yn yr hên erw. Dic wedi mynd i’r Dremadoc i nol Paint...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Diwrnod Claiar hynod ac yn bwrw gwlaw mân trwy’r dydd. Fi yn paintio Dôr y Ty a Dorau eraill. Y Meibion yn torri anialwch yn yr hên Erw. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg Claiar. Dic yn mynd a Maen grisial i fynd i Mrs. Williams Dolgelley  Gwen geneth Richd. Thomas Penmorfa yma ar neges iw Thâd... Y meibion yn palu rhwng pytatws y moch ac yn mynd ar ôl Prydnhawn bryd i gau bwlch rhwng caea porfa a’r Caea gwair Ty mawr. Jane Roberts Pentyrch yn mynd adref efo John Rowlands yn cael gwenith yn dechreu Ehedeg yn y Morfa

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod teg gwresog yn y boreu. Fi yn mynd llan. Yn dyfod yn ddiymdroi. gwlaw trwm yn y Prydnhawn  Will a guto wedi mynd trwy’r Traeth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod dwl gwyntog. Yn golchi’r Defaid. Dic y neu cadw yn y Garn. Will yn mynd a hên Bladuriau i’r Efail i’w trwsio   Griffith Jones Tailiwr Tremadoc yn dyfod yma. Gwlaw trwm dryghinllid y Prydnhawn, er peri anghysur mawr i lawer ag oedd wedi golchi eu Defaid yn y boreu i ddisgwyl hîn deg. oedd wedi aros wythnos ymhellach o ran oerdeb yr hîn. nac y byddid arfer aros flwyddyn arall


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  bwrw gwlaw yn y boreu ac yn deg brâf y Prydnhawn. Y Meibion yn tynu cerrig at ac yn trwsio’r clawdd o gwmpas y Ty gwair y Ty mawr. Fi yn gwneud grisia i fynd iddo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod teg braf. Yn cneifio. Y Degymwr yn codi’r Degwm yn cael naw o Wyn. troi’r Maheryn i allt  Ty mawr tri cwplws. John Hugh Drwsyrymlid yma yn gorphen talu ei Rent. pump o gywion gan y Dyrcan felau[?] [Gweler 25/5/1820  "Yn rhoi’r Dwrcan i eisde yn Llaethdy"] ...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod claiar budr a niwlog.... Owen Robert Tinllwyd yma yn nôl Hobad o Wenith i’r Parchg Mr Williams Person Trawsfynydd. Y Meibion yn codi at y Pytatws. Fi yn gollwng Pedair hanner rhâff rawn efo Dic.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod teg Claiar. William Owen Gwyndy yma . owen Williams Caerwych yma yn nol Caseg Wm. Poole Peithill Sir Abertei fi Fi yn mynd efo fo i’r Dre i’r Farchnad. Yn dweyd i mi pa sut i yspaddu Ceffyl a fyddai heb ond un garreg wedi dod i lawr. sef teimlo yn y Cwd ac y ceid clywed yn lle y garreg chwarren ei verfio i ffwrdd ai adael felly, ac y deuai y garreg i lawr cyn pen y flwyddyn yna ei thorri i ffwrdd yn y modd arferol. Gwres mawr yn dechreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax