Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
14/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf ar hyd y dydd. Wil Sion y boreu yn codi Ystycia Ceirch. Dic efo Harri yn nol y pedwar Dyniewad o Gaegronw i'r Morfa. Yn mynd wedi i Forfa'r garreg i nol llwyth o frwyn at yr helmi, ar ol ciniaw yn mynd i dacluso yr Yd yn y Sgubor, yn mynd wedi i wneud rhaffa, gwlaw trwm yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod lled dwl yn sychu'n bur dda. Y Meibion cyn boreufwyd yn gwneud rhaffa, Wil Sion yn mynd i doi'r helmi Haidd. Fi wedi bod efo Dic yn cau o gwmpas Dâs gwair yr hen Forfa. Dic yn mynd wedi i'r Mynudd yn dal y maharen moel at ei ladd, ac yn mynd i allt y Tymawr at yr wyn ac yn cael un yn sâl o'r breid


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl yn y boreu ac yn sychu'n dda at y Prydnhawn  Wil Sion y boreu yn trwsio'r helmi haidd yn mynd wedi i raffio Dâs gwair y Morfa. Dic yn y boreu yn cau yn y Morfa yn mynd wedi i ddyrnu gael gwellt i wneud panelau. Fi yn lladd y Maharen moel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod sych teg. Y Meibion y boreu yn tynu penau yr ystyciau Ceirch yn y Buarth gwyn y Weirglawdd ucha a'r llain hir. Yn carrio Ceirch y llain hir a'r weirglawdd ucha. Fi heb fod yn y Farchnad!!


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl distaw mwll yn darfod carrio Ceirch y Buarth gwyn erbyn boreufwyd Diwedd cael yr yd. yn mynd wedi i nol llwyth o frwyn i'r Morfa ac yn gorphen toi'r helmi Haidd. Owen Roberts yn galw yma wrth fynd a'r Gyrr Gwartheg heibio, yn gwerthu pedair Dyniewad iddo yn cael dau ellyn ganddo. Fi wedi bod yn Tremadoc y Prydnhawn yn prynu ebillion cerrig. Dafydd Dafis yn gweithio yn twll y Maen grisial


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl sych Mr. Owen a Morris Jones ai Wraig yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod sych teg. Yn mynd a'r wyn o Allt y Tymawr i Gaegronw Y Meibion yn mynd wedi i wneud panela. Sion Hugh a Griffith Evan yn dechreu codi Cerrig at Feudy Morfa, yn ei gosod i Owen Owens iw tynu am wyth geiniog y llath


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl sych. Wil Sion yn rhaffio dâs gwair y Morfa Dic efo Twm yn dechreu Carrio Mawn o Gaegronw ucha. Robt. Sion Hendrahowel yn dwad a Diniewad gwrw [sic] yma oeddwn wedi brynu ganddo ddoe, ac yn dwad a llo gwryw i ffeirio am un Fanyw [sic]. Yn cael Esgidia newydd o Bwllheli. Sian Tomas Bwlchyfedwen yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod sych teg Yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn toi yr yd. Fi yn prynu Ffon Heddgeidwad gan Dafydd Hughes o'r Garn Dolbenmaen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych teg. Yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn darfod toi'r yd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych teg. Yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn darfod toi'r yd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw mân. Yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Ffair y Mhenmorfa. Fi wedi bod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl distaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Diwrnod sych teg distaw yn y boreu. Yn bwrw cawodydd o genllysg at y Prydnhawn. Wil Sion yn mynd a swch Aradr y Morfa i Efail y Dref ac yn mynd a phwn o Haidd efo fo i felin Tanrallt. Dic efo'r hogia yn mynd a dau bwnn [sic] o Frwyn i Gaegwnw [sic] at Doi y Mawn ac yn dechreu toi Dâs mawn Caegronw isa. Y Gwartheg hespionyn dwad o Gaegronw i'r Cae glas. Fi wedi bod yn Penmorfa mewn Festri


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod sych cymylog. Wil Sion yn dechreu Aredig i Wenith yn Morfa'r Garreg. Dic yn Caegronw yn Toi'r Mawn. Fi efo Robt. Sion Hendrahowel yn marcio Beudy'r Morfa. W. Evans Ty'n y Coed Abererch yn galw yma. Dic yn y Prydnhawn yn -eltio'r Clawddia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod gwyntog tebig i ddryghin, Wil Sion yn y Morfa yn Aredig Dic yn seltio'r clawddia, Fi wedi bod y Nghriccieth yn y Ciniaw Gwyl Mihangel.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/9/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod distaw mwll. Wil Sion yn Aredig yn Morfa'r Garreg Dic yno'r boreu yn tori esgill. Fi wedi bod yn Tremadoc yn disgwyl am Mr. Williams


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw trwm yn y boreu sych at y Prydnhawn. Wil Sion yn aredig yn morfa'r Garreg Dic yn dyrnu. Fi wedi bod efo Mr. Williams yr Ystiward yn Mhenmorfa ac yn Dolbenmaen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod gwyntog dryghinllyd. Wil Sion yn darfod Aredig yn Morfa'r garreg erbyn Prydnhawnbryd yn mynd wedi i wneud rhaffa. Dic yn dyrnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod drom


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl mwll. Yn dechreu gwneud cwttar i wneud Ffordd i fynd o'r Ffordd fawr i'r Morfa at y Beudy newydd yno Sion Hugh Cerrig y rhwydwr yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl distaw mwll. Dic wedi y boreu yn y Mynudd yn tro Maheryn i allt y Tymawr yn mynd wedi at y lleill at y Ffordd i fynd i'r Morfa. Robt. Sion Hendrahowel yn dechreu torri Sylfaen y Beudy yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl distaw claiar. Wil Sion wedi bod yn Criccieth yn nol Calch iw roi ar Forfa'r Garreg. Y lleill efo'r Ffordd. Owen Owens Portreuddyn yn dechreu tynu Cerrig at Feudy'r Morfa. Wil Sion ar ol dwad o Griccieth yn mynd efo'r Drol attynt i wneud y Ffordd, Gwlaw peth yn y Prydnhawn. Mr. Owen Aberglaslyn yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl distaw mwll iawn. Wil Sion efo'r Ceffylau efo'r Ffordd hyd haner dydd, yn mynd wedi i Griccieth i nol llwyth o Galch iw roi ar Forfa'r Garreg. Y lleill efo'r ffordd. Sion Hugh Cerrig y rhwydwr yn dwad a naw o benwaig yma oddiwrth Owen William


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/10/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl distaw mwll iawn. Y Meibion efo'r Ffordd yn y Morfa Fi yn Yspaddu tri Dyniewad. Yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax