Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
9/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl distaw wedi bwrw gwlaw dwys ar hyd y boreu. Y Meibion efo'r ffordd yn y Morfa. Wil Sion yn mynd ar ol hanner dydd i Griccieth i nol Calch iw roi ar Forfa'r Garreg
|
10/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl lled oer a lled wyntog o'r Dwyrain, ac yn dwad i fwrw'n drwm at y Prydnhawn
|
11/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl yn chwthu'n drwm iawn ac yn bwrw weithia. Y Meibion efo'r ffordd yn y Morfa hyd hanner dydd. Wil Sion yn mynd wedi i Griccieth i nol Calch i roi ar Forfa'r Garreg. Dic yn mynd i gau o gwmpas Cadlas y beudy ucha Fi wedi bod y Nghriccieth yn y Cyfarfod Ustusiad achos G Powel Bryntwr
|
12/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod gwlawog gwyntog yn y boreu, sychu at y Prydnhawn Y Meibion yn mynd y boreu at y Ffordd yn y morfa, dryghin yn eu curo. Wil Sion yn mynd i raffio'r helmi. Dic yn mynd i ddyrnu, ar ol Prydnhawnbryd Dic yn mynd efo'r hogia i ddwad a'r Wyn o Gaegronw i'r Caeglâs a llain deriadd[?] Fi yn gosod Ffordd oddiwrth ben draw i'r Ardd i Gae'r lloia i Sion Hugh a Griffitn Evan iw gwneud am dau swllt y rhwd
|
13/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod clir yn y boreu wedi rhewi peth neithiwr, yn dwad i fwrw eirwlaw trwm rhwng wyth a naw o'r gloch nes oedd eira cyn ised a Gallt y Tymawr sych at y Prydnhawn. Y Meibion efo'r ffordd yn y Morfa. Sion Hugh a Griffith yn dechreu'r Ffordd Yr ochr ucha i'r Ardd. Fi wedi bod yn y Towyn yn chwilio am goed at wneud Llidiarda ac heb gael yr un
|
14/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych dwl distaw. Y Meibion efo'r ffordd yn y Morfa'r boreu Wil Sion yn mynd y Prydnhawn i Griccieth y nol Calch iw roi ar Forfa'r garreg.
|
15/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych lled oer. Fi efo'r Meibion yn dechreu gwneud pentanau adwy ar y Ffordd sydd yn mynd i'r Morfa, ac yn carrio peth i'r ffordd
|
16/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod lled oer ac yn bwrw ambell gawod fechan. Yn Cneifio'r Mamoga saith ugain a deg, yn cael deg o thriugain o Fyllt a gwybodaeth fod rhai ar ol
|
17/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod clir Oer ac yn bwrw ambell gawod led drom. Fi wedi bod yn Aberglaslyn
|
18/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod lled fudur. Y Meibion yn tynu peth Cerrig at adwy'r Morfa ac yn carrio peth i'r ffordd. Wil Sion yn mynd wedi i'r Towyn i nol hanner Tunnell o Glo. Dic efo Owen Owens yn llwytho cerrig. Prentis Mr. William Jones Tyddyn Elen yn dwad yma erbyn boreufwyd Fi yn gwneud peth ar Bentan adwy'r Morfa. G William yma'n nol treth Tylodion
|
19/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl budr iawn. Wil Sion yn gwneud rhaffa. Dic yn Dyrnu Mr. William Jones Caemawr yn galw yma Fi yn mynd efo fo i Dremadoc
|
20/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl budr iawn. Dic yn dyrnu Wil Sion yn gwneud rhaffa ac yn rhaffio'r Yd. Fi wedi bod yn Penmorfa ef Mr. Parry Dolgelley.
|
21/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod sych dwl claiar. Wil Sion efo'r hogia yn trwsio Dâs y Beudy ucha Dic yn ei welu [sic] yn sâl
|
22/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl budr claiar. Wil Sion yn trwsio Dâs y Beudy ucha Dic a Twm yn carrio mawn o Gaegronw ucha Fi wedi bod yn Ffair Griccieth
|
23/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys claiar trwy'r boreu. Wil Sion yn gwneud rhaffa ac yn dechreu rhaffio dâs y Beudy newydd
|
24/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Y XIX ar ol y Drindod. Diwrnod dwl sych
|
25/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod o wlaw lled fudr. Y ddwy Fuwch dew o'r Tymawr i'r Caea lleppa a'r Caemain. Wil Sion yn rhaffio Dâs y Beudy newydd. Dic a Twm yn carrio mawn. Sion Moris yn dwad yma i ddechreu dyrnu
|
26/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dryghinllyd iawn hyd hanner dydd. Y Meibion yn gwneud rhaffa. Fi wedi bod yn Helwriaeth Beddgelert
|
27/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod gwlawog trwy'r boreu. Y Meibion yn gwneud rhaffa'r boreu yn mynd y Prydnhawn i hel to at drwsio hen Ddâs gwair y Morfa glofer. Mr Hugh Griffith Druggist Caernarvon yn dwad yma efo'r nos
|
28/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych. Wil Sion yn trwsio Dâs gwair y Morfa Glofer Dic yn carrio Mawn i Gaegronw ucha. Owen ac Elizabeth Roberts Tynlon yn dwad yma. Mr. Holland y Person yn dwad yma ac yn Bedyddio'r Bachgen bach ei enw William Robert Edwards
|
29/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl yn bwrw ambell gawod drom ac yn taranu peth Owen ac Elizabeth Roberts a Hugh Griffith yn mynd adref. Twm wedi a Jack a Captain yn yr Efail. Wil Sion efo'r Das gwair yn y Morfa Dic wedi bod yn y Ffarm Iard yn nol Eboles oedd yno wedi cael ei gwarcha, Fi gartref
|
30/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych lled oer wedi rhai Mellt a Tharanau trymion neithiwr. Wil Sion yn darfod trwsio Dâs gwair y Morfa. Dic a Twm yn carrio Mawn o Gaegronw ucha
|
31/10/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd
|
1/11/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd. Y Meibion yn gwneud rhaffa ac yn dechreu toi Dâs mawn Caegronw ucha. Dyn yn dwad a llythur oddiwrth John Lloyd Penglanna yma
|
2/11/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod niwliog heb fwrw llawer. Y Meibion yn darfod toi y Dâs Mawn ac yn rhoi mieri o gwmpas yr helmi Yd. Fi wedi bod y Nghaernarfon achos y Mynu--
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|