Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
28/11/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl lled ddryghinllyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/11/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl dryghinllyd gwyntog. Yn nol y llwyth cyntaf o Fawn o Ereiniog eleneni. [sic] Fi ar fedr mynd i Gynhebrwng Griffith William i'r Bettws fawr. Dryghin yn fy rhwystro. Nithio gwenith yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/11/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod gwlawog yn y boreu teg at y Prydnhawn. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Yn darfod nithio'r gwenith. Yn Mesur y Ffordd o bendraw'r Ardd i Geunant Cae'r lloia 24 o Rydau  Sion yn dechreu'r ffordd oddiwrth Llidiart Brynmagl at ben draw'r Ardd Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma efo'r hwyr. Fi yn cael Ystaus a phar o han-- Botysau i Elin yn mhen isa i Gae'r Hendra, a oedd wedi eu colli er cyn Calangaeaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod sych distaw, Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Sion yn twll y Maen grisial. Mari yn cael pâr o Gynfasa a phâr o Hosanau a B-- y Nghae'r Hendra oedd Elin wedi golli cyn Calangauaf [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod sych yn y boreu wedi rhewi'n galed neithiwr, yn dwad i fwrw Eira'n drwm iawn yn y Prydnhawn. Fi yn mynd i'r Glyn gowarch i edrych Coed at Feudy'r Morfa yn cysgu yno o achos i'r ddryghin fy rhwystro adref. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref. Y Meibion wedi bod yn reiniog yn nol llwyth o Fawn, Yn cael Crys Elin ar y silff yn y Gegin wedi dwad yno neithiwr, oedd wedi ei golli er cyn Calangauaf.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych distaw ac eira tew yn isel ar y Mynuddau wedi rhewi'n lled galed. Y Meibion wedi bod Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Fi yn dwad o'r Glyn gowarch heb fynd i'r Farchnad. Yn rhwyno'r lloia y Meudy'r Tymawr, yn rhwymo'r Buwchod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl distaw wedi rhewi'n galed neithiwr. Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Yn dwad i fwrw Eira'n drwm at hanner dydd  Mr. Owen Aberglaslyn yma'n y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl distaw wedi rhewi'n galed neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl yn y boreu, gwlaw a dryghinllyd iawn at y Prydnhawn  Dic a Robin wedi bod yn nol Siwrna o Fawn yn Caegronw, Wil Sion yn mynd a'r chwech Bustach i'r Morfa'r glofer, ac yn rhwymo'r ddwy Fuwch dew.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod cymylog lled oer, ac yn bwrw ambell gawod  Dic a Robin yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn torri Mieri yn y Bryncoch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl budr ac yn bwrw'n ddwys ar hyd y dydd. Dic a Robin wedi bod yn nol siwrna o Fawn o Caegronw. Wil Sion yn tori Mieri yn perth y Cae main. Dic yn lladd Dafad oedd yn Sâl. Harri Owen yma'n Edrych y Moch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl distaw. Fi yn mynd i'r Towyn i edrych Coed at Feudy'r Morfa Wil Sion yn dwad a'r Drol yno ar fy ol ac yn dwad a dau Fâc adref. Dic yn hel gwial


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

10/12/1824. Gwener.Diwrnod sych a distaw. Wil Sion wedi bod ynTywyn yn nol dau Fâc at y Beudy’r Morfa y lleill yn nithioHaidd. Yn mesur y ffordd oddiwrth adwy Bryn-Magl at bendraw i’r Ardd, ac yn gosod clawdd i’w wneud efo’rffordd oddiwrth y Ffordd fawr at y Beudy’n Morfa am bedair ar ddeg y rhwd. Robin yn mynd a’r Drol i’r dref at Robert Pritchard i’w thrwsio.




Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl distaw. Y Meibion yn puro'r Haidd. Robt. Roberts Tynyberllan yn dechreu lliffo at feudy'r Morfa. Fi wedi bod yn Ffair Harlech


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl distaw claiar. Gwen Williams Caeddafydd yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl distaw claiar. Yn hau gwenith yn y tir Cloron Buarth yr hen Erw, Robin wedi bod yn y Dref yn nol y Drol wedi bod yno yn ei thrwsio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod niwliog claiar ac yn b wrw peth gwlaw mân weithia. Fi wedi bod efo Wil Sion yn nol llwyth o bolion wrth Dalysarnau at Feudy'r Morfa. yn hau peth Gwenith yn y Tir Cloron Buarth yr hên Erw yn y Prydnhawn. Dic yn y Morfa yn agor ffôs


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych distaw Wil Sion a Robin wedi bod wrth Dalysarnau yn nol llwyth o bolion at Feudy'r Morfa. Dic yn agor ffôs yn yr hen Forfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd. Wil Sion a Robin wedi bod wrth Dalysarnau yn nol llwyth diwaethaf o'r Polion at Feudy'r Morfa. Fi wedi bod efo Dic yn y Beudy ucha yn parattoi lle i rwymo. Dic yn mynd wedi i hel gwiail. Yn rhwymo Gwartheg y Beudy ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn. Diwrnod dwl claiar. Wil Sion a Robin yn mynd a llwyth o Wair o Dâs yr hen Erw i'r Beudy newydd ac yn mynd a llwyth o Wellt i'r Beudy ucha. Dic yn hel gwiail hyd hanner dydd. Yn dwad hefo mi wedi a'r Moch i'r Dref iw pwyso - yn pwyso wyth gant ond un


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod dwl budr Fi wedi bod yn Aberglaslyn efo Mr. Owen.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl budr ac yn bwrw ambell gawod. Fi efo'r Meibion yn dechreu gwneud y gwtter ar nant Cae'r lloia.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd ac yn bwrw'n drwm y Prydnhawn. Y Meibion efo'r Gwttar yn Cae'r lloia. Fi wedi bod yn mhenmorfa yn y Festri. Dydd Gwyl St. Tomas.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dryghinog a gwyntog iawn. Y Meibion efo'r gwttar yn Cae'r lloia. Yn gosod Trainsia yn yr hên Forfa i Sion Hugh iw tori am Geiniog a dima y rhwd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/12/1824
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod teg distaw wedi bwrw peth eira neithiwr, Wil Sion efo'r gwttar y ddau arall yn carrio mawn o Gaegronw ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax