Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
24/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych oer gwyntog. Yn dwad a llwyth o Wair o'r Morfa i'r Stabal ucha ac yn mynd a llwyth o wellt o'r Sgubor i'r Beudy ucha. Fi heb fod yn y Farchnad
|
25/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl gwyntog. Dydd Nadolig Newydd
|
25/12/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl gwyntog. DYDD NADOLIG NEWYDD [sic. mewn prif lythrennau]
|
26/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod sych oer
|
26/12/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych oer
|
27/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl budr dryghinllyd. Y Meibion yn nithio. Cathrin Morwyn y Plant yn mynd i ffordd
|
28/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl distaw claiar. Yn darfod nithio, yn dwad a llwth o Wair o Ddâs yr hen Erw i'r Beudy newydd yn mynd wedi at y Ffordd wrth gwttar Cae'r lloia
|
28/12/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl distaw claiar. Yn darfod nithio, yn dwad a llwyth o wair o Ddâs [sic] yr hen Erw i’r Beudy newydd, yn mynd wedi [sic] at y Ffordd wrth gwttar Cae’r lloia
|
29/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod distaw teg wedi rhewi a barrugo'n drwm neithiwr. Dic a Robin yn carrio mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion efo'r ffordd wrth gwttar Cae lloia. Yn darllaw.
|
30/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl budr ac yn bwrw ambell gawod. Dic a Robin yn Cario Mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn darfod y ffordd wrth gwttar Cae'r lloia
|
30/12/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl budr ac yn bwrw ambell gawod. Dic a Robin yn cario mawn o Gaegronw ucha. Wil Sion yn darfod y ffordd wrth gwttar Cae’r lloia
|
31/12/1824 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl gwyntog iawn. Robin wedi bod a Jack a Captan yn Efail Sion Evan, y ddau eraill yn trwsio'r ffordd wrth y Beudy newydd. Fi heb fod yn y Farchnad gan anafod yn fy ngwegil Fy Ewythr Owen Edwards yn dwad yma
|
31/12/1824 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl gwyntog iawn. Robin wedi bod a Jack a Captan yn Efail Sion Evan. Y ddau eraill yn trwsio’r ffordd wrth y Beudy newydd. Fi heb fod yn y Farchnad gan anafod [sic. anaf] yn fy ngwegil Fy Ewythr Owen Edwards yn dwad yma
|
1/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn DYDD CALAN NEWYDD. [sic] Diwrnod dwl sych lled wyntog Yn mynd a llwyth o’r hen Wair y Morfa i’r Beudy ac yn dwad a llwyth o Wair i’r ‘stabal ucha. Y LLWYTH CYNTAF ERIOED A AETH [sic] hyd y Ffordd at y Beudy newydd. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yn mynd adref
|
2/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych lled oer
|
3/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych distaw yn y boreu, gwlaw trwm a Dryghin at y Prydnhawn Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Fi wedi bod yn NGHYNEBRWNG OWEN EVAN y Garreg Felan yn Ynyscynhaiarn
|
4/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl lled fudr. Wil Sion a Robin yn aredig yn Buarth yr hen Erw. Dic yn hel gwiail
|
5/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych distaw, wedi rhewi’n bur galed neithiwr Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn, ac yn mynd a mawn i’r Odyn. Fi wedi bod yn Brondanw yn edrych llechi at doi Beudy’r Morfa yn mynd yn yr hwyr i Dremadoc i edrych a oedd Mr.Williams wedi mynd i Benmorfa
|
6/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw’n ddwys at hanner [sic], Wil Sion a Robin yn dechreu teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caebanadl. Dic yn toi’r Dâs mawn wrth Dalcen yr Ysgubor. Fi wedi bod yn Penmorfa Diwrnod talu’r ardreth
|
6/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych gwyntog. Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caelleppa isa. Fi wedi bod yn Penmorfa ddiwrnod talu yr ardreth Evan Evans Cyffeithwr Crwyn [‘hide preserver’] o Bwllheli yn dwad efo mi adref. Ann Williams Caeddafydd yn dwad yma, William Dyn sydd yn gweithio mewn Clawddfa ar dir y Parc llanfrothon [sic] yma yn nol Arian
|
7/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Dwl budr distaw claiar. Yn mynd a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy ucha. Fi wedi bod y Mhenmorfa [sic]
|
8/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw sych, Yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y Beudy newydd. Fi wedi bod yn Cae’rnarfon
|
9/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod distaw sych wedi rhewi peth neithiwr
|
10/1/1825 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod gwresog mwll
|
10/1/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod distaw sych wedi rhewi peth neithiwr. Robin wedi bod yn Towyn yn nol deg pwn o Galch at Feudy’r Morfa, ac yn mynd a llwyth o’r hen wair o’r Morfa i’r Beudy ucha. Dic efo Sion Morris yn nithio
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|