Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
11/1/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod gwresog mwll. Yn dechreu lladd gwair y Morfa glofer Fi wedi bod yn yr Efail yn gwneud peth ar gliccied adwy'r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych distaw teg. Wil Sion wedi bod yn Brondanw yn nol dwy siwrna o lechi toi at feudy’r Morfa, -


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/1/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod gwresog mwll yn darfod lladd gwair y Morfa glofer ac yn dechreu yn Hendratyfi, ar ol Ciniaw yn mynd i droi peth gwair i'r Morfa glofer, yn gorphen carrio gwair y Morfa bach, ac yn mwdylu o gwmpas hanner y Morfa Glofer. Yn dylu ac yn dwad i fwrw gwlaw rhwng saith a wyth o'r gloch y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl distaw sych. Wil Sion wedi bod yn Brondanw yn nol dwy siwrna o lechi Toi at Feudy’r Morfa. Y lleill yn hel cerrig i lawr at glawdd Cadlas Beudy’r Morfa. Fi wedi bod efo John Nicols yn chwilio am ddrain iw planu [sic plannu] yn y clawdd sydd oddiwrth Feudy’r Morfa at y Ffordd fawr, oddiyno i Bwllheli ac i’r Tynlon y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/1/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl gwyntog ac yn bwrw gwlaw mân y rhan amlaf. Wil Sion yn codi at y Cloron yn Buarth yr hen Erw, y lleill cyn boreufwyd yn torri brwyn yn morfa'r garreg, yn mynd wedi i Gaegronw isa i wneud Mawn, gwlaw yn ein curo i lawr cyn Ciniaw. Yn mynd wedi i drwsio'r ffordd wrth yr Ysgubor. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod dwl distaw claiar. Wil Sion yn dwad a dwy siwrna o lechi Toi at Feudy’r Morfa o Frondanw, y lleill yn y Graig yn gyrru Cerrig i lawr. Fi yn dwad adref o’r Tynlon John Hugh Drwsyrymlid yma’n talu ei ardreth [OE oedd perchennog Drwsyrymlid]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/1/1825
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl yn y boreu yn clirio ac yn sychu'n dda at hanner dydd  Wil Sion, Sion Hugh a Harri yn cau'r Trainsia hyd amser Ciniaw, yn mynd wedi i -enge droi hynnu o wair oedd ar lawr yn y Morfa glofer ac yn ei goccio y lleill yn Caegronw yn gwneud mawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod dwl distaw claiar. Yn mesur y gwaith cerrig Beudy’r Morfa Yn gyru’r [sic] Dâs Ceirch i mewn yn mynd wedi [sic] i aredig i Fuarth yr hen Erw. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. William Griffith o’r Ynusgaled [sic]yn dwad a Gâst Adara yma, oedd Mr. Hugh Griffith, Gwerthwr defnyddiau Meddyginiaethol y Nghaernarfon [sic] wedi ei rhoi imi. Yn mesur y  y [sic] gwaith cerrig Beudy’r Morfa. Robin yn danfon i Drol i’r Dref at Robt.Prisiart i roi siafft newydd iddi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw gwlaw lled ddwys at y prydnhawn. Yn aredig yn buarth yr hên Erw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych distaw claiar. Robin wedi bod yn Towyn yn nol Calch, yn mynd wedi i orphen Aredig Buarth yr hen Erw. Fi wedi yn [sic] Tremadoc 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych gwyntog ar ol dryghin trwm iawn neithiwr, Wil Sion wedi mynd i Lanllyfni at ei frawd oedd yn Sâl. Y lleill yn carrio [sic] cerrig at Feudy’r Morfa. Yn prynu Buwch gan Robt.Sion Hendrahowel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw’n drwm at y Prydnhawn Eira hyd bennau’r mynyddau [sic] Fi efo’r Meibion yn dechreu gwneud llawr Beudy’r Morfa. Y Fuwch a brynais gan Robt. Sion Hendrahowel yn dwad yma Robin wedi bod efo’r Ceffyla yn Ynuscynhaiarn yn danfon peth at Fedd Bachgen Morris Jones Siopwr Tremadoc. Gwas Melin Tanrallt yn danfon pwn o flawd yma oedd wedi bod yno yn ei falu –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod dryghinllyd oer. Y Meibion yn carrio Cerrig at lawr Beudy’r Morfa. Fi wedi bod y Nghebrwng [sic] Bachgen Morris Jones Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych distaw. Yn mynd a llwyth o Wair o’r Morfa ir Beudy ucha, a llwyth i’r Beudy newydd. Fi efo Dic yn gwneud llawr i’r beudy newydd. Magdalen Robins Cefncynferch yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth neithiwr. Wil a Robin yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Marchdy ucha. Fi efo Dic yn gwneud llawr beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n lled galed neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod distaw yn tebygu i ddryghin wedi rhewi peth neithiwr Wil Sion a Robin yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r Caebanadl Fi efo Dic yn gwneud llawr Beudy’r Morfa. Robt. Sion dechreu ei doi. Owen Roberts Tynlôn yn galw yma wrth fynd i Fethgelart [sic. Feddgelert]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod distaw oer ac yn bwrw ambell gawod o eirlaw, wedi rhewi’n galed neithiwr. Wil Sion a Robin yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y Beudy newydd. Fi efo Dic yn gwneud llawr Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd. Wil Sion a Robin wedi bod Ynhynebrwng [sic] eu brawd, Siani wedi bod yno Owen Roberts yn galw yma wrth fynd adref o Feddgelart [sic. Feddgelert]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd. Wil Sion a Robin yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y Beudy newydd. llo yn sâl yn Beudy’r Tymawr o’r Dolur bur. [sic. dolur byr: black quarter, black leg, quarter evil, a disease, esp. of cattle and sheep, which terminates fatally in a short time (lit. short disease).] Dic wedi bod yn Dref  yn ^nol ffisig iw roi iddo – yn dwad ag ef i lawr i Feudy Tyn y bwlch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod distaw dwl claiar. Wil Sion yn mynd a llwyth o Wair o’r Beudy Tyn y bwlch i’r Beudy ucha.a llwyth o Ddâs [sic] yr hen Erw i’r Beudy newydd Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl distaw clair [sic]. Yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y beudy newydd. Dic yn agor ffôs yn Morfa’r Goedan [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw mân


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/1/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl distaw. Yn teilo i’r Cae banadl oddiwrth y Beudy newydd Dic yn agor Ffôs yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax