Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
1/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw dwys. Yn dechreu Aredig yn y Cae banadl Dic yno’n chwalu tail. Drain gwnion [sic. gwynion] plan [sic] yn dwad yma a chant o Boplars plan [sic] oddiwrth John Nickols Abererch. Yn mesur y clawdd oddiwrth y Ffordd fawr at Feudy’r Morfa, Robt Sion yn darfod toi ochr Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod dwl y boreu dryghin trwm at y Prydnhawn. Wil wedi bod yn Brondanw yn nol llwyth o lechi toi at Feudy’r Morfa. Fi wedi bod yn Beddgelart [sic] y Nghynebrwng Sion Evan y Gelli


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod lled oer ac yn bwrw rhai Cawodydd lled drymion, Yn mynd i Aredig i’r Caebanadl yn tori’r swch yn mynd wedi [sic  wedyn] i deilo yno. Robt.Thomas y Caecoch yn dwad a dau FOCHYN Gadael yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod oer ac yn bwrw ambell gawod drom o Eira wedi rhewi’n lled galed neithiwr. Yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y Beudy ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod oer ac yn bwrw ambell gawod o eira wedi rhewi’n lled galed neithiwr. Yn teilo i’r Caebanadl oddiwrth y Beudy ucha. Dic yn carrio polion presebi at Feudy’r Morfa Sion Morris yn dechreu hwilio [sic] cerrig at glawdd yr ardd isa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL. Diwrnod distaw claiar. Eira’n isel hyd y Mynyddau


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd Yn nithio wedi bod yn cychwyn Aredig yn y Caebanadl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod distaw sych at y Prydnhawn wedi bwrw peth yn y boreu. Yn mynd a llwyth o Wair o Feudy Tynybwlch i’r Beudy ucha Dic a Sion Morris yn codi syntr [sic. suntur. deunydd yn gymysg o glai a cherrig man] wrth y ffordd at lawr Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod distaw claiar. Robin wedi bod yn y Caecoch Rhôslan yn nol teils iw rhoi ar Feudy’r Morfa. Fi efo’r lleill yn rhoi carreg i ddal Llidiart ar adwy Morfa ac yn tynu rhai Cerrig at Feudy’r Morfa. Yn mynd a phwn o Haidd a Gwenith i Felin Tanrallt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl distaw. Wil Sion yn Aredig yn y Caebanadl. Dic efo mi efo Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod dwl distaw. Yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd, ac yn mynd i aredig i’r Caebanadl. Fi wedi bod yn y Farchnad Yn darfod Toi BEUDY’r [sic] Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dwl distaw claiar. Yn Aredig yn y Caebanadl. Sion Morris a Dic yn ceibio syntur [sic. suntur]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod distaw claiar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Llun Diwrnod distaw sych teg. Yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudy newydd, ac yn mynd i Aredig i’r Caebanadl. William Owen yma n lladd y ddwy Hwch, Yr hen wyl Fair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod dwl distaw yn bwrw peth yn y Prydnhawn. Yn aredig yn y Caebanadl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod dwl claiar distaw. Y Fuwch a brynais wedi dwad a llo rhwng naw a deg o’r gloch neithiwr. Yn aredig yn y Cae banadl. Dic yn agor ffos yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl budr yn bwrw’n drwm ar hyd y dydd. Y Meibion efo’r Drol yn carrio [sic] syntur [sic] at lawr Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych teg. Yn carrio [sic] peth Syntur [sic] at Feudy’r Morfa ddaliad y boreu, yn mynd ddaliad y Prydnhawn i Aredig i’r Caebanadl. Fi heb fod yn y Farchnad Sion Hugh yn palu’r Ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn. Diwrnod dwl claiar wedi barrigo [sic. barugo] neithiwr. Wil Sion wedi bod a chlwydad o Geirch i’r Odyn. Fi efo’r lleill yn gwneud llawr beudy’r Morfa Sion Hugh yn Planu [sic] Cloron yn yr Ardd ucha hefyd Ffâ


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod distaw dwl claiar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod distaw dwl claiar. Y Seiri Coed yn darfod y Beudy’r Morfa. Yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r beudy newydd yn mynd wedi [sic] i aredig i’r Caebanadl. Ellis Williams Cigydd Tremadoc yma’n edrych y Fuwch dew. Tomos Davies yma’n edrych y Bustych


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod distaw dwl. Yn Aredig yn y Cae banadl. Fi efo Dic yn darfod yn beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod dwl distaw Wil Sion wedi bod a Chlwydad o Geirch yn yr Odyn. Fi efo’r lleill yn tacluso o gwmpas Beudy’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod dwl distaw. Wil Sion yn Aredig yn y Cae banadl Dic yn Morfa’r trwyn y garreg yn torri brwyn. Robt.Jones y Bwlchbach yn foreu yn prynu’r gwartheg allan Yn rhwymo cyntaf erioed y Meudy’r Morfa [sic.”Meudy’r Morfa” mewn llythrennau bras]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/2/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod distaw dwl wedi rhewi’n lled galed. Yn aredig yn y Caebanadl. Dic yn cau efo Owen Owens yn mynd wedi [sic] i dorri brwyn i Forfa trwyn y garreg. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad – 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax