Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
26/2/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod distaw yn bwrw eira yn y boreu.yn ei droi yn wlaw at hanner dydd ac yn parhau trwy’r prydnhawn. Yn Aredig yn Caebanadl yn y boreu.yn curo eithin y prydnhawn Dic yn agor Ffosydd yn y Morfa –
|
27/2/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod niwlog yn y boreu. Clirio at y Prydnhawn
|
28/2/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod dwl distaw yn y boreu wedi barrigo [sic] a rhewi peth neithiwr.tebygu i ddryghin at y Prydnhawn. Y Meibion yn FELIN [sic] isa yn Silio. Dic yn sgwrio’r clawdd rhwng morfa’r Garreg a Morfa’r Goedan [sic]
|
1/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych distaw yn y boreu yn tebygu i ddryghin at y Prydnhawn Yn carrio Cerrig oddiwrth y Pistill [sic. pistyll] du at Gadlas Beudy’r Morfa, Dic yn ysgurio’r Clawdd [sic. sgwrio’r Clawdd: torri llysdyfiant ar glawdd] rhwng Morfa’r Garreg a morfa’r Goedan. Ellis Williams Cigydd o Dremadog yma’n prynu’r Fuwch dew. Fi wedi bod yn Mhenmorfa yn y Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Eifionydd er Cospi drwg weithredwyr. Ciniawodd 51 o’r Aelodau
|
2/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod distaw sych Yn darfod Aredig y Caebanadl. Fi wedi bod y Nghynebrwng [sic] Robt.Williams Carreg Crech
|
3/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod distaw sych Yn teilo oddiwrth y Beudy ucha, Yn gosod Llidiart ar adwy’r ffordd
|
4/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod lled wlyb yn y boreu wedi bwrw eira tew hyd y mynyddau Yn mynd a llwyth o wair o’r Tynybwlch i’r Beudy ucha yn mynd wedi [sic] i Deilo oddiwrth y Beudy ucha. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
5/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod distaw sych Yn rhoi helm Haidd i mewn ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd
|
6/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw peth ar hyd y dydd
|
7/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl distaw. Wil Sion a Robin yn carrio [sic] Mawn o Gaegronw ucha Ffair y Mhenmorfa [sic]. Fi yn mynd yno Dic efo mi a’r Gwartheg allan i Drefmadog [sic]
|
8/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn dwad yn wlaw at y Prydnhawn Robin wedi bod a’r tri Ceffyl gweithio yn Efail Sion Ieuan Pentre’r felin. Wil y Gorllwyn yn rhoi cyfri o’r Tyrchod daiar [sic] oedd wedi ei ddal pum dwsin
|
9/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod niwlog ac yn bwrw gwlaw mân ar hyd y dydd. Yn dechreu Aredig y llain hir, Yn nithio pwn o haidd i fynd i’r Felin
|
10/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod niwlog budr. Gwas Mr Ellis Brondanw yma yn nol arian am Lechi Toi at Feudy’r Morfa. Yn teilo oddiwrth Feydy [sic feudy] Tyn y bwlch i’r llain hir. Dic yn ‘sgwrio’r Clawdd rhwng morfa’r Garreg a Morfa’r Goedan
|
11/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod niwlog budr. Y Meibion i gid [sic. gyd] yn curo Biswail Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Oen bach cyntaf wedi dwad
|
12/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych. Yn hel y defaid. Harri Owen yn dwad yma ac yn prynu ugain o Famoga. Dic a Sion Morris yn eu Danfon i Drefmadoc [sic] yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Marchdy. Ellis Williams Cygydd [sic. cigydd] Tremadoc yma’n talu am Moelan y Fuwch dew. Yn rhy hwyr i fynd a hi ff[?]
|
13/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod dwl distaw sych. Cyfarfod ysgolion yn Trefmadog [sic]
|
14/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych oer. Yn Aredig yn llainhir. Dic yno’r boreu yn chwalu tail yn mynd wedi i orphen ysgwrio’r [sic] clawdd rhwng Morfa’r Garreg a Morfa’r Goedan. Evan Robert wedi bod yma’n nol y Fuwch (Moelan) dew i Ellis Williams Cigydd Tremadoc i’w lladd. Fi wedi bod yno yn ei hedrych yn prynu Brethyn i wneud siwmp [sic. ?], a deunudd Clôs yn Siop Morris Jones
|
15/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych oer wedi rhewi neithiwr yn lled galed. Yn Aredig yn y Weirglawdd ucha Dic yn caibio [sic. ceibio] yr lôn rhwng y ddwy ardd. Sion Morris wedi bod yn morfa Llanfrothon [sic] yn nol merlan oeddwn wedi brynu ganddo ddoe Siani wedi bod yn y Clenenney yn danfon peth at Wylnos Owen Humphreys
|
16/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
16 Mercher Diwrnod sych oer wedi rhewi peth neithiwr. Yn darfod aredig yn y Weirglawdd [sic] ucha, ac yn hau peth gwenith yn Buarth yr hen Erw, Dic a Sion Morris yn nithio ac yn puro haidd. Fi wedi bod yn NGHYNEBRWN [sic. cynhebrwng] Owen Humphreys y Clenenney y Nghriccieth, yn cael rhybydd [sic. rhybudd] i fynd i’r Sesiwn yno.
|
17/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych distaw. Yn dechreu teilo i’r Buarth gwyn [sic. y geiriau "dechreu teilo i’r Buarth gwyn" wedi eu croesi allan] mynd a cherrig i orphen clawdd Cadlas y Morfa. ac yn rhoi yr helm Haidd i mewn
|
18/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn debig [sic] i ddryghin yn y boreu teg at yr hwyr. Yn dechreu teilo i’r Buarth gwyn, Richard Jones yma’n prynu’r ymenun [sic. ymenyn], yn mynd i’r Farchnad
|
19/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych distaw. Yn teilo oddiwrth y Sgubor i Gaederwen Dic wedi bod yn danfon sachau i Dy Sion Francis i roi’r Ceirch hâd Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma. Sion Hugh yn planu bresych pys a ffa a chloron yn yr Ardd
|
20/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych teg
|
21/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod distaw teg sych. Yn darfod teilo i’r Buarth gwyn. Sion Hugh yn ail blanu [sic] drain gwnion [sic. gwynion] yn yr ardd ucha, yn planu [sic] Winiwns [sic] o dan y Celyn [Plannu o dan y celyn yn ffordd o atal llygod ac ati rhag mynd at hadau] Elizabeth Griffith yn mynd adref. YN DARLLAW [sic. mewn prif lythrennau bras]
|
22/3/1825 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych teg cymylog. Yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd a llwyth i’r Marchdy. Sion Hugh yn gorphen ail blanu’r drain gwynion yn yr ardd ucha, ac yn hau Moron cynnar yn yr hen lôn o dan y Celyn
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|