Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
23/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych oer gwynog. Yn aredig yn y Buarth gwyn Dic yno’n chwalu tail y boreu. Y Prydnhawn yn rhoi peth cloron i mewn Sion Hugh yn hau Winiwns [sic wynwyn], lettis [sic. letys], redis [sic. radys, rhuddygl] a berw ffreinig. Griffith Jones y Tailiwr yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod sych teg wedi rhewi peth neithiwr. Yn Aredig yn y Buarth gwyn y boreu, y Prydnhawn yn mynd i blanu Cloron i’r Ardd wrth y Beudy newydd. Sion Hugh yn dechreu palu yn yr ardd isa. Elin ac Ann wedi bod yn Drêf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych teg. Wil Sion wedy [sic] bod yn Tynant. Sion Francis yn nol Ceirch hâd y lleill yn planu Cloron yn yr hen lôn. Fi wedi bod yn Maentwrog yn nol arian yr Ymenun [sic] oedd Wil Sion wedi fynd efo fo. William Owen y Gwyndy yn galw yma wrth fynd adref o ddanfon y Mab i Gaer i’r Ysgol, heb fynd i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych teg Yn darfod Aredig yn y Buarth gwyn erbyn canol dydd, yn mynd wedi [sic] i deilo i Gae’r hendra. Elin yn mynd i Langybi a’r Ty’n lôn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych teg. Fi wedi bod yn Llan –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych teg. Yn teilo o’r hen Gadlys y Morfa i Forfa’r Goedan [sic][Morfa'r Goedan]. Dic yn caibio [sic. ceibio] yr hen lôn rhwng y ddwy Ardd. Fi wedi bod yn Tremadoc yn nol llysdida a thenynod [llysg bigau a chadwyn i dynnu’r og, efallai?] at Lyfnu. Elin yn dwad adref o Langybi a’r Tynlôn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych teg dwl, Yn parottoi at lyfnu’r boreu, ddaliad y Prydnhawn yn dechreu LLYFNU CEIRCH [sic] yn y Llainhir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych teg. Fi yn mynd i Garnarfon [sic] ir Sesiwn. Yn llyfnu’r Weirglawdd [sic] ucha ac yn dechreu yn y Caebanadl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/3/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod sych teg. Yn llyfnu yn y Caebanadl. Fi yn y Sesiwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych teg, Gwener y Croglith [sic] Fi wedi bod yn y Llan Yn darfod llyfnu y Caebanadl, a’r buarth gwyn, Yn y Farchnad 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych teg, Wil Sion wedi bod yn Towyn yn no tri chwarter Tunell o Glo [sic. nol tri chwarter tunnell o lo] , yn mynd y Prydnhawn i ddechreu llyfnu a theilo i Fuarth yr hen Erw i Gloron. Fi wedi bod yn Festri yr oedd yr Overseers yn rhoi eu Cyfri i fynu. Merch Cefncynferch yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych dwl. Fi wedi bod yn y llan. Y Gaseg yn syrthio danaf yn y goriwared  [sic goriwaered] wrth ddyfod i lawr at y Pwllglowlas [sic. Pwllgoleulas] SUL Y PASG [sic. Priflythrennau ]  


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun y Pasg. Diwrnod sych teg. Wil Sion wedi bod yn Towyn yn holi am Galch. Robin wedi bod yn y dref yn nol pwn o Frag, a chloron cynar [sic. cynnar] oddiwrth J Jones y Crwynwr. Siani wedi bod yn y Towyn a’r Dref efo merch Cefncynferch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod sych gwresog. Yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i ben isa Gae’r hendra hyd hanner dydd, yn mynd i ddechreu aredig i ben isa Gae’r hendra ddaliad y Prydnhawn. Dic a Harri yn planu [sic] Cloron yn yr ardd isa. Owen William Ismael yn dwad a Maenlliffo [sic.maen llifanu, carreg hogi] bychan yma imi roi ar y Dwrn, ac yn mynd a bauch [sic. baich] o wair o’r Morfa efo fo adref. Swch yr aradr yn tori [sic] yn Cae’r hendra. Wil Siom yn ei ddanfon i’r Efail iw drwsio, merch Cefncynferch yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych gwresog, Yn mynd i dddechreu aredig i Forfa’r Goedan [sic]. Dic yno’n chwalu tail ac yn carrio [sic] y peth a godasid o’r ffosydd i’r pant mawr yn Morfa’r Goedan. Dyn o’r Penrhyn yma’n codi maen [sic. “codi maen” wedi ei groesi allan] ymofyn Grisial. Robin wedi bod yn yr Efail yn nol aradr y Tir oedd wedi bod yno yn trwsio ei swch.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod sych gwresog. Yn Aredig yn pen isa i Gae’r hendra. Sion Morris yn darfod dyrnu’r helm Haidd, yn mynd wedi [sic] i nithio. Fi wedi bod yn Penmorfa yn y Festri yr oedd yr Overseers newyddion yn cymeryd lle


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod sych gwresog. Yn darfod aredig a llyfnu pen isa i Gae’r hendra. Yn darllaw. Neli wedi bod yn Nhy Richd.Thomas Penmorfa yn nol hops [i ddarllaw?] Fi heb fynd i’r Farchnad. Gwen Williams Caeddafydd yn dwad yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod sych gwresog. Yn darfod llyfnu Ceirch a had gwair yn Cae’r hendra, Yn mynd ddaliad y Prydnhawn i aredig i forfa’r Goedan [sic] ac yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Yn cael Pys a had moron a Bresych iw planu [sic] oddiwrth John Nicholas Garddwr Abererch. Fi yn dechreu tori cloron brithion [?] at eu planu 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sul Diwrnod sych gwresog. Fi wedi bod yn Llan ----- Y PASG bach


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl niwlog yn y boreu, yn clirio peth at y Prydnhawn. Mr.Evans Trafaeliwr o Gaer yn galw yma. Yn aredig yn Morfa’r Goedan [sic] y lleill yn yr Ysgubor yn puro Haidd. Sion Hugh yma’n planu [sic] Bresych, pys ac yn hau pys a Moron


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod cymylog sych Yn aredig yn Morfa’r Goedan. Dic yn darfod Caibio [sic] yr hen lôn ac yn mynd wedi [sic] i gau clawdd yn yr ardd ucha, hyd hanner dydd yn mynd wedi [sic] i drwsio’r clawdd rhwng y ffordd fawr a Morfa. Harri wedi bod yn yr Efail y Dref yn nol bowltia i roi darn mewn llidiart i fynd ar adwy’r mynydd y Tymawr. Robin wedi bod a chwech Hobad o Haidd yn y Dref yn Cyfnewid efo John Pugh Tynllyn Penmorfa.yn dwad 100lb o had glofer, a Jar o Gin efo fo adref wedi dwad o Gaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu. Robin wedi bod yn y Tywyn [sic. Towyn?] yn chwilio am Galch heb gael dim, Fi wedi bod efo Dic yn rhoi llidiart ar Adwy’r Mynudd [sic] y Tymawr. Owen Roberts Tyn lôn yn galw yma. Ellis Evan Tyn y ffrydd [sic] y Garn wedi bod yma, Gwen Richard Griffith y Trauan [sic Traian] wedi bod yma yn nol Telaid o Haidd. Yn Aredig yn Morfa’r Goedan y Prydnhawn, Ffair yn Tremadoc Fi wedi bod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod dwl claiar wedi bwrw gwlaw trwy’r boreu. Robin wedi bod yn Towyn yn nol calch y boreu. Robin a Dic yn mynd ar ol hanner dydd i gau clawdd pen isa’r mynudd [sic]. Y lleill yn mynd i aredig i Forfa’r Goedan. William Owen y Cwm mawr yma’n lladd y FUWCH dew. Gwas Morris Jones y Siopwr yma nol hanner Telaid o Gloron – 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod dwl sych claiar, Robin wedi bod yn y Town [sic. Towyn?] yn nol calch William Owen yma’n tori’r [sic] Fuwch. Dic wedi bod yn danfon y Croen i’r Plâs newydd yn Aredig yn Morfa’r Goedan. Fi heb fynd i’r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dwl sych claiar. Yn Aredig yn Morfa’r Goedan ddaliad y boreu, yn mynd y Prydnhawn i’r Towyn i nol Calch. Harri wedi bod yn y Dref efo Wm.Owen yn nol triugain pwys o Halen i Halltu’r Fuwch, Yn troi DEFAID [sic] dieithr i’r mynudd [sic] y Merchaid [sic. merched] yn hallty’r [sic. halltu’r] Fuwch – Rhoi’r Dyrcan i eistedd yn Ty bach 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax