Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
17/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod sych teg Mr.Owen Aberglâslyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod gwresog. Harri wedi bod a’r Gaseg yn Efail Sion Evan. Yn Aredig yn Morfa’r Goedan ddaliad y boreu. Y Prydnhawn yn mynd i’r Towyn i nol Calch Wil a Dic yn cau o gwmpas Caebanadl


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod gwresog. Robin wedi bod yn y Tywyn [sic] yn nol dwy Siwrna o Galch.y lleill yn carrio [sic] dwr i yslaccio’r Calch yn Morfa’r Goedan, o herwydd sychder


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw lled drwm ar hyd y dydd. Robin wedi bod yn y Tywyn yn nol dwy Siwrna o Galch.y lleill yn chwalu Calch yn Morfa’r Goedan. Harri yn priccio’r [sic. pricio'r] Pys. Fi yn rhoi Calch i’r Moron yn yr Ardd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau. Diwrnod dwl sych wedi bygwth bwrw gwlaw yn y boreu, Robin wedi bod yn y Towyn yn nol dwy siwrna o Galch. Yn dechreu llyfnu Haidd yn Morfa’r Goedan. Fi wedi bod yn rhoi clicied ar adwy’r Mynudd [sic] y Tymawr. Tebygu i ddryghin at y Prydnhawn ac yn bwrw gwlaw’n drwm


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych mwll. Yn aredig yn Morfa’r Goedan ac yn dwad a llwyth o wair i’r Morfa i’r Marchdy y lleill yn curo biswail. Fi heb fynd i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dryghinllyd yn bwrw gwlaw’n drwm o’r Dwyrain Sych at y Prydnhawn. Robin wedi bod yn Towyn yn nol dwy siwrna o Galch, y lleill ar ol canol dydd yn mynd i gau o gwmpas Cors Tyddyn llewelyn Y Ferlan a brynais gan SION MORIS [sic] wedi dwad a chiw neithiwr Yn rhoi’r Dyrcan felan i eistedd yn y Ty bach neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod dwl ac yn taflu dafna [sic. dafnau] o wlaw lled oer weithia[sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod sych lled oer. Harri wedi bod a Captan yn Efail Sion Evan Yn troi’r Defaid a’r Wyn i’r Mynudd [sic] Yn marcio pedwarugain a dau o Wyn [sic. wedi tanlinellu], tri ugain ac wyth o hesbyrniad [sic], triugain a chwech o fyllt. Yn mynd wedi [sic] i lyfnu Haidd i Forfa’r Goedan. Robin wedi bod yn Towyn yn nol Calch. Fi wedi bod mewn Festri y Mhenmorfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych cymylog mwll. Yn aredig ddaliad y boreu yn Morfa’r garreg.yn llyfnu Haidd yno ddaliad y Prydnhawn, a Robin wedi bod y Towyn [sic] nol Calch ac yn meddwi’n o drwm


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych mwll. Dic wedi bod a’r FERLAN yn y Parcia efo ystalwyn, yn Aredig yn Morfa’r garreg ddaliad y boreu, ac yn llyfnu yno ddaliad y Prydnhawn. Robin wedi bod yn Towyn yn nol Calch. Gwartheg y Beudy ucha yn mynd i Gaegronw, a Gwartheg y Morfa yn mynd i’r Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod drom. Yn darfod aredig Morfa’r Goedan ac yn dechreu yn Morfa’r Garreg. Yn carrio dwr i Yslaccio’r Calch yno Elin a minau wedi bod yn Nhremadog, Yr Ebolas [sic. eboles] bach wedi mynd i’r Trainia’r Morfa 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener Diwrnod sych teg ac yn bwrw cawod yn y Prydnhawn, Yn aredig yn Morfa’r Garreg.y lleill yno’n chwalu Calch, Fi heb fynd i’r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/4/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod mwll yn Taranu peth ac yn bwrw ambell gawod drom o wlaw taranau

Yn aredig yn Morfa’r Goedan [“Goedan” wedi ei groesi allan] Garreg, ac yn llyfnu Haidd yn Morfa’r Goedan. Fi yn dal peth ar yr Aradr i gael i Wil hau. Sionun Penrhyn heli yn dwad a llestri yma oedd Elin wedi eu prynu gan Morris Jones Siopwr Tremadoc –


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL  Diwrnod dwl claiar. Llwydig wedi dwad a llo neithiwr yn bwrw ambell gawod


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun. Diwrnod dwl mwll, Yn aredig yn Morfa’r Garreg ac yn darfod llyfnu’r Morfa’r Goedan erbyn hanner dydd, ac yn dechreu llyfnu Morfa’r Garreg ddaliad y Prydnhawn. Fi yn dal yr Aradr tra byddai Wil yn hau. Griffith William yma yn nol treth Tylodion [sic] gyntaf am y flwyddyn bresenol [sic] , bwrw peth gwlaw y Prydnhawn. Ann bach yn sâl ac yn cysgu trwy’r Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn dwad yn wlaw ac yn ddryghin at y Prydnhawn. Yn darfod Aredig yn Morfa’r Garreg. Fi yn dal yr Aradr yno tra fu Wil hau. yn llyfnu Haidd yno Ann bach yn dal yn sâl. Neli wedi [sic] yn y Dref yn nol Phisig iddi, ac yn danfon llythur yno i Gyfarfod y Doctor Williams y Plâshen i ofyn iddo ddyfod yma i olwg Ann


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher. Diwrnod distaw claiar ac yn bwrw gwlaw claiar mân ar hyd y dydd Wil Sion yn teilo i gloron i fuarth yr hên Erw. Harri yno [sic] Llyfnu’r tir Cloron, Dic yn y Morfa’r Goedan yn clirio’r ffôs, Ann bach yn parhau yn sâl, Hindda at y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Iau Diwrnod distaw mwll iawn ac yn bwrw peth weithia.Yn [sic] i Fuarth yr hen Erw i Gloron. Dic wedi bod yn cau clawdd pen isa i’r Mynudd hyd hanner dydd. Yn mynd wedi efo Neli a Harri i Hendratyfi i hel Cerrig. Fi yn torri Cloron. Mr Williams Meddyg y Plâs hen yma efo’r nos, Ann bach beth gwell


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Gwener. Diwrnod dwl claiar iawn ac yn bwrw ambell gawod weithia. Robin wedi bod a Jack a Denbi yn yr Efail Sion Evan, ac wedi bod yn y Plâshên yn nol Phisig i Ann bach, hithau yn gwellhau peth. Yn darfod llyfnu Haidd yn Morfa Garreg. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Sadwrn Diwrnod dwl sych wedi Taranu peth neithiwr. Yn teilo i Gloron i Fuarth yr hên Erw. Dic yn Morfa’r garreg hyd hanner dydd yn darfod agor y ffos wrth benna’r Cefna, yn mynd wedi efo Neli a Harri i orphen hel cerrig Hendratyfi ac i ddechreu i’r Buarth gwyn. Mwinig wedi dwad a llo yn y boreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

SUL Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw ambell gawod -


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

llun Diwrnod dwl cymylog sych claiar, Yn darfod teilo i Gloron i Fuarth yr hen Erw y lleill yn darfod hel Cerrig. Fi yn trwsio llidiart iw roi ar Adwy Cae’r Hendra Gwen Williams Caeddafydd a Betty Owen Tremadoc yma. Y Fuwch wen wedi dwad a llo boreu Hedddyw [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mawrth. Diwrnod sych teg. Yn dechreu planu Cloron yn Buarth yr hen Erw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1825
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Mercher Diwrnod sych teg Yn darfod planu [sic] cloron yn Buarth yr hen Erw erbyn canol dydd, yn mynd wedi i deilo i’r hên Ardd Gloron. Wil y Gorllwyn yn dwad yma i wneud Cewill [sic. cewyll], Siotig wedi dwad a LLO [sic] y Prydnhawn Heddyw [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax