Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
24/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn, Diwrnod gwresog brâf  y Meibion yn mynd i hel y Defaid Fi yn yspaddu’r wyn. Cowras yn bwyta’r arenau rhag imi wybod eu cyfri. ac yn bwyta’r menun gwyryf cael drwg mawr gan Elin o’r achos. Yspaddu dau Faharen  ...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul   Gwres mawr iawn. Fi wedi bod yn Llan. Unarbymtheg o bobl yno heblaw y Bugail ai bastwn. Farmer [ceffyl] yn colli ei bedol yn Tremadoc wrth ddyfod adref. Robt, Wynne Cefncymerau yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Gwres mawr. Symmud y gwartheg. chwech Bustach at y gwanwyn yn mynd i’r Morfa ucha. Y dynewid gwrywaidd yn mynd a’r tri bustach cwlin yn mynd i’r Ty mawr. Dynewid benywiad [sic] a’r tair heffer yn aros yn yr allt. Fi yn mynd i Dremadoc yn prynu defnydd trowsus ac yn torri fy ngwallt. yn mynd i’r Towyn efo Morris Jones Siopwr ac yn prynu dau bôc Fawydd. Yn cael dau gwart o Borter efo fo ac Owen Edwards fy nghyfyrder mab Griffith Edward Llwyndu Llanaber, yn siarad am galch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Gwres mawr y Buchod yn mynd i Gae’r Fotty  Guto Dic a Siani wedi mynd i godi mawn  Will wedi dwad a deg pwn ar hugain o galch o’r Towyn  Twm Robt Griffith Prenteg yn gyru Pysgodyn bychan yma efo Will o’r Towyn 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Gwres mawr. Will yn dwad a dau lwyth o dyfod [sic] at y calch  y lleill yn codi mawn  Robt Griffith Saer yn dyfod yma y Gwenun yn heidio o gwmpas hanner awr wedi un o’r Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  gwres mawr. Ffair yn Criccieth Taranu yn y Prydnhawn Fi yn Cyflogi Ellis Evans Ty’n y ffridd yn bladurwr am dair ceiniogarddeg yn y dydd  llo gynffonwen wedi marw. Siotig wedi dwad a llo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/6/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod dwl mwll ac yn taranu peth yn y boreu  Yn dechreu lladd gwair yn y Morfa rhif un. Fi yn mynd i’r Efail i ymofyn ffyn haiarn at wneud ysdol  yn mynd oddiyno i Benmorfa at W.Williams steward yn dwad adref erbyn hanner awr wedi unarddeg o’r gloch y nos. Gifft y Fastiffgâst wedi mynd ar goll boreu heddyw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. gwres mawr. Ellis y Pladurwr yn dyfod yma at haner dydd.... Gwas Morris Jones Siopwr Tremadoc yn danfon mefus yma, minau yn rhoi Clorenod newyddion iddo i fynd adref. Fi a Robt. Griffith (saer), yn torri coed i wneud ofergarfanau ar y Drol Y Meibion yn lladd gwair yn y Morfa. ac yn coccio peth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw mân  Huwcyn yr hen wâs yma Gift [y ci] wedi dyfod adref erbyn y boreu, y lloia yn sugno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod lled oer cawodog. Fi yn cyflogi Jonet Merch Griffith Robert Bwlch y moch i drin gwair am with geiniog yn y dydd am Fis. Y meibion yn lladd gwair y Morfa bâch. Ann’r Erwdeg gynt yma yn ymofyn Siampl Gwenith oddiwrth Mr. Edwards sydd yn byw yn Tanrallt ucha ac eisiau. gwybod ei brîs. Fi ymron ffaelu penderfynu pa un ai i’r Ty mawr ynteu i Gaegoronw yr aen i ladd gwair gan debygolrwydd anwadolrwydd yr hin, ond o’r diwedd yn penderfynu ac yn mynd i’r Tymawr i ddechrau o gwmpas dau o’r gloch y Prydnhawn. O gwmpas yr un ammser fy Ewythr Owen Edward Tyddyn y Gwynt yn dwad yma o achos y rhaniadau oeddwn yn ei gael o Fynudd Llanfair sir Feirionydd at Dyddun y gwynt a Drwsyrymlid


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod dwl mwll, meibion yn lladd gwair yn Tymawr Jonent [sic] Griffith yn dwad i’w lle Fi yn i Benmorfa i’r Festri  Y Meibion ar ol ciniaw yn mynd i’r Morfa i gocio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd mercher  Diwrnod gwresog. Y Meibion yn gorphen lladd gwair Tymawr ac yn cario gwair yn y morfa ac yn cocio peth  Fi yn mynd efo Owen Humphreys i’r Dinas ddu i osod Ffens i’w gwneud rhag i’r afon dorri’r morfa, yn ei gosod i sion Jones Pantllwyd i’w gwneud am saith swllt y rhwd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod teg. Y Meibion yn troi gwair Tymawr yn y boreu ac yn cario gwair y morfa. William Jones Plasynpenrhyn yma’n chwilio am fenthig arian ac yn ciniawa, yn diwedd cario gwair y morfa ac yn cael cynhauaf da hynod iddo. gwair y Tymawr i gid [sic] yn barod, ac heb amser i fynd atto, Margaret Morris yma beth allan o’i ffordd ei hun


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Gwres mawr. Yn dechreu tyrru’r gwair Tymawr o gwmpas wyth o’r gloch y boreu, a’r Ceffylau yn mynd yno i garrio, Y Meibion wedi bod beth yn y boreu yn dechreu lladd gwair yn Caegoronw, yn diwedd carrio gwair Tymawr ac yn cael Cynhauaf da anghyffredin Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad y Prydnawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Gwres brâf. Y Meibion yn lladd gwair yn Caegoronw  Fi yn mynd trwy’r Traeth i Dyddyn y gwynt, oddi yno i ben y mynydd i gyfarfod Richd Robert Ffridd fedw i edrych Clawdd oeddynt yn ei wneud rhwng y plwy Llanfair a Llanfihengel y Traethau, yn yfed gwydraid o gwrw yn y Ffridd fedw wrth ddyfod adref. Yn gweled Plant Mr. Gore ar y fforth [sic] mewn Trol o’r Glyn Cowarch yn mynd i’r Traeth i ymdrochi, Mrs.Williams Person Trawsfynydd yma’n Talu am Wenith


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod têg heb fod yn wres mawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

 Dydd llun. Gwres mawr. Y Meibionyn Caegoronw yn lladd gwair a’r merched a fu yno yn trin gwair. Robt. Jones Hendrahowel yma yn Llacio’r calch. William Dafydd Sygun a’r bachgen yma’n Llifio Ffawydd at lofftio’r Ty. Elizabeth Griffith Llangybi yma wrth fynd i’r Ffair Gaer  Elin a minau yn ei danfon trwy’r Traeth

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Gwres mawr. Robt. Jones Hendrahowel yma’n Cymysgu’r Calch, y Meibion yn tyrru gwair Caegoronw ucha ac yn lladd gwair yn Cagoronw [sic] isa. Bachgen Sion Thomas Tyddyn dicwm yma yn danfon Llythyr yma oddiwrth Wm, Jones Tyddyn Elen o achos Rich Robert alias Dic Robin ychwaneu [sic] [y chwanen?] oedd wedi cael ei symud i blwyf Coedana yn Sir Fon a hwytha am dreio Cyfraith yn y chwarter sesiwn nesa. William Jones yn cysgu yma neithiwr ac yn dwad a phedwar o Grancod yma 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod dwl mwll ac yn taflu dafnau gwlaw ganol dydd.Yn carrio gwair Caegoronw ucha. Robt. Jones Hendrahowel yma yn gorphen cymysgu’r Calch. Yn rhoi dau Fwdwl gwair yn Tygwair Tymawr 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Iau  Diwrnod gwresog ac ychydig o awel. Tri o’r Meibion yn gwneud pen dâs gwair yn y Morfa ac yn mynd at y lleill i ladd gwair i Gaegoronw  Wm Jones Bwlchymoch yn dod a buwch at y Tarw.  Will Pant hir yn twll Maengrisial. Fi yn gyrru Llythur at W.Jones Tyddyn Elen a Notise [sic] oeddwn wedi ei gael oddiwrth Blwyfolion Coedana o achos Richd.Robert alias Dic robin y chwanen am oediad oi dreio yn y chwarter Swsiwn y foru. Fi yn mynd i Dremadoc....


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Diwrnod dwl. braidd yn tebygu i wlaw. Meibion yn carrio gwair peth o gaegoronw isa. Fi ac Elin yn mynd i Dremadoc i edrych Siou [sic] sef dau ddyn a Dynes Bychain a Dyn Mawr oedd yn cael eu cludo mewn dau gerbyd mawr. Pedwar o geffylau yn tynu un a dau yn tynu’r llall. Ceffylau gleision oeddynt ac o faintioli anhyffredin [sic] Y Dyn mwyaf yn Saith Droedfedd o hyd. Y Cymro a’r Sais lleiaf mi feddyliwn nad oeddyn fawr dros Lathen un yn 20 oed ar llall yn 23. Dynes 24 oed 31 modfedd o hyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod dwl, mwll, y Meibion yn diwedd lladd gwair Caegoronw ac yn carrio peth gwair ac yn ei ddiwedd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod teg mwll. Fi yn mynd i’r llan. Yn ymdroi yn nhy Richd. Thomas i Giniawa. ymedydd yr eneth. E Griffith Llangybi a Griffith Jones dyn dieithr o Leyn yn dyfod yma o Ffair Gaer. Y Milgi yn dwad adref wedi cael ei gnoi yn ofnadwy gan gwn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Y Meibion yn dechreu lladd gwair Dâs y Beudy Newydd yn dwad i fwrw gwlaw trwm Claiar trwy dydd... Ann Sion Prenteg yn dwad a Physgodyn bychan yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod gwresog mwll, ac yn Taranu mewn manau  Will a Sion Morris yn gwneud pen dâs y Morfa ac yn cau oi gwmpas, y lleill yn lladd gwair Hendratyfi a pheth o gae’r Hendra, Sion Tomas Tyddyndicwm yr overseer ym [sic] Fi yn talu dwy bunt iddo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax